Lles ariannol yn y gweithle

Helpu gweithwyr i adeiladu eu pensiwn

Ymrestru awtomatig

Rhaid i bob cyflogwr gynnig cynllun pensiwn yn y gweithle (o dan ‘ymresytru awtomatig’) a gallant fynd ymhellach trwy annog staff i adolygu eu cynlluniau ymddeol ar adegau allweddol.

Darganfyddwch fwy am bensiynau gweithle ar wefan .GOV

Ystyried gadael cynllun pensiynau gweithle

Rhannwch y canllaw hwn ar bethau i feddwl amdanynt cyn i weithwyr adael eich cynllun pensiynau gweithle.

Dysgu mwy

Cyfrifiannell ymddeoliad

Helpu gweithwyr i ddarganfod eu hincwm ymddeoliad tebygol mewn ychydig gamau hawdd, drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell pensiwn.

Rhowch gynnig arni

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr ymgynghorwyr ymddeoliad

Gall gweithwyr sy’n agosáu at ymddeol chwilio am ymgynghorwyr ymddeoliad lleol. Gallant ddewis sut yr hoffent gael cyngor, yn bersonol neu o bell. Mae pob ymgynghorydd wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol(FCA).

Chwiliwch drwy’r cyfeiriadur

Cael mynediad at ganllawiau ar gyfnodau bywyd allweddol

Gall pensiynau newid ar gyfnodau allweddol mewn bywyd, fel wrth ddechrau swydd newydd, mynd ar gyfnod mamolaeth, neu mynediad at rhyddid pensiwn yn 55 oed neu’n hŷn. Cyfeiriwch at ein canllaw ar gyfnodau bywyd allweddol i helpu’ch gweithwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.

Canllawiau ‘Pan fydd pethau’n newid’ (yn Saesneg)

Darganfyddwch fwy am ein gwasanaeth Pension Wise i weithwyr dros 50 oed

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol