Site icon The Money and Pensions Service

Gweithwyr Rheng Flaen Yng Nghymru I Ymuno Â’r Frwydr Yn Erbyn Sgamwyr Ariannol

Hyfforddiant sgamiau yn agored i wasanaethau cymunedol fel diffoddwyr tân, staff meddygfeydd Meddygon Teulu a llyfrgellwyr

Bydd gweithwyr rheng flaen yng Nghymru fel gofalwyr a staff y gwasanaethau brys yn derbyn hyfforddiant i’w helpu i ddiogelu pobl rhag sgamwyr ariannol, fel rhan o’r cymorth a gynigir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

Mae addysg gyhoeddus am sgamiau ariannol yn hanfodol, pan nad yw 50% o oedolion yng Nghymru (1.3m) yn teimlo’n hyderus am ddiogelu eu hunain rhag sgamiau ariannol 1, a dim ond 56% o oedolion yng Nghymru (1.4m) sy’n gwybod am sefydliadau a gwefannau a all cynnig cymorth di-dâl neu fforddiadwy am benderfyniadau ariannol.

Dengys ymchwil fod gan y rhai sy’n gweithio mewn proffesiynau dibynadwy 2, y sgiliau i helpu pobl sydd fwyaf mewn perygl o dwyll ariannol 2. Trwy ddarparu hyfforddiant yng Nghaerdydd a Bangor i gefnogi gweithwyr sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â phobl yn y gymuned, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn gobeithio y gall y negeswyr dibynadwy hyn godi ymwybyddiaeth o sgamiau ariannol a helpu pobl i nodi’r rhybuddion fel y gallant osgoi sgamiau.

Cynhelir yr hyfforddiant mewn dau ddigwyddiad yng Nghaerdydd a Bangor, sydd ar agor i unrhyw un sy’n gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru neu’n eu cefnogi, o ofalwyr, yr heddlu a llyfrgellwyr i staff mewn meddygfeydd teulu.

Meddai Lee Phillips, Rheolwr Cymru o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Bob dydd, mae twyllwyr yn ceisio gwahanu’r sawl sy’n cynilo o’u harian haeddiannol gyda sgamiau cynyddol soffistigedig. Mae pobl sy’n cael eu twyllo yn colli £82,000 yr un ar gyfartaledd o’u pensiynau 3. Mae hynny’n swm o arian i’w golli sy’n newid bywyd.

“Trwy hyfforddi gweithwyr rheng flaen sydd eisoes yn adnabyddus ac wedi cael eu hymddiried yn eu cymunedau, gallwn helpu mwy o bobl i fod yn ymwybodol o sgamiau ariannol a’r camau syml y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hunain.”

Yn ogystal â chynrychiolwyr o MaPS, bydd siaradwyr yn y digwyddiadau yn cynnwys:

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cynnig yr awgrymiadau canlynol ar sut y gall pobl ddiogelu eu hunain rhag sgamiau pensiwn:

-ENDS-

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau cysylltwch â:

Swyddfa Wasg MaPS  020 8132 5284 / media@maps.org.uk 
Mia Cochrane, uwch swyddog yr wasg 020 8132 4937 / mia.cochrane@maps.org.uk
Sarah Cordey, uwch reolwr cyfathrebu 020 8132 5251 / sarah.cordey@maps.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Arolwg Gallu Ariannol 2018, Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  2. Mynegai Cywirdeb Ipsos MORI 2019
  3. 22 blwyddyn o gynilion pensiwn wedi’i ddiflannu o fewn 24 awr : Awdurdod Ymddygiad Ariannol 2019

Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yw: ‘pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.’

Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac mae ganddo ymrwymiad ar y cyd i ddarparu mynediad at y wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl ledled y DU, i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros gydol eu hoes. Mae’r sefydliad hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.

Mae MaPS yn dwyn ynghyd gwasanaethau di-dâl a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.   Mae MaPS yn cynnig arweiniad ac apwyntiadau i gwsmeriaid dros y ffon, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Am wybodaeth bellach ewch i wefan y Gwasnaeth Arian a Phensiynau www.moneyandpensionsservice.org.uk

Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau di-dâl am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:

www.moneyadviceservice.org.uk / 0800 138 7777

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944 

Exit mobile version