Beth yw lles ariannol?

Mae lles ariannol yn cael ei adnabod gan llawer o enwau – fel llythrennedd ariannol, lles, hyder neu wytnwch – ond yn syml, mae’n ymwneud â chael perthynas dda â’ch arian.

I ni yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel a mewn rheolaeth o‘ch cyllid, nawr ac yn y dyfodol. Gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, eich bod yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach.

Mae pobl sy’n profi lles ariannol dan lai o straen am arian. Mae hyn, yn ei dro, yn cael effeithiau cadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol cyffredinol, ac ar eu perthnasoedd.

Mae’n bwysicach nawr nag erioed helpu’ch cydweithwyr, eich cwsmeriaid a’ch cymuned i adeiladu lles ariannol. Gall MaPS helpu’ch sefydliad i ddechrau neu barhau i ddatblygu ffyrdd o wneud hyn.

Mae sawl agwedd ar les ariannol. Rydym yn rhannu lles ariannol cyffredinol y DU yn bum maes allweddol:

  • Derbyn addysg ariannol ystyrlon
  • Cynilo’n rheolaidd
  • Defnyddio credyd ar gyfer hanfodion bob dydd
  • Cyrchu cyngor ar ddyledion, a
  • Chynllunio am y presennol ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

A dyma pam mae’r agweddau hyn ar les ariannol mor bwysig. Cyn y pandemig:

  • Roedd gan 11.5 miliwn o bobl lai na £100 mewn cynilion i ddisgyn yn ôl arnynt.
  • Roedd 9 miliwn o bobl yn aml yn benthyca i brynu bwyd neu dalu am filiau.
  • Dywedodd 22 miliwn o bobl nad ydynt yn gwybod digon i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.
  • Ni chafodd 5.3 miliwn o blant addysg ariannol ystyrlon. (Arolwg Gallu Ariannol 2018)

Mesur lles ariannol

Mae’r ystadegau hyn yn cynnig arwydd cryf o sut mae lles ariannol (ac yn gyffredinol llythrennedd ariannol a gallu ariannol) yn ei wneud yn y DU. Gellir dangos gwelliannau mewn lles ariannol naill ai mewn gostyngiad neu gynnydd yn yr ystadegau allweddol hyn. Rydym yn arolygu’r genedl yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau yn y meysydd cyllid personol hyn.

Mae cenedl sy’n iach yn ariannol o fudd i unigolion, cymunedau, busnesau a’r economi.

Gall straen ariannol – a’i effeithiau canlyniadol ar iechyd meddwl, chwalu perthynas ac iechyd corfforol – arwain at ganlyniadau difrifol i unigolion, anwyliaid a’n cymunedau. Mae effaith economaidd Covid-19 wedi effeithio ar iechyd meddwl rhai unigolion, gan waethygu problem ledled y wlad.

Dros y cyfnod 2020–2030, rôl allweddol i MaPS fydd ehangu’r ystod o arweinwyr sydd wedi ymrwymo i wella lles ariannol mewn sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Sut mae lles ariannol o fudd i fusnesau a chyflogwyr

Mae cyflogwyr hefyd yn elwa o les ariannol

Mae pobl sy’n mwynhau lles ariannol da yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith. Os nad ydynt, mae cyflogwyr yn dioddef hefyd. Yn 2018, nododd 11% o weithwyr y DU eu bod wedi profi cwymp mewn cynhyrchiant ar ryw adeg dros y tair blynedd flaenorol o ganlyniad i’w sefyllfa ariannol.

Mae busnesau hefyd yn elwa

Os nad yw pobl ar ei hôl hi gyda biliau a thaliadau, mae gan fusnesau elw a llif arian iachach ac nid oes angen iddynt ddileu dyledion. Bydd pobl sydd â lles ariannol yn gwario’n gynaliadwy.

Mae’r economi hefyd yn elwa o ffocws dyfodol y bobl sy’n mwynhau lles ariannol

Pan all pobl neilltuo arian ar gyfer eu dyfodol mewn cyfrif arian parod, gellir ei fuddsoddi mewn busnesau ac o bosibl hybu rhannau cynhyrchiol yr economi.

Efallai bod eich sefydliad eisoes yn helpu pobl gyda’u harian ac yn adeiladu lles ariannol. Er enghraifft:

  • A yw’ch sefydliad yn cynnig pensiynau gweithle neu arwyddbost i’ch cydweithwyr i ostyngiadau a chyngor ar ddyledion yn eich strategaeth lles gweithwyr?
  • A yw’ch cwsmeriaid / defnyddwyr gwasanaeth yn gofyn am help gyda biliau, llenwi ffurflenni budd-daliadau neu agor llythyrau?
  • A yw’ch sefydliad yn cyfeirio i helpu gydag arian, fel undebau credyd lleol, awgrymiadau cyllidebu, gwybodaeth pensiynau neu wasanaethau cynghori ar ddyledion?
  • A ydych yn helpu pobl â straen neu faterion iechyd a achosir gan gyllid?

Os ydych yn helpu pobl i reoli eu harian a’u pensiynau, rydych eisoes yn helpu i adeiladu lles ariannol. Efallai mai dim ond rhan fach o’ch rôl neu genhadaeth eich sefydliad ydyw, ond mae mor bwysig i’r bobl rydych yn eu helpu eu bod yn gwybod y gallant ddod atoch am help.

Dywedwch eich stori lles ariannol

Mae sefydliadau fel eich un chi yn rhannu sut maent yn cynnig help i’w cwsmeriaid, cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth gyda phryderon ariannol mewn fideos syml.

 

Sut y gall MaPS helpu’ch sefydliad i wella lles ariannol

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i bobl wneud newid cadarnhaol. Rydym wedi ei sefydlu gan y llywodraeth i helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau, ac i gynnig arweiniad diduedd am ddim.

Rydym yn cynnig:

Cymorth arian diduedd

Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a’ch dewisiadau pensiwn yn gliriach. Yma i’ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i’w ddefnyddio.

www.helpwrarian.org.uk/

Llinell gymorth HelpwrArian0800 765 1012

Cymorth ar gael:

  • Cynnwys Cymraeg a Saesneg
  • ar-lein
  • canllawiau printiedig, hefyd ar gael yn Braille, fformatau print bras a sain
  • webchat
  • WhatsApp
  • dros y ffôn, a
  • chyngor ar ddyledion am ddim dros y ffôn ac wyneb yn wyneb trwy’r sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu.

Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol

Ni all unrhyw un sefydliad newid yr holl bethau hyn ar ei ben ei hun. Mae’n mynd i gymryd ymdrech gydgysylltiedig gan sefydliadau ledled y DU. Dyna pam ym mis Ionawr 2020 lansiwyd Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol i osod nodau ar gyfer 2030 a dod â sefydliadau o ystod amrywiol o sectorau ynghyd – o dai i iechyd ac AD – i weithio gyda’i gilydd i’w gwireddu.

Partneriaeth bwrpasol am ddim

Mae’r mentrau a rennir ar y tudalennau hyn yn tynnu ar ein harbenigedd, cymorth, ac adnoddau. Byddant yn eich helpu i wella lles ariannol yn eich gweithle.

Ymchwil a gwerthuso

Mae ein tîm mewnwelediadau yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar yr hyn sy’n newid yn lles ariannol y DU, a’r hyn sy’n gweithio i’w wella. Cofrestrwch i’n cylchlythyr a dilynwch MaPS ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Cael yr holl newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymunwch â’r sgwrs.

 

Mwy o wybodaeth

Rydym yma i helpu. Os oes gennych gwestiynau ymhellach nad ydych yn meddwl eu bod yn cael eu cwmpasu yn yr adnoddau ar y tudalen hwn, cysylltwch â ni ar partners@maps.org.uk.

 
Cael yr holl newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymunwch â’r sgwrs..
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol