Lles ariannol i breswylwyr tai

Cefnogi preswylwyr wrth iddynt gyllido ar gyfer morgeisi, rhent, a biliau, addasu i Gredyd Cynhwysol, neu symud i gynlluniau Hawl i Brynu neu Help i Brynu. Defnyddiwch yr adnoddau hyn ar gyfer cymdeithasau tai, cynghorau, sefydliadau trydydd-sector, Use these free resources for housing associations, councils, third-sector organisations, cwmnïau cyfleustodau, a sefydliadau rheoli hyd-fraich, yn rhad ac am ddim.

Mae lles ariannol am deimlo’n ddiogel a bod pethau mewn rheolaeth. Mae’n gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, gallu delio â’r annisgwyl, ac eich bod ar y trywydd iawn i ddyfodol ariannol iach.

Yn fyr: hyderus a grymus.

Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Pecyn Cymorth Credydwyr

Roedd gan draean o’r bobl oedd yn chwilio am gyngor ar ddyledion ôl-ddyledion treth gyngor, yn ôl ein hymchwil yn 2018. Gall credydwyr o bob sector elwa o gydweithio ag asiantaethau cyngor ar ddyledion. Lawrlwythwch ein canllaw i ymarfer da ar gyfer astudiaethau achos ymarferol a saith ffordd y gall credydwyr gydweithio â chynghorwyr dyledion i sicrhau bod pobl a all ad-dalu eu dyledion yn gwneud hynny, a bod credydwyr yn cael yr arian sy’n ddyledus.

Lawrlwytho canllaw: pecyn cymorth credydwr (yn Saesneg)

Treth Cyngor

Mae ein canllawiau i gynghorau wedi eu llunio i gynorthwyo canlyniadau tecach, gwella ymwneud rhwng preswylwyr a chynghorau a darparwyr cyfleustodau, a thaliadau cynhaliol o ôl-ddyledion, trwy cydweithio’n fwy ag asiantaethau cyngor ar ddyledion. Mae’r adnodd wedi’i fodelu ar enghreifftiau ymarfer gorau o gynghorau a darparwyr cyfleustodau yng Nghymru a Lloegr.

Lawrlwytho canllaw i gynghorau a chwmnïau cyfleustodau: Adennill Treth Gyngor Cefnogol

Canllawiau ariannol Covid-19

Arweiniad arian Covid-19: Teclyn Llywio Ariannol

Gall ein Teclyn Llywio Ariannol eich helpu i gynorthwyo preswylwyr sydd angen cyngor ar arian ond nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Gallant ateb ychydig o gwestiynau byr, a chael canlyniadau fydd wedi eu teilwra i’w sefyllfa. Mae cymorth arbenigol gan bartneriaid fel Shelter, Business Debtline a Chyngor ar Bopeth ar gael ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth.

Credyd Cynhwysol

Mae ein teclyn llywio ariannol Credyd Cynhwysol (UC) ar-lein yn cefnogi preswylwyr ar daliadau UC. Gall preswylwyr ddefnyddio’r teclyn hygyrch hwn i helpu i wneud penderfyniadau cyllidebu a chynllunio ymlaen llaw i gadw’n gyfredol â thaliadau rhent.

Gall preswylwyr ddefnyddio’r teclyn i:

  • gael gwybodaeth a chyngor yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol
  • gweithio allan y ffyrdd gorau i dalu eu rhent
  • darganfod pa gyfrifon banc sydd orau ar gyfer rheoli eu taliadau
  • cael awgrymiadau arbed arian i gwtogi costau biliau cartref
  • darganfod beth i’w wneud a ble i gael help os ydynt yn cael trafferthion.

Ceisio’r teclyn UC

Dewis cyfrif banc

Mae ein canllaw i ddewis y cyfrif banc cywir yn cefnogi preswylwyr i ddewis cyfrif sy’n gweddu orau i’w hanghenion, ac yn cynnwys canllaw fideo i agor cyfrif banc. Dysgu mwy

Ar gyfer preswylwyr sy’n ei chael hi’n anodd i gadw fyny â rhent a biliau, cyfeiriwch at gymorth cyngor ar ddyled lleol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Dysgu mwy

Mae ein prawf yn helpu preswylwyr i benderfynu lefel eu dyled, sut i weithio â chredydwyr i gael taliadau yn ôl ar y trywydd iawn, a chael mynediad i gyngor ar ddyledion. Dysgu mwy

Rhwydwaith Cynghorwyr Arian

Mae’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian yn dwyn ynghyd rhai o ddarparwyr cyngor ar ddyledion mwyaf adnabyddus y wlad at ei gilydd er mwyn i unigolion allu cael cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar ddyledion yn syth neu ar adeg sy’n gyfleus iddynt.

Dysgwch fwy a chymerwch ran

Mae cael ar yr ysgol eiddo yn newid mawr mewn amgylchiadau ariannol. Mae ein canllawiau morgais a phrynu i gynorthwyo’r rheiny sy’n gwneud y newid hwn.

Hawl i Brynu a Help i Brynu

Cefnogi’ch tenantiaid cymwys: cynnig atebion i gwestiynau cyffredin am y cynlluniau:

Os yw preswylwyr angen benthyg arian ac yn meddwl am gael cerdyn credyd neu fenthyciad, bydd ein canllawiau yn eu helpu i ystyried eu hopsiynau.

Mae dim ond 41% yn chwilio am gyngor ariannol yn ystod digwyddiadau bywyd. Defnyddiwch y teclynnau ar-lein hyn i roi canllawiau i breswylwyr ar gyfnodau allweddol, fel mamolaeth neu dadolaeth:

Rydym yn cynnig ystod eang o gyngor a ffyrdd i’w rannu â’ch cwsmeriaid.

Sicrhewch gyngor am ddim wedi’i deilwra i feithrin lles ariannol trwy gysylltu â Rhian Hughes. Bydd hi’n eich helpu i ddod o hyd i’r cyngor sy’n gweddu orau i’ch preswylwyr a’ch gweithwyr, ac yn cynnig opsiynau ar sut i gyfathrebu â nhw, fel digwyddiadau a syndiceiddio gwefan.

 

Mae Money Guiders yn rhaglen peilot sy’n rhedeg trwy 2021 ar gyfer gweithwyr rheng flaen mewn ystod o sectorau. Cefnogwch breswylwyr â materion ariannol trwy ddatblygu eich sgiliau cyngor ariannol, ac ymuno â chymuned newydd o dywyswyr ariannol ar draws y DU, i gymryd eich help ymhellach.

Archwilio Money Guiders (yn Saesneg)

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol