- Ymweliadau â glan y môr, prydau bwyd allan mewn bwytai, garddio a difyrru gartref yw’r prif ‘bleserau syml’ y mae Cenhedlaeth X am eu mwynhau ar ôl ymddeol
- Mae 33% am flaenoriaethu cymdeithasu dros eitemau ‘tocyn mawr’ ac mae 41% o’r rhai sy’n bwriadu ymddeol wedi ailasesu eu blaenoriaethau ymddeol yn sgil y pandemig
- Ond mae 12 miliwn o Genhedlaeth X yn y tywyllwch o ran faint o arian fydd ei angen arnyn nhw
- Mae Helpwr Arian yn annog Cenhedlaeth X i sylweddoli nad yw’n rhy hwyr i weithredu, gan gynnig camau syml i helpu i baratoi’r ffordd i ymddeoliad mwy pleserus
Mae teithiau i lan y môr, peintiau yn y dafarn a choffi gyda ffrindiau ymhlith llawenydd bach bywyd y mae Cenhedlaeth X yn ysu amdanynt fwyaf am eu blynyddoedd ar ôl gwaith, ond gallai llawer fod yn wynebu pensiwn heb yr holl ychwanegiadau yn ôl ymchwil newydd gan HelpwrArian.
Nid yw 12 miliwn o Genhedlaeth X (88%)1 wedi cyfrif faint y bydd angen iddyn nhw fyw arno ar ôl ymddeol ac mae llai na thraean (29%) wedi ystyried cost cymdeithasu ar y cam hwn o’u bywyd.
Cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth Pensiwn ar ddydd Mercher 15 Medi 2021, gofynnwyd i dros 2,000 o oedolion y DU rhwng 40 a 55 mlwydd oed ystyried eu gobeithion ar gyfer ymddeol. Mae’r pandemig wedi golygu bod y rhai sy’n bwriadu ymddeol, pedwar o bob deg (41%) wedi ailasesu eu blaenoriaethau ar gyfer ymddeol fel yr hyn y byddant yn gwario eu hincwm arno, ac mae 33% o Genhedlaeth X am flaenoriaethu cymdeithasu dros eitemau ‘tocyn mawr’ a phrofiadau fel gwyliau. Dywedodd dros ddwy ran o dair (73%) fod treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn bwysicach iddyn nhw nawr, a (55%) yn gwneud ymdrech fwy ymwybodol i gymdeithasu â’u hanwyliaid.
Dyma’r pleserau syml y mae Cenhedlaeth X yn edrych ymlaen atynt ar ôl ymddeol sef:
- Taith i lan y môr (42%)
- Pryd allan mewn bwyty cyfagos (34%)
- Coffi gyda ffrindiau (33%)
- Garddio (32%)
- Diddanu teulu a ffrindiau gartref (28%)
- Diod yn eu tafarn leol (24%)
Fodd bynnag, er bod y rhai a arolygwyd yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod am fwynhau pryd allan, cael coffi gyda ffrindiau a diod yn y dafarn unwaith yr wythnos, efallai na fyddant yn gallu fforddio’r pethau hyn mor aml ag yr hoffent pe byddent ar y trywydd iawn ar gyfer safon ymddeol ‘gymedrol’. Y gyllideb ‘ymddeoliad cymedrol’ a argymhellir ar gyfer bwyta allan yw £900 y flwyddyn2 ond byddai angen £1,013 ar Genhedlaeth X i fwynhau’r bywyd cymdeithasol y maent ei eisiau ar ôl ymddeol – a gallai orfod torri’n ôl ar chwe wythnos o fwyta allan, neu’r hyn sy’n cyfateb â 33 coffi neu 9 pryd bwyd bwyty.3
Mae ymchwil gan y Ganolfan Hirhoedledd Rhyngwladol wedi dangos mai dim ond 7% o Genhedlaeth X sydd â phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy’n arbed digon i sicrhau ffordd o fyw cymedrol ar ôl ymddeol.4 Mae hyn yn golygu y gallai rhai wynebu ymddeoliad llai sylweddol.
Yn ôl y canfyddiadau, mae dirywiad economaidd ac effeithiau Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar bedwar o bob 10 (39%) o bobl 40-55 oed. Dywedodd mwy na chwarter (27%) y bydd eu cronfa ymddeol yn debygol o fod yn llai oherwydd ffyrflo neu ddiswyddo yn ystod y pandemig, tra dywedodd 27% hefyd y bydd yn rhaid iddynt ymddeol yn ddiweddarach oherwydd effaith ariannol Covid-19.
Yn ôl Carolyn Jones, arbenigwr pensiynau gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau: “Mae mwynhau pleserau bychain bywyd, fel cymdeithasu dros goffi gyda ffrindiau, wedi dod yn fwy arbennig nag erioed yn ystod y misoedd diwethaf. Ond mae ein hymchwil wedi cynnig gwirionedd llai na blasus y gallai llawer o’r rhai sy’n cynilo ar gyfer ymddeol ar hyn o bryd orfod torri’n ôl ar y ffordd o fyw yr oeddent yn ei disgwyl.
“Y peth pwysig yw, nid yw’n rhy hwyr i weithredu – ac nid oes rhaid i chi ddisodli eich cyfraniadau pensiwn i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i roi hwb i’ch pensiwn, fel ymweld â gwefan Helpwr Arian O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol a rhoi cynnig ar ein ‘Carreg Filltir Arian’ pensiynau, neu siarad â’n harbenigwyr pensiynau.
“Efallai y byddai’n frawychus meddwl faint o incwm sydd ei angen arnoch ar ôl ymddeol, ond mae cymorth am ddim wrth law ac efallai y bydd yn syndod i chi ddarganfod eich bod yn agosach nag yr ydych yn meddwl at yr ymddeoliad yr ydych yn ei ddymuno, neu fod rhai gweithredoedd syml i gymryd nawr i’ch helpu chi i gyrraedd yno. Mae cael help yr Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn hon yn golygu y gallwch fwyta allan yn llythrennol ar eich ymdrechion pan gyrhaeddwch eich ymddeoliad.”
Yn ôl Dionne Ferguson, 56 o Ogledd Ddwyrain Llundain: “Nid wyf erioed wedi rhoi ail feddwl i’m pensiwn nes y cyfnod clo. Gyda’r holl waith papur a therminoleg arbenigol, roedd ceisio deall y cyfan yn ymddangos yn llethol iawn. Dim ond nes i mi gael mwy o amser i ystyried y peth drwy weithio gartref y llwyddais i fuddsoddi peth amser i geisio deall sut olwg fyddai ar fy ymddeoliad.
“Ar ôl ychydig o anogaeth gan fy merch, cysylltais â gwasanaeth Pension Wise HelpwrArian am gefnogaeth. Roedd y ddynes y siaradais â hi’n hynod gyfeillgar ac mae wedi fy helpu i ddarganfod cronfeydd pensiwn nad oeddwn yn gwybod bod gen i. Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw i rywun egluro pethau yn syml er mwyn i chi deimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud newid.
“Ar hyn o bryd, nid wyf yn agos at ddeall faint y bydd ei angen arnaf mewn gwirionedd ar gyfer y pleserau bach yn fy mywyd diweddarach, na’r hyn y dylwn fod yn anelu ato. Ond, rydw i’n gwneud newidiadau bach, positif bob dydd nawr fy mod i’n gwybod a fydd yn fy helpu i gyrraedd yno a dyna beth sy’n bwysig. Nawr rwy’n teimlo bod gen i reolaeth dros fy mhensiynau ac yn gallu cymryd perchnogaeth o’m cynlluniau ymddeoliad, sy’n welliant gwych ers 18 mis yn ôl. Byddwn yn argymell i unrhyw un yn eu 40au neu 50au wneud yr un peth!”
Mae HelpwrArian yn cynnig y prif awgrymiadau canlynol ar sut i ddechrau cynllunio ar gyfer arian ymddeoliad:
- O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol. Mae ‘O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol, ar gael ar wefan HelpwrArian, yn hyfforddi pobl i wella eu lles ariannol o wythnos i wythnos, p’un a ydyn nhw’n ddechreuwr llwyr neu’n mynd yn ôl ar y trywydd iawn, yn yr un ffordd ag y byddent â’u hiechyd corfforol neu feddyliol. Mae yna dudalen pensiynau arbenigol i’ch helpu i gynllunio ar gyfer yr ymddeoliad rydych ei eisiau.
- Gallwch olrhain eich cronfa(cronfeydd) pensiwn a gweld beth yw eu gwerth. Gyda’r person cyffredin yn cael 11 swydd drwy gydol eu hoes, mae’n hawdd colli trywydd unrhyw bensiynau y gallech fod wedi’u cael yn y gorffennol. Os credwch eich bod wedi colli pensiwn yn y gweithle, eich pwynt cyflog cyntaf ddylai fod eich cyn-gyflogwr, neu gallwch gysylltu â’r darparwr os byddwch wedi cofio pwy ydyn nhw. Os na allwch ddod o hyd i fanylion y naill neu’r llall, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Olrhain Pensiynau’r llywodraeth. Ar ôl i chi olrhain eich cronfeydd, gallwch wirio’ch datganiadau neu ofyn i’ch cynllun neu’ch darparwr am brisiad diweddaraf o faint rydych wedi’i gynilo.
- Ystyriwch eich costau byw ar ôl ymddeol. Gallwch lunio cyllideb ar gyfer eich incwm a’ch gwariant disgwyliedig mor gynnar â phosibl i roi mwy o ymdeimlad o reolaeth i’ch sefyllfa. Mae gan Helpwr Arian teclyn cynlluniwr cyllideb i’ch helpu cynllunio.
- Ystyriwch pa oedran yr hoffech ymddeol a phryd y byddech am gael gafael ar eich cynilion pensiwn. I rai pobl, efallai na fydd hyn o reidrwydd ar yr un pryd. Efallai bod rhai pobl eisoes wedi dewis oedran ymddeol gyda’u darparwr, ond os yw’ch amgylchiadau wedi newid a’ch bod yn bwriadu ymddeol yn gynharach neu’n hwyrach, efallai yr hoffech ailystyried sut mae’ch cynilion yn cael eu rheoli i sicrhau bod eich arian yn gweithio’n galed i chi. Mae’n ddefnyddiol hefyd gwirio’ch incwm ymddeol drwy ddefnyddio cyfrifiannell pensiwn os ydych yn wynebu unrhyw newidiadau.
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn, ymgyrch flynyddol a gynhelir gan Pension Geeks gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Pensiwn ei hun ar 15 Medi a’i ddiben yw ysbrydoli pobl i wneud y gorau o’u pensiynau.
Mae HelpwrArian, a gefnogir gan y llywodraeth, yn gyrchfan sengl newydd sy’n darparu arweiniad am ddim ar arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn cyfeirio pobl at gyngor dyled arbenigol am ddim, os oes eu hangen arnynt. Mae’n dwyn ynghyd y gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
-GORFFEN-
Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:
Swyddfa’r Wasg MaPS: 020 8132 5284 / media@maps.org.uk
Mia Cochrane, uwch swyddog y wasg: 020 8132 4937 / mia.cochrane@maps.org.uk
Kindred Agency 020 7010 0888 / moneyandpensions@kindredagency.com
Nodiadau i olygyddion
Siaradodd Censuswide â dros 2000 o oedolion y DU rhwng 40 a 55 oed nad ydyn nhw wedi ymddeol neu’n ddi-waith ac nad ydyn nhw’n chwilio am waith rhwng 27 a 31 Awst 2021
- Dywedodd 12% o oedolion y DU rhwng 40 a 55 oed eu bod wedi cyfrif faint o arian y bydd ei angen arnynt ar ôl ymddeol, sy’n golygu nad yw 88% wedi gwneud hyn. Mae 14,013,459 o bobl 40-55 oed o’r data ONS diweddaraf yn y DU. Mae 88% o hyn yn 12,331,844
- Mae Safonau Byw Ymddeol y Gymdeithas Pensiynau a Chynilion Oes yn argymell cyllideb ‘Ymddeoliad cymedrol’ ar gyfer bwyta allan, coffi a siopau tecawê yw £ 75 y pen, y mis. Mae hyn yn cyfateb i £900 y flwyddyn.
- Roedd pobl a ddywedodd eu bod eisiau bwyta pryd allan mewn bwyty, NEU fwynhau coffi gyda ffrindiau, NEU gael diod yn y dafarn leol yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod am wneud y pethau hyn unwaith yr wythnos ar ôl ymddeol.
Y gost o fwyta mewn bwyty llai costus ar gyfratledd yw £12 yn seiliedig ar ddata Numbeo. £12 X 52 wythnos mewn blwyddyn = £624 y flwyddyn / 12 = £52 y mis.
Y gost ar gyfartaledd o gael latte/cappuccino canolig cadwyn stryd faw £3.30 sydd wedi’i dalgrynnu hyd at £3.50. £3.50 x 52 = £182 / 12 = £15.16 y mis.
Y gost ar gyfartalog o gael peint o lager yw £3.88c yn seiliedig ar ddata ONS. Wedi’i dalgrynnu hyd at £4, £4 X 52 = £208 / 12 = £17.33 y mis.
52 + £15.16 + £17.33 = £84.49 y mis ar brydau allan, coffi a diodydd. £ 84.49 x 12 = £ 1013.88 y flwyddyn
I gyfrif faint o wythnosau y byddai’n rhaid i bobl cwtogi:
£1013 / 52 = £19.48 yr wythnos
£900 / £19.48 = 46.19 wythnos
52 wythnos – 46.19 wythnos = 5.8 diffyg yr wythnos
I gyfrif faint o goffi neu brydau bwyd mae’r diffyg hwn yn cyfateb â
£1013.88 – £900 = £113.88 / £3.50 fesul coffi = 33 coffi
£113.88 / £12 fesul pryd o fwyd allan = 9 pryd o fwyd allan - Canolfan Hirhoedledd Rhyngwladol y DU, Slipping between the cracks? Retirement income prospects for Generation X
Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu cyllid trwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fod hynny’n digwydd, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae o fudd i’r economi ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy HelpwrArian, a ddaeth â’r gwasanaethau etifeddol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise ynghyd yn ddiweddar.
Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU cyfan yn deall bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd ariannol, corfforol a meddyliol. Rôl ‘MaPS’ yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol
Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu harian, wedi’i dargedu at y rhai mwyaf anghenus ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Am wybodaeth bellach ewch i www.maps.org.uk
Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy: www.moneyhelper.org.uk/cy / 0800 138 7777