HelpwrArian logo

HelpwrArian


Mae HelpwrArian yma i wneud eich dewisiadau arian a phensiwn yn gliriach. Yma i dorri trwy’r cymhlethdod, egluro beth sydd angen i chi ei wneud a sut gallwch ei wneud. Yma i’ch rhoi chi mewn rheolaeth gydag arweiniad diduedd a gefnogir gan y llywodraeth ac i argymell cefnogaeth bellach y gallwch ymddiried ynddo os ydych ei angen. I gael help arian clir sydd ar eich ochr chi ac yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, chwiliwch am HelpwrArian: moneyhelper.org.uk/cy

HelpwrArian yw ein gwasanaeth i ddefnyddwyr, sy’n darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i bobl ledled y DU.

Wedi’i greu ym Mehefin 2021, mae HelpwrArian yn dwyn ynghyd y gwasanaethau arweiniad ariannol a chynnwys o’n brandiau blaenorol, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ddod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano. 

I gael help arian clir sydd ar eich ochr chi ac yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, chwiliwch am ‘HelpwrArian‘.

Rydym yn annog ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid i barhau i ddiweddaru eich deunyddiau a chyfeirio lle bo’n berthnasol i’r brand newydd i sicrhau ei fod yn daith gyson a chydlynol i’ch cynulleidfaoedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi paratoi rhai ymatebion i gwestiynau cyffredin, a phecyn cymorth gyda’r holl wybodaeth am HelpwrArian ac asedau brand y byddwch eu hangen. 

Lawrlwythwch pecyn cymorth HelpwrArian

Gallwch hefyd wylio ein digwyddiad cyhoeddi HelpwrArian i gael rhagor o wybodaeth am y brand.

Rydym yn cynnig arweiniad clir a diduedd am ddim ar arian a phensiynau yn uniongyrchol i bobl trwy ein sianeli digidol, ein canllawiau printiedig a’n llinellau cymorth i ddefnyddwyr. Gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw gynnwys y byddwch yn ei rannu gennym yn galluogi’r bobl rydych yn eu cefnogi i gael y cymorth cywir pan fyddant ei angen.

Rydym hefyd yn gwybod y gall llawer ohonynt fod yn teimlo dan bwysau ariannol ar hyn o bryd wrth i ni ddod allan o’r pandemig ac yn wynebu heriau ariannol newydd mewn cyfnod ansicr. Gall brwydro i gadw ar ben biliau, delio â llai o incwm, costau byw cynyddol neu golli swyddi wneud i bobl deimlo nad ydynt yn gwybod ble i droi. 

Dyna pam rydym wedi creu pecynnau cynnwys newydd y gellir eu gweithredu, gan gynnwys canllawiau ar-lein cryno, teclynnau, fideos, postiadau cyfryngau cymdeithasol ac asedau printiedig i chi eu defnyddio yn eich sianeli i godi ymwybyddiaeth a darparu arweiniad ar arian dibynadwy i’ch gweithwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn y ffordd y maent am ei gyrchu.

Mae’r pynciau sy’n cael eu cwmpasu yn cynnwys:

  • Blaenoriaethwr biliau cyflym, hawdd ei ddefnyddio sy’n rhoi trefn ar y biliau a’r taliadau sydd angen delio â nhw yn gyntaf ac yn esbonio sut i osgoi methu taliadau
  • canllawiau cryno i helpu incwm gwasgedig i fynd ymhellach, gan gynnwys sut i olrhain eich gwariant, torri’n ôl ar gostau a pha gymorth ychwanegol sydd ar gael
  • ymdopi â cholli swydd neu ddiswyddo, gwybod hawliau cyfreithiol, sut i ddiogelu cyllid a symud ymlaen
  • a chanllawiau arian wedi’u teilwra ar gyfer yr hunangyflogedig, gan gynnwys ychwanegu at incwm a rheoli enillion afreolaidd.

Lawrlwythwch y teclyn negesu

Lawrlwythwch y pecyn cyfryngau cymdeithasol

Creu dolenni i’n fideos neu eu plannu

Tra bod ein sefydliadau blaenorol (Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau) wedi newid i HelpwrArian, mae Pension Wise wedi symud fel gwasanaeth a enwir o HelpwrArian. 

Gyda lansio HelpwrArian mae ein holl ganllawiau ar ymddeoliad a phensiynau wedi’u dwyn ynghyd, gan gynnwys y gwasanaeth Pension Wise.  

Mae holl ddeunydd Pension Wise (yn cynnwys y llythyr argyfeirio) wedi’i ddiweddaru i’r brandio newydd, a dylid cyfeirio eich cwsmeriaid at moneyhelper.org.uk/pensionwise

Lawrlwythwch llythyr cyfeirio >

Lawrlwythwch ganllawiau brand a logo Pension Wise

Cwestiynau cyffredin

Pam wnaeth MaPS greu brand newydd?

Ers i MaPS gael ei ffurfio yn 2019, mae wedi parhau i weithredu’r tri brand defnyddiwr blaenorol, sef y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Crëwyd MaPS fel un corff i ddod â’r gwasanaethau hyn ynghyd i ddarparu un cyrchfan gan alluogi mwy o bobl i ddod o hyd i’n gwasanaethau a chael mynediad iddynt.

Pam HelpwrArian?

Gwnaethom waith ymchwil helaeth i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf effeithiol o ddod â’n tri brand blaenorol ynghyd fel un. Drwy’r ymchwil hwn, daethom i’r casgliad y byddai un brand defnyddiwr newydd yn fwyaf effeithiol o ran cyflawni ein nodau. Yn dilyn ymchwil defnyddwyr, dadansoddiad ariannol ac ystyriaeth ofalus o’r opsiynau ar gael, dewiswyd HelpwrArian fel yr enw brand sy’n perfformio orau i’n symud ymlaen.

Pryd lansiwyd HelpwrArian?

Ar 30 Mehefin 2021, aeth gwefan the HelpwrArian yn fyw. Nid yw ein tair gwefan blaenorol – y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Pension Wise ar Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau – bellach yn weithredol. Fodd bynnag er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn, bydd unrhyw un sy’n ceisio ymwed â’r gwefannau hynny yn cael eu hatgyfeirio i’r dudalen HelpwrArian mwayf addas.

Beth ddigwyddodd i’r brandiau blaenorol?

Mae ein brandiau– y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Pension Wise ar Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau – ar gwasanaethau roeddent y neu darparud nawr yn cael eu cyflwnwi gan HelpwrArian. Mae hyn yn golygu nad yw’r brandiau y Gwasanaeth Cynghori Ariannol bellach yn cael eu defnyddio, tra bydd Pension Wise yn parhau i weithredu fel gwasanaeth a ddarperir gan HelpwrArian.

Allwch chi ddal cyrchu’r gwefannau blaenorol?

Nid yw ein tair gwefan blaenorol – gan y y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Pension Wise ar Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau – bellach yn weithredol, fodd bynnag bydd unrhyw un sy’n ceisio ymwed â’r gwefannau hynny yn cael eu hatgyfeirio i’r dudalen HelpwrArian mwayf addas.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng MaPS a HelpwrArian?

Crëwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau i weithredu fel ein brand corfforaethol, un sy’n cael ei ddiogelu drwy ddeddfwriaeth. MaPS fydd ein brand corfforaethol o hyd, a sut rydym yn ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid a phartneriaid y diwydiant. Darperir HelpwrArian gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau a dyma sut mae defnyddwyr yn ein gweld ac yn cael mynediad i ni wrth symud ymlaen.

Beth sydd wedi digwydd i’r gwefannau blaenorol?

Mae’r cynnwys a oedd yn flaenorol ar ein gwefannau brand blaenorol wedi symud i wefan newydd HelpwrArian – gan ei gwneud yn gliriach ac yn haws i bobl ddod o hyd i’r wybodaeth maent ei hangen i symud ymlaen. Mae ailgyfeiriadau gwefannau bellach yn fyw, felly bydd unrhyw un sy’n ceisio cyrchu un o’r gwefannau blaenorol yn cael ei ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen tebyg-am-debyg ar wefan HelpwrArian. Bydd gwefan MaPS yn parhau i weithredu fel ein gwefan ar gyfer rhanddeiliaid.

Ydy’r gwasanaethau a ddarperir gan MaPS wedi newid?

Na, nid yw’r gwasanaethau a ddarparwn wedi newid – maent yn cael eu darparu mewn un lle gan HelpwrArian.

Ydy’r teclynnau wedi aros yr un fath;

Fel rhan o gyfuno tri brand yn un, penderfynasom roi’r gorau i rai o’n teclynnau. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu profiad gwell ac ehangach i ddefnyddwyr – un ffynhonnell o wybodaeth ac arweiniad lle gellir dod o hyd i wybodaeth yn hawdd mewn un man.   

Beth sydd angen i ni ei wneud i ddarparu ar gyfer y newid?

Rydym wedi cyhoeddi toolkit sy’n cynnwys yr holl wybodaeth a chanllawiau HelpwrArian y byddwch eu hangen. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, gallwch ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn i wneud y newidiadau angenrheidiol i’ch deunydd a’ch cyfeiriadau i adlewyrchu ein brand newydd.

Rydym yma i helpu. Os oes gennych gwestiynau pellach rydych yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr adnoddau ar y dudalen hon, cysylltwch â ni yn brandandmarketing@maps.org.uk.

 
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol