Sut mae MaPS yn cefnogi gweithwyr
View in English / Edrychwch ar y dudalen hon yn Saesneg
Sut y gallwn ni helpu
Pan fydd busnes yn wynebu digwyddiad mawr fel ailstrwythuro, gwerthiant neu fethdaliad, mae hyn yn achosi gofid naturiol. I rai bydd y newidiadau yn cyflwyno cyfle trwy ddiswyddo, ail-leoli, ailhyfforddi neu ymddeol yn gynnar ond byd hefyd yn cyflwyno angen i adolygu eich sefyllfa ariannol a chwestiynau ynghylch beth yw’r ffordd orau i ddelio â’r effaith ar eich cyllid.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu pobl i wneud y mwyaf o’u harian a phensiynau. Rydym yn cynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd diduedd ac am ddim ar bensiynau a materion ariannol, yn ogystal â chefnogi darparu ac ariannu cyngor ar ddyledion. Gallwch gysylltu â MaPS ar draws amrywiaeth o sianeli gydag unrhyw gwestiwn ynghylch arian a phensiynau sydd gennych.
Ni fyddwn ni’n dweud wrthych chi beth sydd angen i chi ei wneud, na pha gynnyrch ddylech chi ddewis, ond byddwn yn eich helpu i ystyried y goblygiadau ac, os bydd angen, i drafod sut allwch chi gael mynediad at gyngor ariannol wedi ei reoleiddio a chadw’n ddiogel wrth drafod eich arian.
Rydym yn gweithredu dan nifer o frandiau. Ni fydd ein gwasanaeth byth yn cysylltu â chi yn ddirybudd, nac yn argymell unrhyw gynnyrch, ac mae dynwared MaPS, Pension Wise, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn drosedd. Gwyddom pan fydd ardaloedd lleol yn cael eu heffeithio gan gau busnes mawr neu newid i gynllun pensiwn, y gall pobl ddod yn dargedau ar gyfer arferion diegwyddor. Ein rôl ni yw cynnig lle diogel i fynd gydag unrhyw bryderon ariannol a phensiynau sydd gennych chi.
Amlinellir crynodeb o’r tri gwasanaeth sy’n llunio’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau isod, ynghyd â manylion gwybodaeth ar-lein.
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy
Llinell gymorth cyfarwyddyd ariannol: 0800 138 0555
Sefydliad annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’n rhoi cyngor ariannol diduedd, am ddim ar-lein yn moneyadviceservice.org.uk, neu dros y ffôn ar 0800 138 0555. Darperir cyngor ar ddyledion drwy amrywiaeth o bartneriaid ledled y DU hefyd.
Sefydlwyd y Gwasanaeth gan y Llywodraeth a thelir amdano gan dreth statudol ar y diwydiant gwasanaethau ariannol, a godir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ei nodau statudol yw gwella dealltwriaeth a gwybodaeth y cyhoedd am faterion ariannol (gan gynnwys system ariannu’r Deyrnas Unedig); a gwella gallu’r cyhoedd i reoli eu materion ariannol eu hunain.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
(The Pensions Advisory Service)
www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Llinell gymorth pensiynau: 0800 011 3797
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn cynnig arweiniad arbenigol, am ddim, annibynnol a diduedd i aelodau cynlluniau pensiwn y Deyrnas Unedig ar faterion pensiynau a chynilo ar gyfer ymddeoliad.
Yn 2018-19 fe ddarparom arweiniad personol ar bensiynau i 217,000 o gwsmeriaid ar draws amrediad eang o faterion yn ymwneud â phensiynau, ac yn benodol i bobl yn wynebu anawsterau neu heriau penodol – p’un a oedd hynny yn bethau fel ystyried effaith ysgariad ar bensiynau neu gynnig cefnogaeth i wneud penderfyniadau pwysig fel os dylid trosglwyddo buddion pensiwn gwerthfawr.
Rydym yn cynnig gwasanaethau trwy amrediad o ffrydiau; llinell cymorth rhadffôn, sgwrs gwe, rhith apwyntiadau wedi eu galluogi’n ddigidol, e-bost, post papur ac atgyfeirio, allgymorth a gwefan benodol. Nid oes cwestiwn sy’n rhy fach neu’n rhy fawr!
Pension Wise
https://www.pensionwise.gov.uk/cy
Llinell trefnu apwyntiad: 0800 138 3944
Cylch gorchwyl Pension Wise yw cynnig apwyntiad am ddim i unrhyw un dros 50 oed gyda phensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio i drafod yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio eu cynilion pensiwn, beth i’w ystyried a sut i osgoi dioddef o dwyll pensiwn.
Gellir cael apwyntiad Pension Wise naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb trwy ein rhwydwaith o bartneriaid CAB, ond gall pobl hefyd gael mynediad at wybodaeth a gwirio pa fath o drefniant pensiwn sydd ganddynt ar-lein ar https://www.pensionwise.gov.uk/cy.
Pan fydd cwmni yn gwneud diswyddiadau neu’n mynd yn fethdalwr, mae hyn yn amser arbennig o bwysig i adolygu eich sefyllfa pensiwn, yn arbennig os ydych chi’n debygol o dderbyn unrhyw fath o daliad atodol. Os oes gennych chi bensiwn gweithle cyfraniad diffiniedig a’ch bod yn 50 oed neu’n hŷn, efallai y byddai’n ddefnyddiol trefnu apwyntiad Pension Wise.
Gwybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau
Y Llawlyfr Dileu Swydd (Canllaw Printiedig a PDF)
https://moneyadviceservice.apsmos.com/ViewArticle.html?sp=Syllawlyfrcolliswydd
Mae ein gwefannau hefyd yn cynnwys nifer o ganllawiau ac offer eraill a allai fod yn ddefnyddiol, gan gynnwys:
https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/cyfrifiannell-tal-diswyddo
https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/gwneud-y-gorau-och-tal-dileu-swydd
Gwybodaeth ar fudd-daliadau a chredydau treth pan ydych wedi colli eich swydd:
Cefnogaeth os mewn dyled:
https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/tools/canfyddwr-cyngor-ar-ddyledion/organisations
Gwybodaeth ar effaith pensiynau a chadw eich arian yn ddiogel:
https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/sut-i-adnabod-twyll-pensiwn