Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Gofyniad arall o’r ddeddf yw bod pob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn paratoi Cynllun Iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru fel y corfforwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd Cynllun Iaith Gymraeg MaPS ei gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar Fawrth 17eg 2022.
Mae’r cynllun yn gosod sut y bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu yn y Gymraeg. Mae dwy egwyddor sy’n sylfaen i’n gwaith:

  • Yng Nghymru, ni ddylai’r iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg.
  • Dylai pobl yng Nghymru gallu byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg os ydynt yn dymuno.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Fel corff cyhoeddus, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg newydd i ddisodli cynlluniau gwahanol y sefydliadau a ddaeth at ei gilydd i’w greu – y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, a Pension Wise.

Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd MaPS yn gweithredu yr egwyddorion sydd wedi’u sefydlu gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg sef y bydd, lle bynnag y bo’n briodol ac yn ymarferol, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Mae’r cynllun yn cwmpasu’r holl wasanaethau a gweithrediadau yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol a gwasanaethau a gomisiynir, partneriaethau, cyhoeddiadau, recriwtio a phrosesau adnoddau dynol.

Trwy HelpwrArian gall ein cwsmeriaid yng Nghymru gael mynediad at gymorth am eu materion ariannol ar-lein, dros y ffôn, neu drwy WhatsApp a gwe-sgwrs.

Lawrlwythwch y cynllun yma Cymraeg

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol