Lles ariannol yn y gweithle

Pwysau costau byw: yr hyn y mae angen i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig ei wybod

Mae nifer o bobl yn y DU yn wynebu ansicrwydd pan ddaw at les ariannol, wrth i bwysau costau byw barhau a gydag effaith y pandemig yn cael ei deimlo o hyd.

Mae hwn yn gyfle allweddol i gysylltu eich gweithwyr â’r cymorth, yr arweiniad a’r wybodaeth sydd ar gael i’w helpu i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu sefyllfa ariannol.

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd fraich i Lywodraeth y DU, ac mae’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.

Arweiniad arian am ddim, diduedd am gyflogwyr a phobl hunangyflogedig

Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad diduedd ac am ddim ar drafferthion pensiynau ac arian, yn ogystal â chefnogi darpariaeth a chyllidebu cyngor ar ddyledion.

Gallwch gysylltu â MaPS ar draws ystod o sianeli gydag unrhyw gwestiynau neu drafferthion sy’n seiliedig ar arian sydd gennych.

Nid ydym yma i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud neu argymell cynnyrch penodol, ond rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen trwy unrhyw bryderon arian neu bensiynau sydd gennych, a, lle bo angen, yn trafod sut y gallwch gael mynediad i gyngor ariannol sydd wedi’i reoleiddio a chadw’n ddiogel yn eich materion ariannol.

Gwasanaethau mynediad rhwydd

Ein rôl yw helpu pawb i wneud y mwyaf o’u harian a phensiynau.

Mae ein gwasanaethau’n hygyrch trwy ystod o sianeli pell, fel ar-lein, dros y ffôn am ddim, gwesgwrs, TypeTalk a WhatsApp.

www.moneyhelper.org.uk/cy

HelpwrArian logo

Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012

Rydym hefyd yn gweithredu o dan frand defnyddwyr HelpwrArian, y gall cyflogwyr gyfeirio gweithwyr y mae angen arweiniad a chymorth arnynt

Mae HelpwrArian yn bodoli i dorri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth sydd angen iddynt ei wneud a sut y gallant ei wneud. Mae yma i roi pobl mewn rheolaeth, gyda chymorth diduedd, am ddim sy’n gyflym i’w ddarganfod, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a dros y ffôn, fe gewch arweiniad clir ar arian a phensiynau. Gall HelpwrArian hefyd eich cyfeirio at wasanaethau dibynadwy, os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch.

Diogelwch rhag sgamiau

Rydym yn gweithredu o dan nifer o frandiau. Ni fydd ein gwasanaeth byth yn cysylltu â chi ar hap, argymell unrhyw gynnyrch ac mae’n anghyfreithlon i bersonadu MaPS, Pension Wise, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu Gwasanaeth Cynghori Ariannol.  Rydym yn gwybod pan fydd ardaloedd lleol yn cael eu heffeithio gan fusnes mawr yn cau neu newid mewn cynllun pensiwn gall pobl ddod yn darged ar gyfer ymarfer diegwyddor. Ein rôl yw cynnig lle diogel i fynd am unrhyw bryderon arian neu bensiwn efallai sydd gennych.

Mae ein gwefannau a gwefannau ein partneriaid yn cynnwys canllawiau a theclynnau gall fod yn ddefnyddiol, ar bynciau yn cynnwys:

Cael help gyda chostau byw

Cyngor ar ddyledion

Ni yw’r ariannwr fwyaf o gyngor am ddyled yn Lloegr. Darganfyddwch o ble y gallwch gael cyngor am ddyled am ddim waeth ble yr ydych yn y DU.

Pensiynau a buddsoddiadau

Mae’r canllawiau pensiwn hyn yn helpu eich gweithwyr i osgoi brysio mewn i benderfyniadau am ymddeoliad, ac yn helpu i gadw’ch arian yn ddiogel o sgamiau:

Dileu swydd

Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr

Mae’r llywodraeth a phartneriaid rydym yn eu hariannu fel Business Debtline wedi cyhoeddi arweiniad COVID-19 am fusnesau a phobl hunangyflogedig, yn cynnwys pynciau fel cyfraddau busnes, ffyrlo, grantiau a thaliadau treth.

Help i unigolion

Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad
.

 
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol