Site icon The Money and Pensions Service

Pleserau bychain bywyd (yn ddiweddarach)

Mae teithiau i lan y môr, peintiau yn y dafarn a choffi gyda ffrindiau ymhlith llawenydd bach bywyd y mae Cenhedlaeth X yn ysu amdanynt fwyaf am eu blynyddoedd ar ôl gwaith, ond gallai llawer fod yn wynebu pensiwn heb yr holl ychwanegiadau yn ôl ymchwil newydd gan HelpwrArian.

Nid yw 12 miliwn o Genhedlaeth X (88%)1 wedi cyfrif faint y bydd angen iddyn nhw fyw arno ar ôl ymddeol ac mae llai na thraean (29%) wedi ystyried cost cymdeithasu ar y cam hwn o’u bywyd.

Cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth Pensiwn ar ddydd Mercher 15 Medi 2021, gofynnwyd i dros 2,000 o oedolion y DU rhwng 40 a 55 mlwydd oed ystyried eu gobeithion ar gyfer ymddeol. Mae’r pandemig wedi golygu bod y rhai sy’n bwriadu ymddeol, pedwar o bob deg (41%) wedi ailasesu eu blaenoriaethau ar gyfer ymddeol fel yr hyn y byddant yn gwario eu hincwm arno, ac mae 33% o Genhedlaeth X am flaenoriaethu cymdeithasu dros eitemau ‘tocyn mawr’ a phrofiadau fel gwyliau. Dywedodd dros ddwy ran o dair (73%) fod treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn bwysicach iddyn nhw nawr, a (55%) yn gwneud ymdrech fwy ymwybodol i gymdeithasu â’u hanwyliaid.

Dyma’r pleserau syml y mae Cenhedlaeth X yn edrych ymlaen atynt ar ôl ymddeol sef:

Fodd bynnag, er bod y rhai a arolygwyd yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod am fwynhau pryd allan, cael coffi gyda ffrindiau a diod yn y dafarn unwaith yr wythnos, efallai na fyddant yn gallu fforddio’r pethau hyn mor aml ag yr hoffent pe byddent ar y trywydd iawn ar gyfer safon ymddeol ‘gymedrol’. Y gyllideb ‘ymddeoliad cymedrol’ a argymhellir ar gyfer bwyta allan yw £900 y flwyddyn2 ond byddai angen £1,013 ar Genhedlaeth X i fwynhau’r bywyd cymdeithasol y maent ei eisiau ar ôl ymddeol – a gallai orfod torri’n ôl ar chwe wythnos o fwyta allan, neu’r hyn sy’n cyfateb â 33 coffi neu 9 pryd bwyd bwyty.3

Mae ymchwil gan y Ganolfan Hirhoedledd Rhyngwladol wedi dangos mai dim ond 7% o Genhedlaeth X sydd â phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy’n arbed digon i sicrhau ffordd o fyw cymedrol ar ôl ymddeol.4 Mae hyn yn golygu y gallai rhai wynebu ymddeoliad llai sylweddol.

Yn ôl y canfyddiadau, mae dirywiad economaidd ac effeithiau Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar bedwar o bob 10 (39%) o bobl 40-55 oed. Dywedodd mwy na chwarter (27%) y bydd eu cronfa ymddeol yn debygol o fod yn llai oherwydd ffyrflo neu ddiswyddo yn ystod y pandemig, tra dywedodd 27% hefyd y bydd yn rhaid iddynt ymddeol yn ddiweddarach oherwydd effaith ariannol Covid-19.

Yn ôl Carolyn Jones, arbenigwr pensiynau gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau: “Mae mwynhau pleserau bychain bywyd, fel cymdeithasu dros goffi gyda ffrindiau, wedi dod yn fwy arbennig nag erioed yn ystod y misoedd diwethaf. Ond mae ein hymchwil wedi cynnig gwirionedd llai na blasus y gallai llawer o’r rhai sy’n cynilo ar gyfer ymddeol ar hyn o bryd orfod torri’n ôl ar y ffordd o fyw yr oeddent yn ei disgwyl.

“Y peth pwysig yw, nid yw’n rhy hwyr i weithredu – ac nid oes rhaid i chi ddisodli eich cyfraniadau pensiwn i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i roi hwb i’ch pensiwn, fel ymweld â gwefan Helpwr Arian O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol a rhoi cynnig ar ein ‘Carreg Filltir Arian’ pensiynau, neu siarad â’n harbenigwyr pensiynau.

“Efallai y byddai’n frawychus meddwl faint o incwm sydd ei angen arnoch ar ôl ymddeol, ond mae cymorth am ddim wrth law ac efallai y bydd yn syndod i chi ddarganfod eich bod yn agosach nag yr ydych yn meddwl at yr ymddeoliad yr ydych yn ei ddymuno, neu fod rhai gweithredoedd syml i gymryd nawr i’ch helpu chi i gyrraedd yno. Mae cael help yr Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn hon yn golygu y gallwch fwyta allan yn llythrennol ar eich ymdrechion pan gyrhaeddwch eich ymddeoliad.”

Yn ôl Dionne Ferguson, 56 o Ogledd Ddwyrain Llundain: “Nid wyf erioed wedi rhoi ail feddwl i’m pensiwn nes y cyfnod clo. Gyda’r holl waith papur a therminoleg arbenigol, roedd ceisio deall y cyfan yn ymddangos yn llethol iawn. Dim ond nes i mi gael mwy o amser i ystyried y peth drwy weithio gartref y llwyddais i fuddsoddi peth amser i geisio deall sut olwg fyddai ar fy ymddeoliad.

“Ar ôl ychydig o anogaeth gan fy merch, cysylltais â gwasanaeth Pension Wise HelpwrArian am gefnogaeth. Roedd y ddynes y siaradais â hi’n hynod gyfeillgar ac mae wedi fy helpu i ddarganfod cronfeydd pensiwn nad oeddwn yn gwybod bod gen i. Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw i rywun egluro pethau yn syml er mwyn i chi deimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud newid.

“Ar hyn o bryd, nid wyf yn agos at ddeall faint y bydd ei angen arnaf mewn gwirionedd ar gyfer y pleserau bach yn fy mywyd diweddarach, na’r hyn y dylwn fod yn anelu ato. Ond, rydw i’n gwneud newidiadau bach, positif bob dydd nawr fy mod i’n gwybod a fydd yn fy helpu i gyrraedd yno a dyna beth sy’n bwysig. Nawr rwy’n teimlo bod gen i reolaeth dros fy mhensiynau ac yn gallu cymryd perchnogaeth o’m cynlluniau ymddeoliad, sy’n welliant gwych ers 18 mis yn ôl. Byddwn yn argymell i unrhyw un yn eu 40au neu 50au wneud yr un peth!”

Mae HelpwrArian yn cynnig y prif awgrymiadau canlynol ar sut i ddechrau cynllunio ar gyfer arian ymddeoliad:  

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn, ymgyrch flynyddol a gynhelir gan Pension Geeks gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Pensiwn ei hun ar 15 Medi a’i ddiben yw ysbrydoli pobl i wneud y gorau o’u pensiynau.

Mae HelpwrArian, a gefnogir gan y llywodraeth, yn gyrchfan sengl newydd sy’n darparu arweiniad am ddim ar arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn cyfeirio pobl at gyngor dyled arbenigol am ddim, os oes eu hangen arnynt. Mae’n dwyn ynghyd y gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

-GORFFEN-

Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:

Swyddfa’r Wasg MaPS: 020 8132 5284 / media@maps.org.uk
Mia Cochrane, uwch swyddog y wasg: 020 8132 4937 / mia.cochrane@maps.org.uk
Kindred Agency  020 7010 0888moneyandpensions@kindredagency.com

Nodiadau i olygyddion 

Siaradodd Censuswide â dros 2000 o oedolion y DU rhwng 40 a 55 oed nad ydyn nhw wedi ymddeol neu’n ddi-waith ac nad ydyn nhw’n chwilio am waith rhwng 27 a 31 Awst 2021

  1. Dywedodd 12% o oedolion y DU rhwng 40 a 55 oed eu bod wedi cyfrif faint o arian y bydd ei angen arnynt ar ôl ymddeol, sy’n golygu nad yw 88% wedi gwneud hyn. Mae 14,013,459 o bobl 40-55 oed o’r data ONS diweddaraf yn y DU. Mae 88% o hyn yn 12,331,844
  2. Mae Safonau Byw Ymddeol y Gymdeithas Pensiynau a Chynilion Oes yn argymell cyllideb ‘Ymddeoliad cymedrol’ ar gyfer bwyta allan, coffi a siopau tecawê yw £ 75 y pen, y mis. Mae hyn yn cyfateb i £900 y flwyddyn.
  3. Roedd pobl a ddywedodd eu bod eisiau bwyta pryd allan mewn bwyty, NEU fwynhau coffi gyda ffrindiau, NEU gael diod yn y dafarn leol yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod am wneud y pethau hyn unwaith yr wythnos ar ôl ymddeol.

    Y gost o fwyta mewn bwyty llai costus ar gyfratledd yw £12 yn seiliedig ar ddata Numbeo. £12 X 52 wythnos mewn blwyddyn = £624 y flwyddyn / 12 = £52 y mis.
    Y gost ar gyfartaledd o gael latte/cappuccino canolig cadwyn stryd faw £3.30 sydd wedi’i dalgrynnu hyd at £3.50. £3.50 x 52 = £182 / 12 = £15.16  y mis.
    Y gost ar gyfartalog o gael peint o lager yw £3.88c yn seiliedig ar ddata ONS. Wedi’i dalgrynnu hyd at £4, £4 X 52 = £208 / 12 = £17.33 y mis.

    52 + £15.16 + £17.33 = £84.49 y mis ar brydau allan, coffi a diodydd. £ 84.49 x 12 = £ 1013.88 y flwyddyn

    I gyfrif faint o wythnosau y byddai’n rhaid i bobl cwtogi:
    £1013 / 52 = £19.48 yr wythnos
    £900 / £19.48 = 46.19 wythnos
    52 wythnos – 46.19 wythnos = 5.8 diffyg yr wythnos

    I gyfrif faint o goffi neu brydau bwyd mae’r diffyg hwn yn cyfateb â
    £1013.88 – £900 = £113.88 / £3.50 fesul coffi = 33 coffi
    £113.88 / £12 fesul pryd o fwyd allan = 9 pryd o fwyd allan
  4. Canolfan Hirhoedledd Rhyngwladol y DU, Slipping between the cracks? Retirement income prospects for Generation X

Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu cyllid trwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fod hynny’n digwydd, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae o fudd i’r economi ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy HelpwrArian, a ddaeth â’r gwasanaethau etifeddol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise ynghyd yn ddiweddar.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU cyfan yn deall bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd ariannol, corfforol a meddyliol. Rôl ‘MaPS’ yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu harian, wedi’i dargedu at y rhai mwyaf anghenus ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am wybodaeth bellach ewch i www.maps.org.uk

Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy: www.moneyhelper.org.uk/cy / 0800 138 7777

Exit mobile version