Site icon The Money and Pensions Service

Mae HelpwrArian yn annog pobl i weithredu ar Ddiwrnod Cenedlaethol Olrhain Pensiwn

Y dydd Sul yma yw Diwrnod Cenedlaethol Olrhain Pensiynau, menter newydd yn y DU i wneud pobl yn ymwybodol o’r pensiynau gallant fod wedi anghofio amdano. Pan fydd y DU yn troi nôl y clociau fel mae Amser Arbed Golau Dydd yn dod i ben, mae trefnwyr Diwrnod Cenedlaethol Olrhain Pensiynau â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn annog pobl i ddefnyddio yr awr ychwanegol maent wedi ennill i olrhain unrhyw bensiynau coll.

Amcangyfrifir fod £19.4 billiwn mewn potiau pensiynau heb eu hawlio yn bodoli yn y DU, £13,000 yr un ar gyfartaledd1.Yr un pryd, bob mis yn y DU, mae mwy na 10,000 o bobl yn ceisiau olrhain eu potiau pensiynau coll ond ddim yn gwybod ble i gychwyn2.

Mae HelpwrArian gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig arweiniad am ddim wedi ei gefnogi gan y llywodraeth ar-lein a dros y ffôn am holl faterion pensiynau – gan gynnwys sut i gychwyn olrhain eich gwahanol botiau pensiwn. Gallwch hefyd siarad ag arbenigwr pensiynau Helpwr Arian yn rhad ac am ddim ar 0800 011 3797 am unrhyw o’ch cwestiynau pensiynau, neu ddefnyddio ein gwe-sgwrs, ffurflen ar-lein neu WhatsApp.

Dywedodd Charlotte Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Arweiniad a Strategaeth Diolegu Cwsmeriaid yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Dylai pawb edrych ymlaen at ymddeol yn gyfforddus. Fodd bynnag, gyda’r person cyffredin â 11 o swyddi yn ystod eu bywyd, mae’n hawdd colli trac ar y pensiynau rydych wedi gael. Gall olrhain pensiynau coll eich helpu i ariannu yr ymddeoliad rydych eisiau a gall fod werth yr amser â’r ymdrech’’.

“Ar ein llinell gymorth HelpwrArian rhad ac am ddim, rydym yn cael mwy na 400 o alwadau bob mis gan bobl sydd yn ceisio olrhain eu pensiynau coll ond ddim yn gwybod ble i gychwyn. Mae ein arbenigwyr cymwysiedig a diduedd yn gallu eu siarad drwy’r broses olrhain dros y ffôn o’r cychwyn i’r diwedd, gam wrth gam, i’w helpu olrhain unrhyw gynilion pensiynau sydd yn haeddiannol iddynt. Ar adegau mae pobl yn caerl eu synnu ar yr ochr orau â beth maent yn ddarganfod!’’

Mae HelpwrArian wedi gweld mwy na 1 miliwn o ymweliadau i’w gwefan arweiniad gwasanaethau pensiwn ers ei lansio ar 30 Mehefin 2021 a’r tudalennau ‘Pensiynau ac Ymddeoliad’ ar y wefan sydd wedi gweld y lefelau uchaf o ymgysylltu, sy’n awgrymu fod yr adnoddau am ddim yma yn cael ei werthfawrogi gan y rhai sy’n ceisio’r gwybodaeth.

Dywedodd Jason* a wnaeth yn ddiweddar ddefnyddio llinell gymorth Helpwr Arian i olrhain ei bensiwn coll:

“Roeddwn o hyd yn meddwl be bynnag swydd ei bod ynddo, fod eich pensiynau yn eich dilyn o gwmpas. Roeddwn ond eisiau gwirio os oedd fy mhensiwn yn fy helpu â costau angladd. Ydw i angen hel gwybodaeth am yr holl swyddi rwyf wedi’i gael?’’

Ar ôl i arbenigwr pensiynau HelpwrArian, Martin Bell, egluro ei fod yn ymarferiad untro a sut i fynd o gwmpas olrhain bob pensiwn, dywedodd y cwsmer: ‘’Rydych wedi gwneud fy niwrnod, a bod yn glir â mi, rwyf yn gwir werthfawrogi be rydych wedi ei wneud. Os y byddwn yn gallu, byddwn yn rhoi fy llaw lawr y ffôn ac ysgwyd eich llaw!’’

Mae Martin Bell, arbenigwr pensiwn yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn darparu y 5 awgrym gorau canlynol i ddeall eich sefyllfa pensiwn, olrhain unrhyw bensiynau coll a hwb i’ch cynilion:

  1. “Olrhain eich potiau pensiwn a gwirio eu gwerth. Os ydych yn meddwl eich bod wedi colli pensiwn gweithle, cychwynnwch drwy gysylltu â’ch cyn-gyflogwr. Os na allwch ddarganfod eu manylion cyswllt, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Olrhain Pensiwn y llywodraeth neu ffonio llinell gymorth pensiynau HelpwrArian am ddim ar 0800 011 3797 .
  2. Pan rydych wedi olrhain eich potiau, gallwch wirio eich datganiadau neu ofyn i’ch cynllun neu ddarparwr am brisiad cyfredol o faint rydych wedi ei gynilo.
  3. Meddyliwch am eich costau byw mewn ymddeoliad. Gweithiwch allan gyllideb am eich incwm a gwariant disgwyliedig mor gynnar a phosib i roi llun clirach i’ch hun o faint y gallai fod angen arnoch – a peidiwch ag anghofio y pethau neis rydych eisiau gwneud mwy ohono pan fyddwch wedi ymddeol.
  4. Gallwch hefyd wirio incwm ymddeol rhagamcanol drwy ddefnyddio Cyfrifiannell Pensiwn HelpwrArian.
  5. Rhoi hwb i’ch cynilion pensiwn os ydych yn darganfod bwlch. Os allwch ei fforddio, cysidrwch gynyddu eich cyfraniadau pensiwn rheolaidd, neu os ydych yn cael codiad cyflog neu fonws gallwch roi rhain hefyd

Ar gyfer arweiniad cyffredinol am ddim am bensiynau, olrhain potiau pensiwn coll a sut i roi hwb i’ch cynilion, gallwch siarad ag arbenigwr pensiynau HelpwrArian ar 0800 011 3797 neu ymweld â www.moneyhelper.org.uk.

– ENDS –

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau cysylltwch â:

Swyddfa Cyfryngau MaPS 020 8132 5284 / media@maps.org.uk

Grace Christie, Swyddog Cyfryngau: 020 8132 4069 / grace.christie@maps.org.uk

Nodiadau i olygwyr

1. https://www.abi.org.uk/news/news-articles/2020/05/19.4-billion-of-pension-pots-unclaimed-just-because-of-house-moves/

2. Yn seiliedig ar y nifer o chwiliadau Google am y termau ‘gwasanaeth olrhain pensiwn’, ‘gwasanaeth olrhain pensiwn DU’ ac ‘olrhain pensiwn’ am gyfartaledd misol dros gyfnod treigl o 12 mis, 2020-21.

Nid *Jason yw gwir enw y person, oherwydd polisi diogelwch cwsmeriaid MaPS.

Am Ddiwrnod Cenedlaethol Olrhain Pensiwn

Sefydlwyd Diwrnod Cenedlaethol Olrhain Pensiwn yn y DU gan Punter Southall Aspire gyda chefnogaeth Aegon, Legal & General, Standard Life a Scottish Widows. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.nationalpensiontracingday.co.uk.

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau fod pob person yn teimlo fwy mewn rheolaeth o’u cyllid drwy gydol eu bywyd: o arian poced i bensiynau. Pan mae hyn yn digwydd, mae cymunedau mwy iachus, busnesau mwy llewyrchus, mae’r economi yn cael budd ac unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn cyflawni arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy Helpwr Arian, a wnaeth yn ddiweddar ddod â’r hen wasanaethau canlynol ynghyd sef y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, y Gwasanaeth Cyngor Pensiynau a Pension Wise. 

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau fod yr holl DU yn deal fod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol â chysylltiadau dwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau sydd yn rhannu’r pwrpas o gyrraedd pum nod wedi eu gosod allan yn Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol.

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd felly fod pawb yn gallu defnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl deimlo fwy mewn rheolaeth o’u harian, wedi ei dargedu at y rhai mwyaf mewn angen gan gynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn sefydiad lled braich wedi ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu arian a phensiynau ar www.moneyhelper.org.uk / 0800 138 7777

Exit mobile version