Lles ariannol yn y gweithle

Rhannu arfer da

Mae cyflogwyr yn defnyddio llawer o ffyrdd i feithrin lles ariannol. Defnyddiwch yr enghreifftiau a syniadau hyn i’ch helpu i ddechrau.

Creu diwylliant gwaith lle bydd pobl yn gyffyrddus â siarad am arian

  • Dylai fod llysgenhadon lles ariannol ar bob lefel o’ch rheolaeth, gan gynnwys lefel y bwrdd.
  • Gwahoddwch arbenigwyr fel eich darparwr pensiynau, ymgynghorydd ariannol annibynnol, a arbenigwr morgeisi’ch banc lleol i drafod materion ariannol â’ch cyflogeion. 
  • Darparwch wasanaethau cynghori cyfrinachol, lle gall cyflogeion drafod eu sefyllfaoedd ariannol.
  • Dylech gynnwys lles ariannol mewn cyflyniadau, polisïau adnoddau dynol, ac o gwmpas digwyddiadau bywyd, fel mynd ar absenoldeb rhiant, prynu ty, wynebu diwedd perthynas, neu brofedigaeth, dychwelyd i’r gwaith, cael dyrchafiad, nesáu at ymddeol, a gadael swydd. 
  • Ychwanegwch adran lles i’ch mewnrwyd. Cysylltwch â ni a gallwn helpu trwy ychwanegu cynnwys am ddim.

Partneru â chyflenwyr eraill

  • Gweithio ag undeb credyd lleol a chenedlaethol sy’n darparu cynilion cyflogeion, benthyciadau, neu wasanaethau yswiriant, gan dynnu ad-daliadau’n uniongyrchol o’r cyflogres.
  • Partneru ag arbenigwyr eraill ym meysydd cymorth pensiynau, cynlluniau cynilo cyflogres, cynlluniau benthyciadau a thaliadau cyflog ymlaen llaw, ac addysg ariannol.

Adolygu’ch Cynllun Cymorth Cyflogeion os oes gennych un

  • Lleddfu baich costau cymudo â benthyciadau tocynnau tymor a cynlluniau beicio i’r gwaith (yn Saesneg).
  • Rhoi mynediad at ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig i gyflogeion a chael rhyddhad treth a chyfraniadau yswiriant gwladol yn ôl.
  • Negodi yswiriant bywyd ac yswiriant diogelu incwm grwp ar gyfer eich cyflogeion, gan ddarparu diogelwch ariannol ar gyfer eu hanwyliaid yn achos marwolaeth, anafiad, neu salwch hirdymor.
  • Gall yswiriant iechyd trwy’r gweithle roi buddion meddygol ychwanegol i gyflogeion.

Mwy o ffyrdd gallwch helpu’ch cyflogeion

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol