Couple talking while looking at a laptop

Lles ariannol yn y gweithle

Mae bron i 8 mewn 10 o gyflogeion yn y DU yn mynd â’u pryderon ariannol i’r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad.1 Yn ffodus, mae llawer o ffyrdd i hyrwyddo lles ariannol yn y gweithle.

Beth mae lles ariannol yn golygu

Mae am deimlo’n ddiogel a bod pethau mewn rheolaeth. Gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trwydydd iawn i ddyfodol ariannol iach. Yn fyr: hyderus a grymus.

Dyna ein diffiniad yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Rydym eisiau gweld pawb yn y DU yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau. Rydym yn rhoi cyngor diduedd am ddim sy’n helpu unigolion i wneud dewisiadau ariannol cadarn. Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr a’u partneriaid i wella lles ariannol yn y gweithle.

Pam mae’n bwysig yn y gweithle

Pryderon ariannol yw achos mwyaf straen i gyflogeion yn y DU. Maen yn niweidiol i’r busnes hefyd, ac yn aml yn arwain i salwch staff. Mae’r ddadl dros les ariannol yn y gwaith yn gymhellol.

Collir 4.2 miliwn o ddiwrnodau gweithwyr bob blwyddyn mewn absenoldebau oherwydd diffyg lles ariannol. Mae hynny’n gyfwerth â £626 miliwn mewn allbwn colledig.2

Mae bron i 7 mewn 10 o gyflogwyr yn y DU yn credu bod perfformiad staff yn cael ei effeithio’n negyddol pan fydd cyflogeion dan bwysau ariannol.3

Dysgwch fwy am sut gall ymwneud â lles ariannol fod o les i’ch gweithle

Eisiau gwybod mwy?

Mae ein Lles Ariannol yn y Gweithle  – Y Canllaw Hanfodol i Gyflogwyr yn amlinellu saith cam syml y gallwch eu cymryd i gefnogi eich gweithlu gyda’u lles ariannol.

Darganfyddwch sut gall cyflogwyr cefnogi lles ariannol eu gweithwyr

Mae ein hadolygiad thematig un tudalen ar y pwnc hwn yn crynhoi ystod o ymchwil ar pam dylai cyflogwyr gynnig cymorth, a sut dylid llunio rhaglenni lles ariannol  (yn Saesneg)

Archwilio ymchwil ehangach ar ein Hwb Tystiolaeth  (yn Saesneg) 

Sut gallwn eich cefnogi

Mae’r mentrau a rennir ar y tudalennau hyn yn tynnu ar ein harbenigedd, cymorth, ac adnoddau. Byddant yn eich helpu i wella lles ariannol yn eich gweithle.

Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad
.

 

Ffynonellau

1 Mae 94% o gyflogeion yn y DU yn cyfaddef i boeni am arian ac, o’r rheiny, mae 77% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio arnynt yn y gweithle.
Close Brothers, The Financial Wellbeing Index (2019).

2 Centre for Economics and Business Research, Financial wellbeing and productivity: A study into the financial wellbeing of UK employees and its impact on productivity, 2018 (yn Saesneg).

3 69% o gyflogwyr y DU. Neyber (2018), The DNA of Financial Wellbeing 2018 (yn Saesneg) 

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol