Site icon The Money and Pensions Service

Bron i 900,000 o gy£rinachau ariannol yn cael eu cadw rhag anwyliaid yng Nghymru

Mae ymchwil yn dangos bod 36% ohonom yng Nghymru wedi cadw rhag anwyliaid am gardiau credyd, benthyciadau, a chynilion

Mae oedolion yng Nghymru wedi cadw bron i 900,000 o gynhyrchion ariannol yn gyfrinachol rhag eu hanwyliaid yn ôl astudiaeth newydd o ymddygiadau ariannol pobl gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) i nodi Wythnos Siarad Arian.

Er gwaethaf i Covid-19 gael effaith eang ar gyllid pobl, mae’r stigma ynghylch siarad am arian yn niwylliannau ynysoedd Prydain yn parhau – mae 32% yng Nghymru’n aros yn dawel am bryderon ariannol, wrth i rai o’r rhesymau maent yn eu rhoi gynnwys i fod hefo cywilydd neu ofn cael eu barnu.   

Mae’r ymchwil wedi ei lansio i nodi dechrau Wythnos Siarad Arian (9-13 Tachwedd), ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sy’n cael ei gynnal gan MaPS er mwyn gwella lles ariannol gan annog pobl i fod yn agored am eu cyllid, o arian poced hyd at bensiynau.

Ar draws y DU, dywedodd 40% o bobl eu bod wedi cadw cynnyrch ariannol yn gyfrinach rhag rhywun sy’n agos atynt. Y cynhyrchion annatguddiedig mwyaf cyffredin oedd cardiau credyd cudd (36%), benthyciadau personol annatguddiedig (23%), a chyfrifon cynilo cyfrinachol (21%).

Cafodd pobl rhwng 25-34 oed yn y DU eu dangos fel y genhedlaeth fwyaf cyfrinachol, wrth i 59% ddatgelu bod ganddynt gynhyrchion ariannol cyfrinachol, o gymharu â dim ond 25% o’r sawl sydd wedi ymddeol (65+). O’r bobl 25-34 oed a oedd wedi cadw cynnyrch ariannol yn gyfrinachol ar draws y DU, cuddiwyd cardiau credyd, benthyciadau personol a gorddrafftiau gan amlaf (gan 40%, 31%, a 23% yn y drefn honno).

Gwnaeth astudiaeth Wythnos Siarad Arian hefyd ddatgelu bod pobl mewn perthnasoedd ledled y DU yn tueddu i danamcangyfrif cynifer o gyfrinachau ariannol mae eu partneriaid yn eu cadw rhagddynt.  Tra bod 23% o bobl mewn perthnasoedd yn amau bod eu priod wedi cadw cyfrinach ariannol, cafwyd bod cynhyrchion cuddiedig yn fwy cyffredin byth, wrth i bron i hanner o’r rheiny sydd mewn perthnasoedd (45%) gyfaddef bod ganddynt gynnyrch ariannol annatguddiedig.

Dywedodd rhai ymatebwyr wrth yr ymchwilwyr am gyfrinachau a ddaeth yn haws eu rheoli ar ôl iddynt siarad yn agored â’u partneriaid: honnodd un ymatebydd, “Ar un adeg roeddwn yn agos at fethdaliad oherwydd cardiau credyd a benthyciadau na ddatgelais i’m partner nes na ellid ei guddio ragor. Cyfaddefais y problemau ac yn y diwedd gwnaethom eu datrys.”

Dywedodd ymatebydd arall, “Ddywedais i ddim wrth fy ngŵr pan gollais i reolaeth ar ein dyled cardiau credyd, a dechrau jyglo cardiau a thaliadau isafswm. Yn y diwedd, cyfaddefais y cyfan wrtho a chydnabod faint o ddyled oedd gennyf bellach – gwnaeth ef fy nghefnogi i fynd ar Gynllun Talu Dyledion ac rwyf wedi bod yn talu hynny am ychydig dros flwyddyn nawr, ac rydym yn llawer mwy sefydlog yn ariannol. Gwnaethom ddewis fel cwpl i beidio â defnyddio credyd ragor. Hefyd mae gennym gyfrif ar y cyd bellach fel ein prif gyfrif a dim ond ein cyllideb bersonol ar gyfer treuliau bach sy’n cael eu trosglwyddo i’n cyfrifon personol.”

Dywedodd Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Wrth i bron i 900,000 o bobl Cymru gyfaddef eu bod yn cadw cyfrinachau ariannol rhag eu hanwyliaid, rydym yn annog i bawb yng Nghymru siarad yn agored am unrhyw bryderon ariannol allai fod gennych yn ystod Wythnos Siarad Arian yr wythnos hon.  

“Gallai fod nifer o resymau pam mae pobl yn cadw cyfrinachau ariannol rhag y sawl sy’n agosaf atynt; gallai cyfrif cynilo cyfrinachol weithredu fel clustog i’r sawl sydd am ddianc rhag perthynas anodd; gellid cadw bil heb ei dalu yn gyfrinach er mwyn amddiffyn aelodau pryderus o’r teulu. Ond i lawer sy’n cadw cyfrinachau ariannol, gall fod yn deimlad o gywilydd neu embaras bod dyledion wedi mynd allan o reolaeth.  

“Mae 32% o bobl Cymru yn dweud bod ganddynt bryderon ariannol a gall dechrau sgwrs â rhywun – ffrind, aelod o’r teulu, neu arbenigwr – fod yn gam cyntaf i ddechrau lliniaru a mynd i’r afael â’r broblem. Mae bod yn agored yn ddechrau gwerthfawr i wneud problemau yn fwy hylaw, er budd ein hiechyd, perthnasoedd, a lles cyffredinol.

“Nid oes amser gwell na heddiw i ddechrau siarad ac mae gwefan Wythnos Siarad Arian yn cynnig cyfarwyddyd i helpu i ddechrau sgyrsiau ac i baratoi eich hun cyn y rheiny. Nid ydych ar eich pen eich hun ac fel mae ein hymchwil yn dangos, mae llawer o bobl eraill yn cario cyfrinachau am arian; mae adnoddau ar gael i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r cyfrinachau hyn gan gynnwys cyngor ar ddyledion, yn ogystal â chanllawiau arian a phensiynau.

Dywedodd Jasmine Birtles, arbenigwr ariannol o’r teledu a chefnogwr Wythnos Siarad Arian:

“Mae siarad am arian yn dal i fod yn ddiofryd i lot o bobl yn y DU. Er i ni fod yn hapus i siarad am bob math o bethau oedd arfer bod yn waharddedig, os ydych yn gofyn i rywun am ei incwm neu fuddsoddiadau maent yn distewi. Ymddengys mai siarad am arian yw’r tabŵ olaf, er gwaetha’r ffaith bod arian ar feddwl pawb. Mewn gwirionedd, mae’n rhywbeth arbennig o ddefnyddiol i siarad amdano ar hyn o bryd, o ystyried yr effaith y mae’r pandemig wedi cael ar gyllidebau llawer o bobl.

“Mae’n enwedig yn bwysig pan fydd amseroedd yn ansicr i siarad am arian â’r bobl sy’n agosaf atom, fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd tuag at nod gyffredin a chefnogi ein gilydd ar y ffordd. Os nad yw hynny’n opsiwn, gallwch droi at sefydliadau fel y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, sydd â arbenigwyr hyfforddiedig sy’n rhoi cyfarwyddyd anfarnol, diduedd am ddim.”

Mae gan MaPS ystod eang o adnoddau i helpu pobl i wella eu lles ariannol, gan ddechrau â sgwrs, yn ystod Wythnos Siarad Arian ag ar ôl hynny.

Canllawiau am siarad am arian

Am gyfarwyddyd ar gychwyn sgyrsiau am arian, gwelwch ganllawiau’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol:

Gweithredu i weithio drwy eich pryderon ariannol

Mae’r Teclyn Llywio Ariannol yn declyn syml sy’n helpu pobl i lywio eu cyllidebau yn sgil Covid-19 i gael ffordd ymlaen, cael cymorth ariannol nawr, a helpu osgoi problemau dyled yn y dyfodol.

Cael cymorth arbenigol

Er mwyn siarad ag arbenigwr diduedd am gyfarwyddyd am ddim ynghylch eich arian a phensiynau, ewch i’r gwefannau a llinellau cymorth canlynol.

Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy / 0800 138 0555

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797  

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944

Os yw eich partner yn rheoli eich arian neu’n cael dyledion yn eich enw, gallwch gael adnoddau a chymorth ychwanegol ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol: www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/amddiffyn-rhag-cam-drin-ariannol

-DIWEDD-   

Am ymholiadau’r wasg cysylltwch â:

Nodiadau i olygyddion

  1. Cynhaliwyd yr ymchwil gan Opinium ar gyfer y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Cynhaliwyd arolwg cynrychiadol o 5,225 o oedolion o’r DU o 18+ oed rhwng 9fed-19eg Hydref, o’r rheiny roedd 250 o Gymru. Pwyswyd y data i greu proffil sy’n cynrychioli’r genedl.
  2. Mae dros 2,487,745 o bobl dros 18 oed (yr oedran gallwch wneud cais am gredyd) yng Nghymru (ONS). Canfu’r ymchwil fod 36% yn cyfaddef i gadw cynnyrch ariannol yn gyfrinach rhag teulu a ffrindiau, sef 895,588 o bobl.

Am Wythnos Siarad Arian  

Mae Wythnos Siarad Arian yn ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus flynyddol a gynhelir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, i wneud i’r genedl sgwrsio am arian. Mae siarad am arian wedi ei ddangos i helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol mwy gwybodus â llai o risg, i deimlo llai o straen ac mewn mwy o reolaeth, i gael perthnasoedd personol cryfach, ac i helpu eu plant i ffurfio arferion ariannol da gydol oes. Bydd Wythnos Siarad Arian rhwng 9-13 Tachwedd 2020.


Mae Wythnos Siarad Arian hefyd yn gyfle blynyddol i ddathlu’r gwaith mae sefydliadau yn ei wneud i gefnogi Strategaeth y DU dros Les Ariannol, a lansiwyd gan MaPS fis Ionawr 2020, sydd â’r nod uchelgeisiol dros ddeng mlynedd i helpu pawb i wneud y gorau o’u harian a phensiynau. Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ar #SiaradArian.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ymroddedig Wythnos Siarad Arian https://www.maps.org.uk/cy/wythnos-siarad-arian/

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo fod ganddynt fwy o reolaeth dros eu cyllidebau ar hyd eu bywydau: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, bydd cymunedau’n iachach, busnesau’n cyfoethocach, mae’r economi’n buddio ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn cyflenwi cyfarwyddyd diduedd am ddim ar arian a phensiynau i’r cyhoedd drwy’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Mae MaPS yn gweithio i wneud yn siŵr bod y DU i gyd yn deall bod iechyd ariannol, corfforol, a meddyliol yn cysylltu’n ddwfn. Swyddogaeth MaPS yw cysylltu sefydliadau â nod gyffredin o gyflawni’r pum amcan a osodir yn Strategaeth y DU dros Les Ariannol <https://maps.org.uk/cy/strategaeth-y-du-ar-gyfer-llesiant-ariannol-2/>.

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian, wedi ei dargedu at y rheiny sydd angen cefnogaeth fwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Corff hyd fraich yw MaPS a noddir gan Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am ragor o wybodaeth ewch i https://maps.org.uk/cy/home-2/. Gall aelodau o’r cyhoedd gael cyfarwyddyd am ddim ynghylch eu harian a phensiynau ar:

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy / 0800 138 0555

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797  

www.pensionwise.gov.uk/cy / 0800 138 3944

Exit mobile version