Site icon The Money and Pensions Service

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Deddf Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’r ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru fel y’i hymgorfforir gan Fesur Cymraeg (Cymru) 2011.

Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg. Mae dwy egwyddor yn sail i’n gwaith:

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Fel corff cyhoeddus, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi datblygu cynllun iaith Gymraeg newydd i ddisodli cynlluniau ar wahân y sefydliadau a ddaeth ynghyd i’w greu – Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, a Pension Wise.

Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd MaPS yn rhoi ar waith yr egwyddorion a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg a fydd, lle bynnag y bo hynny’n briodol ac yn ymarferol, yn trin yr ieithoeddd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal.

Mae’r cynllun yn cwmpasu’r ystod lawn o wasanaethau a gweithrediadau yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol a’r rhai sydd wedi’u comisiynnu, partneriaethau, cyhoeddiadau, recriwtio a phrosesau AD.

Trwy www.helpwrarian.org.uk gall ein cwsmeriaid yng Nghymru gael gafael ar gymorth ar gyfer eu materion ariannol ar-lein, dros y ffôn, trwy WhatsApp a gwesgwrs.

Pryd fydd y cynllun yn cael ei lansio

Bydd MaPS yn ymgynghori â’r cyhoedd yng Nghymru o 4 Hydref am wyth wythnos ac yna, yn dilyn unrhyw welliannau yn seiliedig ar adborth a sylwadau, byddwn yn cyflwyno ein cynllun i’r Comisiynydd Iaith Gymraeg.

Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn darpariaeth iaith Gymraeg neu wasanaethau MaPS i ddarparu adborth, meddyliau a sylwadau erbyn 5pm ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021 trwy e-bost i YmgynghoriadCynllunIaithGymraeg@maps.org.uk

Lawrlwythwch ymgynghoriad

Exit mobile version