Wythnos Siarad Arian

Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian. Bob blwyddyn rydym yn cynnal Wythnos Siarad Arian er mwyn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid. Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, waeth beth yw sector neu faint eich sefydliad, a dod o hyd i arweiniad ar sut i Siarad Arian gyda’ch ffrindiau, eich teulu neu’ch plant.

 

Bydd Wythnos Siarad Arian yn cael ei chynnal rhwng 7 – 11 Tachwedd 2022.

Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn gydol y flwyddyn.

Bydd Wythnos Siarad Arian eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘credyd’ – i helpu i symleiddio rhai o’r jargon, adeiladu dealltwriaeth pobl o gynnyrch credyd, a beth yw eu hopsiynau, gan gynnwys mathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas.

Fodd bynnag, rydym yn eich annog i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd o arian.

Wrth i ni adfer o bandemig Covid-19 a gyda phwysau costau byw presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cael cefnogaeth i bryderon ariannol.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:

  • yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell â llai o risg
  • yn mwynhau perthnasau personol cryfach
  • yn helpu eu plant i ffurfio arferion arian da gydol oes
  • yn teimlo llai o straen a phryder, a’u bod â mwy o reolaeth.

Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.

Defnyddiwch ein pecyn cyfranogi i’ch helpu i ddechrau sgwrs mewn unrhyw sefyllfa, gan gynnwys:

Lawrlwythwch eich pecyn cyfranogiad

Cysylltu â’n Tîm Partneriaethau

Am gymorth i ddechrau eich taith Wythnos Siarad Arian, cysylltwch â’r Rheolwr Partneriaethau yn eich rhanbarth neu’ch cenedl.

 

Mae’r pecyn cymorth penodedig hwn i ysgolion yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo lles ariannol eich disgyblion a myfyrwyr, yn ystod Wythnos Siarad Arian a phellach.

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Ysgolion Wythnos Siarad Arian

Darganfyddwch fwy am sut rydym yn cefnogi addysg ariannol mewn ysgolion

Defnyddiwch ein canllawiau ar-lein i’ch helpu i ddechrau sgyrsiau am arian â’ch:

Os yw eich partner neu’ch teulu’n rheoli eich mynediad i’ch arian, neu’n mynd i ddyled yn eich enw, mae’n gamdrin ariannol. Ond nid oes angen brwydro ymlaen ar eich pen eich hun.

Dyma rai o’r pethau gallwch wneud a ble i fynd am help a chymorth.

HelpwrArian: Canllawiau arian a phensiwn diduedd am ddim

Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a'ch dewisiadau pensiwn yn gliriach. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i'w ddefnyddio.

 
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol