Cyfnod gwrando

Ein cyfnod gwrando a Strategaeth Genedlaethol

Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw y bydd pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a phensiynau. Ond ni allwn wneud hynny ar ein pennau ein hunain. Rhaid iddi fod yn ymdrech ar y cyd a ddarperir drwy gydweithrediad ar draws y sector a’r diwydiant.

Felly er mwyn cychwyn arni, rhwng mis Ebrill a Mehefin 2019 cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau gwrando mewn dinasoedd ledled y DU i gael eich barn fel rhan o gyfnod o dri mis o wrando.

Cynhaliom ddeg o sioeau teithio ym Melfast, Birmingham, Caerdydd, Caeredin, Leeds, Llundain, Manceinion, Peterborough a De Ddwyrain Lloegr. Bu i ni hefyd wahodd arbenigwyr o’r sector i gynnig gwybodaeth ar bynciau fel pensiynau, cyllid personol ac i fenywod, addysg ariannol a llesiant ariannol yn y gweithle.

Rhoddodd y cyfnod gwrandogyfle i  randdeiliaid  fel chithaui gyflwyno’ch gobeithion, dyheadau ac uchelgeisiau wrth i ni gychwyn datblygu ein Strategaeth Genedlaethol a’r cynllun corfforaethol tair blynedd. Rhoesom wahoddiad i’r rhai nad oeddent yn medru mynychu’n bersonol i roi adborth drwy ebost.

Ein bwriad yw cyhoeddi’r Strategaeth Genedlaethol a’r cynllun corfforaethol erbyn diwedd mis Tachwedd 2019.

Cafodd y digwyddiadau gwrando eu cynnal gan naill ai ein tîm arweinyddiaeth gweithredol neu ein cadeirydd Syr Hector Sants.

Pwy gyfrannodd at ein strategaeth?

Clywsom gan tua 1,000 o bobl o ystod o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys:

  • gyflenwyr mawr a rhanddeiliaid gwasanaethau ariannol
  • cyflogwyr
  • grwpiau busnes
  • busnesau bach
  • llunwyr polisi
  • llywodraeth leol
  • partneriaid cyflawni
  • addysgwyr
  • elusennau rheng flaen
  • ymarferwyr lleol

Rydym bob amser yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau nad ydynt wedi gweithio gyda ni o’r blaen.

Deunydd darllen defnyddiol ynglŷn â’n digwyddiadau gwrando

Fel ffordd o ganolbwyntio’r trafodaethau yn ystod y digwyddiadau gwrando ar ddimensiynau amrywiol arian a phensiynau, rydym wedi creu dwy ddogfen “wrando” i grynhoi’r hyn a wyddem – a’n barn ar yr heriau allweddol.

Bu i ni annog pob mynychwr i ddarllen y Crynodeb Gweithredol o’n Dogfen sydd yn ffordd gyflym a gweledol i ddeall y Ddogfen Wrando yn llawn, gyda dolenni i’r manylion pellach sydd ynddi.

Bu i ni hefyd gyhoeddi dogfen ynglŷn a’r gwersi a ddysgwyd gan y Bwrdd Galluogrwydd Ariannol sy’n olrhain y gwaith dros y tair blynedd diwethaf ar y wefan Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol. Bydd hyn o ddiddordeb i chi os ydych eisoes wedi bod ynghlwm â’r gwaith hwnnw.

I glywed mwy am ein strategaeth, ymunwch â’n rhestr ebostio a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol

Darganfyddwch fwy

 
Ewch ar ôl y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno â’r sgwrs.
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol