Site icon The Money and Pensions Service

Bydd bron i chwarter o bobl dros 50 oed yng Nghymru yn gadael cynllunio cyllid ymddeol i ddwy flynedd olaf cyn stopio gweithio

Mae bron i chwarter (23%) o bobl dros 50 oed yng Nghymru yn gadael eu cynlluniau ariannol ymddeol tan eu dwy flynedd olaf cyn ymddeol, ac nid yw 15% yn paratoi o gwbl, yn ôl ymchwil gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).

Eleni bydd y nifer uchaf o bobl mewn bron i ddau ddegawd yn cyrraedd oedran rhyddid pensiwn gyda thua 940,000 o bobl yn troi 55.1 Gyda’r dirywiad economaidd ac effeithiau Covid-19 yn effeithio ar gyllid un o bob tri o bobl 50-70 oed, mae’n bwysicach nag erioed i gynllunio ymlaen llaw.

Mae ymchwil newydd, a arolygodd bobl 50-70 oed gyda chynilion pensiwn yng Nghymru, yn datgelu nad yw pobl sydd heb ymddeol yn barod am yr hyn sydd i ddod.

Mae’r rhai wedi ymddeol yn ddiweddar, ledled y wlad, yn argymell pum cam syml i Gen Xers gael eu paratoi’n well nag yr oeddent ar gyfer ymddeol:

Prif ganllaw ‘Rhai wedi ymddeol’ i Gen X.
1Cynilo mwy tuag at eich ymddeoliad (60%)
2Dechreuwch gynllunio cyllid ymddeol yn gynharach (56%)
3Cymerwch amser i benderfynu sut y byddwch chi’n cael mynediad at gynilion ymddeol (45%)
4Darganfyddwch fwy am wneud y gorau o’ch arian pensiwn (44%)
5Gofynnwch am ganllawiau ar y ffordd orau o drefnu eich cyllid ymddeol (41%)

Mae’r ymchwil hefyd yn datgelu bod pandemig Covid-19 wedi arwain at fwy na phedwar o bob 10 (41%) o bobl 50-70 oed yng Nghymru yn dweud bod eu cyllid wedi cael ei effeithio. Dywed bron i chwarter (24%) eu bod wedi penderfynu gohirio cael mynediad at eu pensiwn, tra bod 9% yn ei gyrchu’n gynt – 6% i gynorthwyo eu cyllid o ddydd i ddydd eu hunain a 3% i gefnogi aelod o’r teulu neu ffrind.

Dywedodd Carolyn Jones, Pennaeth Polisi a Strategaeth Pensiynau yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“O ystyried bod Covid-19 wedi effeithio ar gyllid mwy na phedwar o bob 10 dros 50 oed ac rydym bellach yn wynebu dirwasgiad, rydym yn annog pobl i beidio ag oedi na hepgor cynllunio eu cyllid ymddeol – p’un a ydych chi’n ystyried ymddeol yn ddiweddarach neu ddod ag ef ymlaen. Mae’ch pensiwn yn debygol o fod yn un o’r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gennych chi felly mae’n bwysig iawn dechrau cynllunio’n gynnar i sicrhau eich bod chi’n gwneud y dewisiadau gorau yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Gallai cael help a thrafod eich opsiynau nawr fod y gwahaniaeth rhwng cael ymddeoliad cyfforddus neu orfod gweithio am fwy o amser neu addasu i fyw ar incwm is.

 “Rydyn ni’n gwybod bod cymryd arweiniad pensiynau yn gweithio. Mae pobl sydd wedi cael apwyntiad gyda’n harbenigwyr Pension Wise yn teimlo’n fwy hyderus, gwybodus a pharod o ran sut y byddant yn cael gafael ar eu cynilion pensiwn. Yn 2019/20, dywedodd mwy na hanner y cwsmeriaid  a gafodd apwyntiad arweiniad naill ai’n newid sut roeddent yn cyrchu eu pensiwn, neu sut y maent yn bwriadu gwneud hynny.3

“Yn ogystal â chynnig ein hapwyntiadau ffôn arferol i ddarparu’r arweiniad hwnnw, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiynau byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio rithwir lle gellir gofyn unrhyw gwestiynau llosg yn ogystal â thrafodaeth gyffredinol am baratoi.”

Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae siarad drwy’r gwahanol opsiynau pensiynau am gyn lleied â 45 munud wedi gwneud i naw o bob 10 cwsmer Pension Wise (92%) deimlo eu bod wedi paratoi’n dda cyn siarad â’u darparwyr. Gall ymrwymiad  amser byr i drafod eich dewisiadau helpu gyda lles cyffredinol yn ogystal â chynorthwyo i wneud penderfyniadau o ran cyrchu eu potiau pensiwn.”

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cynnig yr awgrymiadau da canlynol ar sut i ddechrau cynllunio cyllid ymddeol:

Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn, ymgyrch flynyddol sy’n cael ei rhedeg gan Pension Geeks gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Pensiwn ei hun yn disgyn ar 15 Medi ac mae yno i ysbrydoli pobl i wneud y gorau o’u pensiynau.

Fel rhan o’r wythnos ymwybyddiaeth, bydd Pension Wise yn cynnal sesiwn galw heibio rithwir ar ddydd Gwener 18 Medi rhwng 11 am-12pm lle gall pobl 50 oed a hŷn fewngofnodi i gymryd rhan mewn Holi ac Ateb Pension Wise. Mae mwy o fanylion a chofrestriadau ar gael yma.

I’r rhai na allant ymuno â’r sesiwn galw heibio, gallant drefnu apwyntiad ffôn gyda Pension Wise ar 0800 138 3944.

-GORFFEN-   

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau   

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn dwyn ynghyd y gwasanaethau di-dâl a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Mae MaPS yn cynnig arweiniad ac apwyntiadau i gwsmeriaid dros y ffôn, ar-lein ac yn bersonol. 

Gweledigaeth MaPS yw: ‘pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.’    

Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac mae ganddo ymrwymiad ar y cyd i ddarparu mynediad at y wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl ledled y DU, i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros eu hoes.

Mae’r sefydliad hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau https://moneyandpensionsservice.org.uk/cy/home-2/ 

Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy / 0800 138 0555   

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797  

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944

Exit mobile version