Lles ariannol yn y gweithle

Cyfeirio at ein canllaw diduedd am ddim

Rhannu ein cysylltiadau mewn cyfathrebu mewnol

Ffordd gyflym i ddechrau adeiladu lles ariannol yn eich gweithle yw cynnwys dolenni i’n canllaw arian a phensiynau ar eich mewnrwyd a chyfathrebu mewnol.

Adrodd a chymorth

Byddwn yn darparu dolen i chi a fydd yn caniatáu i ni fonitro faint o’ch gweithwyr sy’n ymweld â ni o’ch cyfathrebiadau mewnol. Byddwn yn hapus i rannu’r wybodaeth hon â’ch sefydliad.

Ddim yn gallu dod o hyd i’r arweiniad rydych chi am gysylltu ag ef? Cysylltwch â’n tîm partneriaethau.

Dysgu mwy am gysylltu â ni a defnyddio ein logos (yn Saesneg)

HelpwrArian

HelpwrArian logo

www.moneyhelper.org.uk/cy

Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012

Am ystod o ganllawiau arian, teclynnau a chyfrifianellau i wella cyllid personol.
Cymorth ar gael:

  • Cynnwys Cymraeg a Saesneg
  • ar-lein
  • canllawiau printiedig, hefyd ar gael yn Braille, fformatau print bras a sain
  • webchat
  • WhatsApp
  • dros y ffôn, a
  • chyngor ar ddyledion am ddim dros y ffôn ac wyneb yn wyneb trwy’r sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu.

Dosbarthwch ein canllawiau printiedig

Ffordd arall o rannu ein canllawiau â’ch gweithwyr yw dosbarthu ein canllawiau printiedig am ddim.

Gall busnesau preifat archebu 2,000 o gopïau o bob un o’n canllawiau am ddim y flwyddyn.
Gall cyflogwyr dielw a’r sector cyhoeddus archebu copïau diderfyn.

Ymhlith y pynciau yn y canllawiau HelpwrArian hyn mae:

  • rheoli arian
  • pensiynau
  • cynilion
  • diswyddo
  • defnyddio undebau credyd
  • cyfrif banc sylfaenol
  • cael morgais
  • problemau morgais, a
  • rhyddhau ecwiti.

Mae canllawiau ar gael mewn fformatau Saesneg, Cymraeg, Braille, print bras a sain.

Archebwch yn: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/contact-us/free-printed-guides

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol