Lles ariannol yn eich awdurdod lleol

Mae gan wasanaethau hanfodol eich cyngor botensial enfawr i gefnogi preswylwyr gyda’u cyllid personol – o rent a budd-daliadau mewn tai i addysg ariannol mewn ysgolion a phensiynau mewn gofal cymdeithasol Gallwn eich helpu adeiladu lles ariannol i’ch preswylwyr, am ddim.

Mae cyllid personol yn effeithio ar bob agwedd ar les eich preswylwyr – mae cysylltiad agos rhwng ein hiechyd corfforol, meddyliol ac ariannol. Mae gan awdurdodau lleol lefelau mynediad unigryw i ddarparu cefnogaeth lles ariannol yng nghyfnodau allweddol bywyd, ac i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, fel plant sy’n cael gofal, a phobl hŷn. Mae cefnogi lles ariannol yn ffordd arall y gallwch helpu pobl yn eich cymuned a gwella eu hiechyd a’u hapusrwydd, a chryfhau’r gwasanaethau rydych yn eu darparu.

 

Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae’n bod yn ymwybodol y gallwch dalu’r biliau heddiw, eich bod yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach.

Yn fyr: teimlo’n hyderus ac wedi eich grymuso.

Yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel eich un chi i adeiladu lles ariannol ledled y DU, i helpu busnesau, cymunedau ac unigolion i ffynnu.

Darganfyddwch fwy am Strategaeth y DU am Les Ariannol.

Efallai bod ein bywydau yn cael eu dylanwadu fwyaf uniongyrchol ar y lefel leol – trwy ein cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a chymdogaethau. Ac mae ar lefel leol lle gall preswylwyr ddod i gysylltiad â gwasanaethau a mecanweithiau cymorth a all wella eu bywydau.

Mae eich awdurdod lleol mewn sefyllfa unigryw i gefnogi lles ariannol preswylwyr trwy ystod eang o’ch gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Cynnig cefnogaeth i denantiaid tai cymdeithasol gyda sgiliau fel cyllidebu, neu gynnig arweiniad ariannol iddynt ar gyfnodau bywyd allweddol fel mamolaeth/tadolaeth neu ddiswyddo.
  • Cefnogi gwasanaethau ysgolion a phlant i gynnig addysg ariannol ystyrlon i blant a phobl ifanc, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am eu harian pan fyddant yn oedolion.
  • Yn ymgorffori ein teclynnau a’n cynnwys am ddim ar eich gwefannau i gynorthwyo preswylwyr yn uniongyrchol i ddod o hyd i gyngor dyled lleol, cyllidebu, canllawiau arian coronafeirws a mwy.
  • Adennill Treth Gyngor mewn ffordd sy’n cydweithredu ag asiantaethau cynghori ar ddyledion i gefnogi pobl mewn ôl-ddyledion.

Gallwn gynnig cefnogaeth bwrpasol am ddim i’ch gwahanol wasanaethau i’ch helpu integreiddio canllawiau arian, teclynnau a strategaethau lles ariannol am ddim. Darganfyddwch fwy am sut y gallwn eich cefnogi.

Mae eich cyngor hefyd yn gyflogwr mawr yn eich ardal chi, ac mae’n lle gwych am fynediad at arweiniad ariannol. Darganfyddwch fwy am sut y gallwn eich helpu adeiladu lles ariannol yn eich gweithle.

Adeiladu lles ariannol i’ch gweithwyr

Mae ein rheolwyr partneriaethau wedi’u lleoli ledled y DU mewn lleoliadau yn agos atoch chi, ac yn dod â’ch dealltwriaeth o heriau ariannol personol yn eich lleoliad, a chefnogaeth am ddim i wneud newid cadarnhaol i’ch gweithwyr a’ch cymuned.

Lles ariannol yn eich lleoliad Lles Ariannol yng Nghymru

Rydym hefyd yn cynnig awdurdodau lleol:

  • Mwy o wybodaeth am eich anghenion lleol trwy ein mewnwelediad a’n hymchwil.
  • Deall o’n hymchwil sut y bydd cyflwyno mentrau lles ariannol i’ch ardal o fudd i’ch preswylwyr.
  • Helpu i ddylunio a gweithredu mentrau lles ariannol yn strategol ac yn effeithiol.
  • Y cyfle i fod yn bartner gyda ni wrth redeg a gwerthuso cynlluniau peilot i wella lles ariannol.
  • Cynnwys y canllawiau arian a phensiynau, teclynnau a llinellau cymorth y gallwch eu hymgorffori yn eich gwasanaethau.
  • Wythnos Siarad Arian, ein hymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n cyrraedd miliynau o bobl bob mis Tachwedd, ac sy’n darparu llwyfan ar gyfer sgyrsiau arian yn y gwaith, gartref, ysgol, ac i bobl o bob cefndir.

Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth bwrpasol am ddim i adeiladu lles ariannol yn eich awdurdod lleol.

 

 
Cadwch yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith lles ariannol yn eich rhanbarth: dilynwch MaPS ar gyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch am ein cylchlythyr.
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol