Site icon The Money and Pensions Service

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn datgelu cynlluniau ar gyfer un cyrchfan defnyddiwr sy’n gyrru lles ariannol

Bydd pobl ledled y DU yn cael eu grymuso i reoli eu lles ariannol gyda mwy o hyder ac eglurder trwy gydol eu bywydau, pan fydd brand defnyddwyr cyfannol newydd yn cael ei lansio gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yr haf hwn.

Bydd HelpwrArian yn gyrchfan sengl sy’n rhoi arweiniad arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein a wyneb yn wyneb.1

Mae Covid-19 wedi amlygu’r pwysigrwydd o les ariannol, a bydd y brand newydd a dod â’r hen wasanaethau at eu gilydd ar amser pan mae llawer o bobl angen cymorth clir sy’n hawdd cael mynediad iddo. Hyd yn oed cyn y pandemig roedd:

Ac mae 60% o bobl yn dweud bod y pandemig Covid-19 wedi ychwanegu at eu pryderon ariannol.3

Beth yw lles ariannol?

Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n diogel ac mewn rheolaeth. Mae am wybod y gallwch dalu’r biliau heddiw, gallu delio â’r annisgwyl yfory a bod ar y trywydd iawn am ddyfodol ariannol iachus. Dylai pobl deimlo’n hyderus ac yn rymus.

Hen wasanaethau

Ers creu MaPS yn 2018, mae wedi cyflwyno ei gwasanaethau defnyddwyr o dan y tri hen frand o’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MAS), Y Gwasanaeth Ymgynghori ar Bensiynau (TPAS) a Pension Wise.

Bydd HelpwrArian yn dod â’r brandiau a’r gwasanaethau hyn at eU gilydd mewn un lle. Mae Pension Wise, sy’n darparu arweiniad i bobl 50 oed a throsodd am eu hopsiynau pensiwn, yn parhau fel gwasanaeth a enwir o dan ymbarel HelpwrArian.

Bydd arweiniad arian a phensiynau a chyngor am ddim ar ddyledion4 yn parhau i gynnig cymorth hanfodol i gwsmeriaid o dan y brand HelpwrArian newydd. Yn dilyn arolygiad trwyadl o’r holl wybodaeth, teclynnau a chynnwys ar wefannau yr hen wasanaethau, bydd y mwyafrif yn symud i gartref newydd ar wefan HelpwrArian, gan ei wneud hi’n haws i bobl dod o hyd i’r wybodaeth maent ei angen.

Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr MaPS:

“Mae dyfodiad HelpwrArian yn gam nesaf cyffrous yn ein taith i wella bywydau pobl ledled y DU. Bydd HelpwrArian yn gyrchfan sengl sy’n caniatáu i bobl ddod o hyd i a chyrchu cymorth ariannol a phensiynau am ddim. Yn aml mae materion ariannol yn gymhleth; a gwyddom nad yw llawer o bobl sy’n chwilio am help gydag arian neu bryderon pensiwn yn gwybod ble i ddechrau.

“Bydd HelpwrArian mewn sefyllfa unigryw i rymuso pobl i hysbysu eu hunain am eu dewisiadau a gwella eu lles ariannol ar hyd eu hoes. Bydd hefyd yn cysylltu pobl yn well â gwasanaethau cymorth eraill am ddim, os mai dyna beth sy’n iawn iddynt.

“Bydd y brand sengl newydd yn caniatáu mwy o effeithlonrwydd i MaPS fel y gall ein hymdrechion ganolbwyntio’n well ar gyflawni i pobl ledled y DU. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i’n rhwydwaith cynyddol o bartneriaid atgyfeirio pobl at ein gwasanaethau, gwybodaeth a theclynnau, a helpu i wella lles ariannol a chyffredinol y DU.”

Y daith i HelpwrArian

Datblygwyd HelpwrArian yn dilyn profion defnyddwyr helaeth ymhlith cynulleidfaoedd MaPS o bobl sy’n ei chael hi’n anodd, sy’n cael eu gwasgu a’u chlustogi5. Hunaniaeth brand y gwasanaethau cyfun oedd y peth a gafodd ei dderbyn yn fwyaf cadarnhaol gan gwsmeriaid gan ei fod yn glir, yn bersonadwy ac annog pobl i weithredu.

Paratoi ar gyfer HelpwrArian

Mae MaPS yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled y DU i sicrhau eu bod yn barod i gyfeirio at wasanaethau a chynnwys HelpwrArian pan fydd y brand yn dechrau cael ei gyflwyno yn gynnar ym mis Mehefin 2021. Caiff pecyn cymorth a chanllaw i randdeiliaid eu cynhyrchu i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r defnydd maent ei angen i sicrhau bod y newid i HelpwrArian mor hawdd â phosibl.

Ar hyn o bryd, bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeiro’n awtomatig o wefannau yr hen frandiau i HelpwrArian.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/moneyhelper.

-ENDS-   

Ar gyfer ymholiadau’r wasg cysylltwch â:

MaPS Swyddfa’r Wasg 020 8132 5284 / media@maps.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae gwasanaethau wyneb yn wyneb wedi’u hatal ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a bydd yn ail-gychwyn yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.
  2. Gwasanaeth Arian a Phensiynau: Strategaeth y DU am Les Ariannol, 2020
  3. Gwasanaeth Arian a Phensiynau: Cywilydd, magwraeth bod yn faich ar eraill: pam nad yw 29 miliwn o oedolion y DU yn teimlo’n cyfforddus wrth siarad am arian er eu bod yn teimlo’n bryderus amdano
    Cynhaliwyd yr ymchwil gan Opinium ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Cynhaliwyd arolwg cynrychioliadol cenedlaethol o 5,225 o oedolion 18+ y DU rhwng 9 a 19 Hydref 2020 ar gyfer Wythnos Siarad am Arian.
  4. MaPS yw’r ariannwr mwyaf o gyngor ar ddyledion yn Lloegr ac mae’n ariannu cyngor dyled diduedd am ddim a ddarperir gan StepChange, Cyngor ar Bopeth, National Debtline.
  5. Mae MaPS yn diffinio’r rhai sy’n ‘ei chael yn anodd’ fel pobl sy’n ei chael yn anodd cadw i fyny â biliau a thaliadau ac i adeiladu unrhyw fath o byffer cynilo. Nhw yw’r segment lleiaf gwydn yn ariannol a’r rhai mwyaf tebygol o fod â gormod o ddyled.

    Mae’r rhai sy’n cael eu ‘gwasgu’ yn ddefnyddwyr o oedran gweithio sydd ag ymrwymiadau ariannol sylweddol ond cymharol ychydig o ddarpariaeth ar gyfer ymdopi â sioc incwm. Maent yn ddigidol gwybodus ac mae ganddynt ddefnydd uchel o’r cyfryngau, ond mae hyn yn fwy ar gyfer adloniant na gwybodaeth ariannol.

    Y rhai sydd â ‘chlustog’ yw’r grŵp o ddefnyddwyr mwyaf gwydn yn ariannol sydd â’r lefel uchaf o incwm a chynilion a nhw yw’r lleiaf tebygol o fod â gormod o ddyled. Maent yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth llawn amser neu wedi ymddeol, a nhw sydd â’r ymgysylltiad mwyaf â’u cyllid.  

    Mae hwn yn seiliedig ar y Segmentu Marchnad Darged y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau   

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pob person yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian trwy gydol eu bywydau: o arian poced hyd at bensiynau. Pan rydynt, mae cymynedau yn fwy iach, busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau rhad ac am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd ariannol, corfforol a meddyliol. Rôl ‘MaPS’ yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU am Les Ariannol.

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth dros eu harian, wedi’i dargedu at y rhai mwyaf anghenus ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk. Gall aelodau’r cyhoedd cael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy:

www.moneyadviceservice.org.uk / 0800 138 0555

www.pensionsadvisoryservice.org.uk / 0800 011 3797

www.pensionwise.gov.uk / 0800 138 3944

Exit mobile version