UK Strategy for Financial Wellbeing

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol

Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi bod yn gwrando ar ein rhanddeiliaid a datblygu Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol newydd, sydd wedi’i gynllunio i yrru newid yn gyflym a symud y deialau ar gyllid personol.

Mae Strategaeth y DU yn fframwaith deng mlynedd a fydd yn helpu i gwrdd â’r weledigaeth o bawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a phensiynau. 

Bydd MaPS yn chwarae rhan allweddol i gwrdd â’r weledigaeth yma, drwy gefnogi a gweithio gyda ystod eang o sefydliadau eraill a drwy gyflwyno gwasanaethau ble fo’n addas.

Lawrlwytho’r Strategaeth

Mae’r strategaeth yn nodi nifer fechan o themau mawr i ymgysylltu ac ysgogi nifer fawr o randdeiliaid.  Mae’n canolbwyntio ar nodau mesuriadwy sy’n anelu at ddod â buddion i unigolion, eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach.

Bydd y strategaeth dim ond trwy gydweithredu a phartneriaeth â sefydliadau ar draws y Llywodraeth, y trydydd sector, addysgwyr, defnyddwyr, gwasanaethau ariannol, cyflogwyr ac eraill y bydd y strategaeth yn cyflawni ei gweledigaeth uchelgeisiol. Os ydych yn rhan o un o’r sectorau hyn – neu os ydych am wella lles ariannol unigolion, cymunedau, busnes a’r economi – lawrlwythwch y strategaeth a darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan.

Lawrlwythwch eich copi o’r strategaeth

Ers lansio’r strategaeth yn 2020, mae MaPS wedi gweithio gyda channoedd o bartneriaid o bob rhan o’r llywodraeth, diwydiant a’r trydydd sector i gydlynu cynlluniau cyflawni ar gyfer pob un o wledydd y DU.

Mae’r cynlluniau’n gwneud argymhellion ymarferol ar sut y gall sefydliadau ledled y wlad gyflwyno mentrau sy’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian nawr ac yn y dyfodol. Maent yn ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyllid pobl, a sut y gallwn gydweithio i gyflawni newid hirdymor a pharhaol o ran sut mae pobl yn rheoli eu harian.

Mae’r cynlluniau ar eich cyfer chi os:

  • oes gennych diddordeb mewn ysgogi newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl
  • rydych yn darparu rhaglenni, gwasanaethau, neu gefnogi cwsmeriaid gyda’u harian, neu
  • rydych am ddysgu mwy am sut y gall eich sefydliad chwarae ei ran i sicrhau canlyniadau lles ariannol cryfach i bobl ledled y DU.
 
 
Cael y newyddion diweddaraf ar y Strategaeth ac ymunwch yn y sgwrs yn yr hashnod #LlesAriannolynyDU.

Fe wnaethom gynnal Cyfnod Gwrando am bedwar mis, gan ymgysylltu â dros 1,000 o randdeiliaid mewn lleoliadau ledled y DU ar yr hyn yr hoffent ein gweld yn canolbwyntio arno. Helpodd yr adborth hwn i lunio’r Strategaeth.

Dysgwch fwy am y Cyfnod Gwrando

Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol