Lles ariannol yn y gweithle

Meithrin lles ariannol i gyflogeion a phrentisiaethau ifanc

Nid oes gan ddau draean o oedolion ifanc unrhyw gynlluniau i’w helpu i drosglwyddo o’r ysgol i weithio neu hyfforddi, ac nid yw lleiafrif sylweddol o oedolion ifanc yn hyderus wrth reoli eu harian. (Gwasanaeth Cynghori Ariannol, 2016)

Gan fod llawer o bobl ifanc yn teimlo effetihiau economaidd pandemig Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn dda.

Boed a ydych yn cyflogi prentisiaethau, darparu cyfleoedd i bobl ifanc trwy gynllun Kickstart y llywodraeth, neu’n edrych i ddatblygu gwytnwch economaidd eich gweithlu ifanc, gallwch eich helpu.

Ymyriadau effeithlon

 

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol i ennill sgiliau ariannol hanfodol pan allant roi eu dysgu ar waith – er enghraifft pan fyddant yn dechrau cael eu tâl cyntaf.

Dyna pam gall cyflogwyr wneud gwir wahaniaeth trwy gefnogi eu cyflogeion, hyfforddeion, a phrentisiaid ifanc i gael mynediad at raglen neu adnoddau sgiliau ariannol. Bydd hyn yn ogystal â gwella lles ariannol eich cyflogeion, yn eich helpu i feithrin gweithlu gwydn ac osgoi effeithiau negyddol straen ariannol ar eich busnes.

Cymorth i’ch cyflogeion ifanc a’ch busnes

Rydym wedi casglu gwybodaeth am ystod o raglenni ac adnoddau sy’n diwallu anghenion pobl sy’n dechrau yn y gweithle.

Beth bynnag sy’n gweithio i chi – dysgu hunanarweiniedig neu gynorthwyedig, adnoddau am ddim neu raglenni mwy dwys – darganfyddwch raglen a all helpu’ch cyflogeion ifanc gosod y sylfeini ar gyfer eu lles ariannol yn y dyfodol.

Mae’r rhaglenni ac adnoddau hyn naill ai’n cael eu cynnig gan gyflenwyr achrededig neu’n cael ei gynorthwyo gan asesiad.

Ymyriad a sefydliadDisgrifiadDull CyflenwiLleoliadFfi
Academi Ariannol 
(Open University / Money Saving Expert) 
Dysgu ar-lein hunanarweiniedig ar gyfer pob oedranDigidolAr draws y DUAm ddim
Gwersi mewn addysg ariannol (LiFE) Gwobr/Tystysgrif 
(yn Saesneg) 
(London Institute of Banking and Finance) 
Gwybodaeth rheoli ariannol ar gyfer pobl ifancDigidolYr AlbanAm ddim
Arian Doeth 
(Youth Cymru) 
Canllawiau ymarferol ar ddatblygu sgiliau ariannol oedolion ifanc’ , ar gael yn Gymraeg a SaesnegCanllawCymruAm ddim
Gwaith Arian
(yn Saesneg) 
(MyBnk) 
Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-25 oed sy’n symud i fyw’n annibynnolWyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwirAr draws y DUFfioedd a godir
Modiwlau ar-lein Money Works
(yn Saesneg) 
(MyBnk and the Mix) 
Modiwlau dysgu hunanarweiniedig i bobl 16-25 oed, gan ganolbwyntio ar y rheiny sy’n symud i fyw’n annibynnol DigidolAr draws y DUAm ddim
Sesiynau ariannol i bobl ifanc 
(yn Saesneg) 
(The Money Charity) 
Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-19 oedWyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwirAr draws y DU(wyneb yn wyned yng Nghymru a Lloegr yn unig)Ffioedd a godir
Arian Gwaith
(yn Saesneg) 
(MyBnk) 
Sesiynau cynorthwyedig i bobl 18-30 oed prentisiaethau, graddedigion a chyflogeion yng nghyfnodau cynnar ey gyrfaoeddWyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwirAr draws y DUFfioedd a godir
Sesiynau Ariannol yn y Gweithle a Weminarau
(yn Saesneg)  
(The Money Charity) 
Sesiynau cynorthwyedig i brentisiaid a chyflogeion ifancWyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwirAr draws y DU (cynflenwi wyneb yn wyneb yn Lloegr yn unig)Ffioedd a godir

Cysylltwch â Rhian Hughes

Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad
.

 

 
Dilynwch MaPS ar gyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch am ein cylchlythyr i ddarganfod mwy am ymchwil ac adnoddau sydd ar ddod.
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol