Site icon The Money and Pensions Service

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol yn gosod gweledigaeth deg mlynedd i wella bywydau miliynau o bobl

Pum maes blaenoriaethol i helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau

Mae strategaeth newydd ledled y DU i drawsnewid lles ariannol y wlad mewn degawd yn cael ei lansio heddiw gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) o dan ei fandad gan y llywodraeth. Bydd cyflawni’r strategaeth yn trawsnewid bywydau llawer o unigolion, gan elwa cymunedau, busnesau, yr economi a’r gymdeithas ehangach. 

Mae Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol yn sefydlu pump “agenda am newid” ac yn gosod nodau i’w cyrraedd erbyn 2030. Y rhain yw:

·        Sylfeini Ariannol: 6.8 miliwn o blant a phobl ifanc yn cael addysg ariannol ystyrlon – cynnydd o 2 filiwn o 20191

·        Cenedl o Gynilwyr: 16.7 miliwn o bobl oedran gwaith sy’n ei chael yn anodd 2 ac yn cael eu gwasguyn cynilo’n rheolaidd – cynnydd o 2 filiwn 

·        Mae Credyd yn Cyfrif: 2 filiwn yn llai o bobl yn aml yn defnyddio credyd i dalu am fwyd neu filiau

·        Cyngor Gwell ar Ddyled: 2 filiwn yn fwy o bobl yn cael y cyngor am ddyled maent ei angen; ar hyn o bryd ond 32% o’r rhai sydd angen cyngor am ddyled sydd yn ei ddefnyddio

·        Ffocws ar y dyfodol: 28.6 miliwn o bobl yn deall digon i gynllunio am yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau, ac yn ystod eu bywyd – cynnydd o 5 miliwn.

Bydd y strategaeth hefyd yn edrych ar y ffactorau a all wneud pobl yn arbennig o fregus i niwed ariannol, megis cyflyrau iechyd meddwl a rhyw. Fe’i cyflwynir mewn cydweithrediad ag ystod eang o sefydliadau ac arbenigwyr o bob sector.

Beth yw Lles Ariannol? 

Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Gwybod y gallwch dalu’r biliau heddiw, eich bod chi’n gallu delio â’r annisgwyl yfory ac ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iachach. Dylai pobl deimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso.

Pam fod angen strategaeth y DU?

Mae lles ariannol gwael yn cael sgil-effeithiau ar ein hiechyd meddwl, iechyd corfforol a pherthnasoedd. Rydym yn gwybod:

Mae pobl sy’n mwynhau lles ariannol da yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith, ac mae busnesau hefyd yn elwa o gael cwsmeriaid sy’n gallu fforddio cadw i fyny â biliau a thaliadau. Mae unigolion a’r economi ehangach yn elwa o bobl sy’n gallu buddsoddi arian ar gyfer ymddeoliad.

“Degawd i wneud gwahaniaeth”

Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr Dros Dro’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae lles ariannol yn sail i iechyd a hapusrwydd personol ond nid yw’n digwydd ar hap. Rydym yn lansio strategaeth ar gyfer oes gyfan, gyda’r nod o ehangu addysg ariannol i blant wrth sicrhau bod pawb yn barod i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad a’i fwynhau. Mae mentrau nodweddiadol yn cynnwys cynyddu argaeledd credyd fforddiadwy, mwy o gynhyrchion cynilo cyflogres ac ehangu cyngor ar ddyledion am ddim pan fydd pobl mewn argyfwng.

“Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau fydd y sbardun ar gyfer mudiad lles ariannol, gan drawsnewid sut y mae pobl yn ymgysylltu â’u harian a’u pensiynau. Mae gennym ddegawd i wneud gwahaniaeth ac ni allwn gyflawni newid ar ein pennau ein hunain, felly byddwn yn cysylltu cwmnïau, elusennau a sefydliadau eraill sy’n rhannu ein gweledigaeth, i wneud i hyn ddigwydd.”

Dywedodd Sir Hector Sants, Cadeirydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:  

“Mae Strategaeth y DU yn nodi ein huchelgais i drawsnewid lles ariannol dros y degawd nesaf.

“Mae pwysigrwydd lles ariannol yn cael ei dan-werthfawrogi. Mae’n ymwneud nid yn unig â gallu ariannol ond hefyd â theimlo’n ddiogel, mewn rheolaeth, yn hyderus ac wedi’i rymuso mewn perthynas ag arian. Mae’n ganolog i les personol ac felly i fyw bywyd bodlon.

“Dim ond os caiff ei gefnogi gan y cynhyrchion, rheoleiddio, gwasanaethau a diwylliant corfforaethol cywir y bydd Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol yn llwyddiannus ar gyfer yr unigolion. Felly, er mwyn cyflawni’r strategaeth, bydd angen cefnogaeth ac, mewn llawer o achosion, gweithredu gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus.”

Dywedodd Guy Opperman, Y Gweinidog Pensiynau a Chynhwysiant Ariannol:

“Mae’r Llywodraeth eisiau ei gwneud hi’n hawdd i’r rhai sydd ei angen fwyaf i gael help i wneud dewisiadau ariannol hyderus. Mae gwybodaeth a chanllawiau diduedd o ansawdd uchel, rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cyflawni’r union beth hwnnw.

“Hefyd, mae ganddo ran bwysig i’w chwarae wrth helpu pobl ifanc heddiw i ddod yn gynilwyr clyfar yfory, a datblygu dangos byrddau pensiynau digidol arloesol a fydd yn trawsnewid sut mae pob un ohonom yn cynllunio ar gyfer ymddeoliad.”

Beth nesaf?

Dros hanner cyntaf 2020, bydd MaPS yn gweithio gydag arweinwyr ac arbenigwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i nodi cynlluniau cyflawni clir i gyflawni’r pum nod, gyda chynlluniau penodol ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Yn dilyn y cam mobileiddio hwn, bydd MaPS yn datblygu ei strategaeth gorfforaethol ei hun a fydd yn diffinio sut y bydd y sefydliad yn gweithredu Strategaeth y DU a pharhau i ddarparu arweiniad a gwasanaethau arian a phensiynau hanfodol i’w gwsmeriaid.

-DIWEDD- 

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â:   

Swyddfa’r Wasg MaPS  020 8132 5284media@maps.org.uk    
Sarah Cordey, uwch reolwr cyfathrebu 020 8132 5251sarah.cordey@maps.org.uk  
Mia Cochrane, uwch swyddog y wasg 020 8132 4937mia.cochrane@maps.org.uk  
Ben Infield, swyddog y wasg 020 8132 4696Benjamin.infield@maps.org.uk

Nodiadau i olygyddion

1.     2018 Financial Capability Survey, Gwasanaeth Arian a Phensiynau

2.     Mae MaPS yn diffinio’r rhai sy’n ‘ei chael yn anodd’ fel pobl sy’n ei chael yn anodd cadw i fyny â biliau a thaliadau ac i gronni unrhyw fath o amddiffyniad cynilo. Nhw yw’r bobl leiaf gwydn yn ariannol a’r mwyaf tebygol o fod â gormod o ddyled.

3.     Mae’r rhai sy’n cael eu ‘gwasgu’ yn bobl o oedran gweithio sydd ag ymrwymiadau ariannol sylweddol ond cymharol ychydig o ddarpariaeth ar gyfer ymdopi â sioc incwm. Maent yn glyfar yn ddigidol ac mae ganddynt ddefnydd uchel o’r cyfryngau, ond mae hyn yn fwy ar gyfer adloniant na gwybodaeth ariannol.  
Mae hyn yn seiliedig ar ‘Money Advice Service Target Market Segmentation’ yma: https://masassets.blob.core.windows.net/cms/files/000/000/568/original/Market_Segmentation_report_An_overview.PDF

4.  2018 Financial Capability Survey, Gwasanaeth Arian a Phensiynau 

5. 2019 Debt Need Survey (i ddod), Gwasanaeth Arian a Phensiynau 

Cefndir i’r strategaeth

Cyn datblygu Strategaeth y DU, cynhaliodd MaPS ymchwil gadarn ac adolygiad o’r dystiolaeth bresennol am les ariannol, gan adeiladu ar waith a chanfyddiadau’r ‘Financial Capability Strategy for the UK’ a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Cyngori Ariannol yn 2015.

Gwrandawodd y sefydliad ar farn mwy na 1,000 o arweinwyr ac arbenigwyr rheng flaen mewn dinasoedd ledled y DU, derbyniodd gyflwyniadau ysgrifenedig gan 39 o sefydliadau arbenigol, a defnyddio arbenigedd a barn y staff a’r gwirfoddolwyr o sefydliadau rhagflaenol MaPS (Y Gwasanaeth Cyngori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise).

Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn symud ymlaen ar les ariannol i adolygu’r strategaeth, ystyried sut y gallai eu gwaith gefnogi’r agendâu ar gyfer newid a chysylltu â strategy@maps.org.uk  gan nodi ble allant helpu i droi’r nodau hyn yn realiti.  

Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau  

Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.

Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac mae ganddo ymrwymiad ar y cyd i ddarparu mynediad i’r wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl ledled y DU, i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros eu hoes. Mae’r sefydliad hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.

Mae MaPS yn dwyn ynghyd y gwasanaethau am ddim a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cyngori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Mae MaPS yn cynnig arweiniad ac apwyntiadau i gwsmeriaid dros y ffôn, ar-lein ac yn bersonol.

Am fwy o wybodaeth dylai rhanddeiliaid ymweld â gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau www.moneyandpensionsservice.org.uk

Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:  

www.moneyadviceservice.org.uk/cy / 0800 138 0555  

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797  

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944

Exit mobile version