Site icon The Money and Pensions Service

Teclyn ar-lein newydd i helpu pobl lywio eu harian yn sgil coronafeirws

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn lansio teclyn ar-lein newydd i helpu pobl i lywio eu cyllid yn sgil Covid-19 ac i osgoi materion ariannol gwaethygu yn y dyfodol, wrth i’r sefydliad ddatgelu bod dros filiwn o bobl eisoes wedi edrych at MaPS am help i ddelio â’r effaith ariannol y pandemig.

Bydd y Teclyn Llywio Ariannol sydd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, yn gofyn cyfres fer o gwestiynau i bobl am eu sefyllfa ariannol, cyn darparu arweiniad sydd wedi’i bersonoli yn unol â’u hanghenion. Bydd yn tynnu sylw at feysydd lle dylent ystyried gweithredu ar frys er mwyn osgoi problemau arian yn nes ymlaen.

Mae’r Teclyn Llywio Ariannol wedi’i gynllunio i helpu pobl sydd wedi gweld eu cyllid yn cael ei effeithio gan Covid-19. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n delio â sefyllfaoedd ariannol cymhleth a allai ei chael hi’n anodd gwybod ble i ddechrau, fel y rhai sy’n wynebu cael eu diswyddo neu golli swydd, yr hunangyflogedig y mae eu gwaith wedi dod i ben, a phobl sydd wedi cael gostyngiad incwm dros dro sydd angen help i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Bydd y teclyn hefyd yn helpu pobl sy’n chwilio am gymorth mewn maes penodol, yn ogystal â’r rhai a allai fod mewn gwell sefyllfa ariannol oherwydd Covid-19 ac eisiau gwybod beth i’w wneud ag unrhyw gynilion y gallent fod wedi’u cronni.

Bydd llawer o’r bobl y disgwylir iddynt fod angen defnyddio’r Teclyn Llywio Ariannol yn rhai sydd wedi bod yn cymryd seibiannau talu ar forgeisiau a chynhyrchion eraill. Mae ffigurau gan UK Finance yn datgelu bod 1.9 miliwn o wyliau morgais wedi’u caniatáu ers mis Mawrth, yn ogystal â gohirio taliadau 961,700 ar gardiau credyd a gohirio taliadau 688,900 ar fenthyciadau personol.1 Disgwylir i rai ad-daliadau ddechrau o ganol mis Gorffennaf.

Bydd y teclyn hefyd yn helpu llawer o bobl i ddod o hyd i gymorth gan sefydliadau eraill, fel:

Bydd adnoddau eraill yn cynnwys canllawiau o wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Yn ystod y pandemig, mae’r gwasanaethau a ddarperir gan MaPS wedi gweld:

Dywedodd Eileen Pevreall, Cyfarwyddwr Digidol, Marchnata a TG yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“O’n profiadau ar y rheng flaen iechyd ariannol yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn wynebu sefyllfaoedd cymhleth a materion ariannol lluosog, a all ei gwneud yn anodd gwybod ble i ddechrau o ran cael help. Ond mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn hyn. Trwy dreulio cyn lleied â 30 eiliad yn llenwi rhai manylion ar ein Teclyn Llywio Ariannol, gall pobl gael arweiniad wedi’i deilwra a fydd yn eu helpu i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei flaenoriaethu, yr hyn y gallent fod â hawl iddo a pha sefydliadau y gallant fynd atynt i gael cymorth ar unwaith.

“Bydd ceisio cymorth am broblemau arian nawr yn helpu llawer o bobl i osgoi problemau dyled mwy sylweddol yn nes ymlaen.”

Mae aelodau o grŵp Facebook y Gwasanaeth Cynghori Arianno l Coronafeirws a’ch Arian wedi rhannu manylion am sut mae Covid-19 wedi eu rhoi mewn sefyllfaoedd ariannol cymhleth. Cafodd Charlotte, 26, masnachfraint o Ogledd Orllewin Lloegr ei hun mewn anhawster ariannol pan ddechreuodd cyfyngiadau symud Covid-19 a gorfod iddi gymryd gwyliau talu. Gallai pobl mewn amgylchiadau tebyg i Charlotte elwa trwy ddefnyddio’r Teclyn Llywio Ariannol i weithio allan y camau nesaf â blaenoriaeth.

“Dechreuais fy masnachfraint fy hun yn 2019 ond pan darodd y pandemig, diflannodd dros 70% o incwm fy nghartref gan fod yn rhaid i’m busnes gau dros dro ac roedd fy ngŵr hefyd ar ffyrlo hyd at 80% o’i gyflog. I ymdopi, gwnethom gymryd wyliau talu tri mis ar ein morgais a’n cyllid ceir, ac oedi taliadau treth gyngor am ddau fis. Gwnaethom gael mynediad at rywfaint o gymorth cyflogaeth a diolch byth fod gennym rwyd ddiogelwch cynilion i ddisgyn yn ôl arni. Defnyddiais hefyd grŵp Facebook y Gwasanaeth Cynghori Arian, ‘Coronavirus a’ch Arian’ i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fy sefyllfa a chael gafael ar ganllawiau arian ar y wefan.

“Mae ein gwyliau talu yn dod i ben yn fuan, ac rwyf wedi dod o hyd i swydd arall felly rwy’n hyderus y gallwn fforddio ailddechrau ad-daliadau, gan mai dim ond £20 yn ychwanegol y mis yw’r cynnydd ar ein morgais ac mae’n cael ei ledaenu dros dymor hirach. Roeddwn yn falch o gael seibiant i ddechrau. Fodd bynnag, rwy’n dal i bryderu y bydd y ffordd yn ôl dros yr ychydig fisoedd nesaf yn heriol. ”

-GORFFEN-   

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd y Teclyn Llywio Ariannol hefyd yn cyfeirio pobl at sefydliadau gan gynnwys Shelter Cymru, Shelter Scotland, Advice NI a Chyfrifydd Methdaliad (AiB) yn yr Alban.
  2. UK Finance, 19eg Mehefin 2020: lenders grant over million payment deferrals to mortgage holders in three months
  3. Edrychodd 917,000 o bobl ar gynnwys Covid-19 ar wefan y Gwasanaeth Cynghoru Ariannol o fis Mawrth, a gwnaeth 99,000 o bobl edrych ar gynnwys Covid-19 ar wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ers mis Mawrth = 1,016,000 o ymwelwyr

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau   

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dwyn ynghyd y gwasanaethau di-dâl a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Mae MaPS yn cynnig arweiniad ac apwyntiadau i gwsmeriaid dros y ffôn, ar-lein ac yn bersonol. 

Gweledigaeth MaPS yw: ‘pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.’    

Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac mae ganddo ymrwymiad ar y cyd i ddarparu mynediad at y wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl ledled y DU, i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros eu hoes.

Mae’r sefydliad hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau https://moneyandpensionsservice.org.uk/cy/home-2/ 

Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy / 0800 138 0555   

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797  

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944

Exit mobile version