A child pondering over the River

Lles ariannol yng Nghymru

Mae Rhian Hughes, rheolwr partneriaeth yng Nghymru, yn edrych ar yr heriau lles ariannol yn y wlad, a sut y gall y Gwasanaeth Arian a Phensiynau helpu eich sefydliad i gael effaith gadarnhaol.

 

Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel, yn hyderus ac wedi eich grymuso gyda’ch arian, o ddydd i ddydd ac i’r dyfodol. Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth, ac rydym yma i helpu’ch sefydliad i adeiladu lles ariannol i’ch gweithwyr, cwsmeriaid a’r gymuned.

Tra nad oes un ffordd benodol o fesur lles ariannol, gallwn gael syniad cyffredinol o les ariannol yng Nghymru trwy edrych ar ychydig o ystadegau allweddol o’r darlun cyfan. Trwy edrych ar yr ystadegau, mae’n amlwg bod yr heriau lles ariannol yn ein cenedl yn sylweddol.

Ystadegau lles ariannol allweddol yng Nghymru

Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd heriau sylweddol i les ariannol yng Nghymru, fel:

  • 15.5% o oedolion yng Nghymru gyda gor-ddyledion – hynny yw, roeddent yn gweld bod cadw i fyny â biliau ac ymrwymiadau credyd yn faich trwm, neu wedi disgyn ar ôl ar daliadau mewn tri neu fwy o’r chwe mis blaenorol.
  • 58% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod cadw i fyny â’u biliau a’u hymrwymiadau credyd yn faich.
  • 66% o oedolion yng Nghymru ddim yn fodlon â’u hamgylchiadau ariannol cyffredinol.
  • 27% o oedolion yng Nghymru gyda llai na £100 mewn cynilion a buddsoddiadau.
  • 53% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru heb gynllun ar gyfer eu cyllid ar ôl ymddeol.

(Gwasanaeth Cynghori Ariannol ‘Lles yng Nghymru’, 2018)

Effaith coronafeirws yng Nghymru

Mae’r pandemig COVID-19 yn cyflwyno heriau sylweddol yng Nghymru. Roedd tua 230,000 o bobl wedi eu cyflogi mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau yn ystod yr achos o goronafirws, sy’n cynrychioli tua 16% o gyfanswm y gweithlu. (Llywodraeth Cymru, 2020)

Yn naturiol, mae’r aflonyddwch hwn wedi arwain at lawer o weithwyr yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. Yn ôl Welsh Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (2020), dywedodd 17% o pobl fod coronafeirws wedi achosi problemau o ran cyllid eu cartref.

Mae ymchwil hefyd yn dangos cysylltiad rhwng ei chael hi’n anodd gydag arian a lles meddyliol gwael. Gall teimlo’n isel yn ei dro ei gwneud hi’n anodd rheoli arian, gan achosi cylch o les meddyliol ac ariannol isel.

Yn yr amgylchiadau anodd hyn, mae lles ariannol, a’r addysg a’r arweiniad sydd eu hangen i’w gyflawni, yn bwysicach nag erioed. Dros y degawd nesaf, mae Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol yn anelu i helpu pobl i fagu mwy o hyder i reoli eu harian. Y weledigaeth yw i bawb wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau yn y tymor byr, canolig a hir.

Cael eich copi o’r Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol.

Fel Rheolwr Partneriaethau MaPS yng Nghymru, fy rôl yw helpu i gyflawni’r weledigaeth hon yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a gweithio gydag ystod eang o fusnesau a sefydliadau i wella lles ariannol i’w cwsmeriaid, gweithwyr a chymunedau.

Pam mae lles ariannol yn bwysig i’ch sefydliad

Mae nifer fawr o bobl yng Nghymru gyda’u canfyddiad o’u cyllid yn negyddol. Dyna mewn gwirionedd yw’r hyn mae lles ariannol yn helpu i’w newid. Yn lle edrych ar arian fel baich neu bryder, dylid ei ystyried o le o hyder a rheolaeth.

Ar hyn o bryd, nid yw dros hanner yr oedolion yng Nghymru (57%) yn teimlo eu bod yn deall digon am bensiynau i wneud penderfyniadau ynghylch cynilo ar gyfer ymddeol. Nid yw tua hanner (51%) yr oedolion yng Nghymru hefyd yn teimlo’n hyderus yn gwneud penderfyniadau am gynhyrchion a gwasanaethau ariannol, tra nad yw 42% yn teimlo’n hyderus yn rheoli eu harian. (Gwasanaeth Cynghori Ariannol, 2018)

Mae’r ffigurau hyn yn cynnig golwg ddifrifol ar gyflwr lles ariannol yng Nghymru. Ond y newyddion da yw y gellir gwella’r problemau hyn yn ddramatig trwy addysg ariannol eang ac effeithiol, a chodi ymwybyddiaeth o’r canllawiau arian sydd ar gael. Mae hon yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill i fusnesau Cymru a Chymru yn gyffredinol oherwydd bydd gwell llythrennedd ariannol yn arwain at well lles ariannol. Mae gweithwyr sydd poeni llai am arian yn fwy cynhyrchiol ac yn hapusach.

Am helpu gweithwyr i reoli eu cyllid yn well? Defnyddiwch ein canllawiau, teclynau a chyfrifianellau syndicâd am ddim.

Addysg ariannol am ddim yng Nghymru

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020) yn dangos bod gan fwyafrif helaeth y cwmnïau yng Nghymru lai na 10 o weithwyr. Y cyflogwyr llai hyn yw asgwrn cefn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Mae ymchwil hefyd yn dangos mai perchnogion busnesau Cymru yw’r rhai mwyaf ‘ymwybodol o’r gymuned’ yn y DU.

Mae dros dri chwarter (83%) o berchnogion busnes yng Nghymru yn gweld eu busnes yn arbennig o bwysig i’w cymuned leol

(Y Co-operative Bank, 2019)

Dyna pam mae MaPS yn credu bod busnesau yn rhanddeiliaid mor allweddol yn ein cenhadaeth i bweru addysg ac arweiniad ariannol yng Nghymru. Fel Rheolwr Partneriaeth Cymru, rydw i yma i gynnig cefnogaeth ac adnoddau i sefydliadau adeiladu lles ariannol yn y gweithle.

Adnoddau addysg ariannol am ddim i Gymru:

Fel rheolwr partneriaeth MaPS Cymru, gallaf weithio gyda busnesau a sefydliadau o unrhyw faint i gefnogi lles ariannol i bobl o bob oed a chyfnod bywyd.

  • Mae MaPS yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i ddefnyddwyr. Gweler ein canllawiau arian i ddefnyddwyr, teclynau a llinellau cymorth yn Saesneg a Cymraeg
  • Gall busnesau masnachol archebu detholiad o ganllawiau arian mewn ffurflaiu wedi’u hargraffu, Braille a sain am ddim.
  • Mae MaPS yn cynnig Hyb Coronafeirws, yn cynnwys arweiniad personol ar ein Teclyn Llywio Ariannol
  • Llawlyfr diswyddo a chanllaw pensiynau
  • Ein ymgyrch ymwybyddiaeth blynyddol Wythnos Siarad am Arian, sy’n cyrraedd miliynau o bobl bob blwyddyn, ac yn darparu llwyfan i gael sgwrs am arian mewn unrhyw gefndir.

Cysylltwch â Rhian Hughes

 

Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. Yn ogystal â gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae ganddi brofiad hefyd o weithio gyda’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i flaenoriaethu lles ariannol dinasyddion yng Nghymru. Gallwch chi gysylltu â hi yn y Gymraeg neu’r Saesneg i ddarganfod beth all hi ei wneud i’ch busnes.

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol