Site icon The Money and Pensions Service

Hyd at 4 miliwn o rieni yn cadw’n dawel am faterion ariannol

•Nid oes bron i draean (31%) o rieni a gofalwyr yn siarad â’u plant yn agored am arian – yn colli cyfle i helpu gyda dealltwriaeth gynnar hanfodol plant am arian

•Mae rhieni sy’n hyderus iawn yn rheoli cyllid bob dydd ddwywaith yn fwy tebygol o siarad arian â phlant

• Yr Wythnos Siarad Arian hon, mae HelpwrArian yn lansio cam newydd o’r ‘Soffa i Ffitrwydd Ariannol’ i helpu rhieni i ddechrau sgyrsiau arian

Mae 4 miliwn o rieni1, 2 yn cadw’n dawel ar faterion ariannol gyda’u plant, yn ôl darn newydd o ymchwil gan HelpwrArian a ryddhawyd ar gyfer Wythnos Siarad Arian. Fe wnaeth yr arolwg a oedd yn cynnwys 3,000 o rieni ganfod fod llai na hanner (46%) yn siarad yn agored â’u plant am arian, gan olygu y gallai miliynau o blant fod yn colli allan ar gamau cynnar hanfodol i adeiladu perthynas dda â’u cyllid yn y dyfodol.

Mae’r ymchwil newydd yn nodi dechrau Wythnos Siarad Arian (8-12 Tachwedd) – ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol a gydlynir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), sy’n rhedeg HelpwrArian, i annog pawb i fod yn agored am eu harian a’u pensiynau. Dangoswyd bod siarad am gyllid yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol mwy gwybodus a llai peryglus, teimlo llai o straen neu bryder a mwy o reolaeth, cael perthnasoedd personol cryfach, a helpu eu plant i ffurfio arferion oes da gydag arian.

Mae’r ymchwil yn dangos, yn y pen draw, bod hyder y rhiant ei hun wrth reoli arian bob dydd yn allweddol iddynt fod yn agored ynghylch cyllid gyda’u plant. Mae rhieni sy’n hyderus iawn yn rheoli arian eu hunain ddwywaith yn fwy tebygol o gael sgyrsiau arian â’u plant na’r rhai nad ydyn nhw’n hyderus (58% o’i gymharu â 33%).

Mae’n ymddangos nad yw’r swm o arian sydd gan rieni yn penderfynu pa mor debygol ydyn nhw o fod yn agored ynghylch cyllid, gydag ystadegau’n aros yn debyg waeth beth yw incwm y cartref. 3

Bydd siarad yn agored am arian nid yn unig yn helpu plant i adeiladu arferion ariannol iach yn nes ymlaen mewn bywyd – gall hefyd helpu rhieni i wella eu lles ariannol eu hunain. Mae astudiaethau sy’n gwerthuso Siarad, Dysgu, Gwneud, rhaglen addysg ariannol ar gyfer rhieni a phlant, wedi dangos bod rhieni a gwblhaodd y gweithgaredd wedi’u hannog i gymryd camau i wella eu sefyllfa ariannol eu hunain. Gwelodd rhieni a oedd yn orddyledus – gan olygu eu bod yn cael trafferth cadw i fyny â thaliadau neu’n teimlo bod eu dyledion yn faich trwm cyn cymryd rhan yn y rhaglen – ostyngiad o 15% yn lefelau gorddyled wedi hynny, o gymharu â rhieni nad oeddent wedi cymryd y cwrs.

Eleni, mae HelpwrArian yn grymuso rhieni a gofalwyr i siarad arian â’u plant, yn ogystal â phartneriaid, teulu, ffrindiau ac eraill yn eu bywydau, trwy greu adran newydd o’i raglen ar-lein boblogaidd ‘Soffa i Ffitrwydd Ariannol’, gyda chamau syml i roi hwb i’r sgyrsiau hyn. Gallant hefyd achub ar y cyfle hwn i fagu eu hyder ariannol eu hunain, trwy ddefnyddio’r rhaglen gam wrth gam i weithio trwy ddod ar ben biliau, cyllidebu, cynilo a hyd yn oed gynllunio ar gyfer ymddeol.

Mae’r ymchwil, sy’n rhan o Arolwg Lles Ariannol blaenllaw’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, astudiaeth fawr o dros 10,000 o oedolion ledled y DU, hefyd yn datgelu bod rhieni yn Llundain a’r Gogledd Orllewin yn fwyaf tebygol o siarad â’u plant am arian – 59% a 54% yn y drefn honno. Mewn cyferbyniad, dim ond 35% o’r rheini yn Nwyrain Lloegr, a 34% yng Ngogledd Iwerddon sy’n siarad yn agored am faterion arian.

O’r rhieni hynny sy’n siarad â phlant am arian, maent yn fwy tebygol o wneud hynny gyda phlant hŷn. Mae dros hanner (54%) y rhieni sydd â phlentyn hynaf rhwng 11 a 17 oed yn siarad yn agored am arian gyda’u plant, o’i gymharu â dim ond pedwar o bob deg (40%) o rieni â phlant 3-10 oed. Fodd bynnag, mae ymchwil gan MaPS yn dangos bod arferion ac agweddau arian yn dechrau ffurfio cyn saith oed5, felly mae HelpwrArian yn galw ar rieni i ddechrau siarad â phlant am arian mor gynnar â phosibl.

Dywed Caroline Siarkiewicz, Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Rydym yn deall y gall siarad am arian weithiau deimlo fel tasg frawychus ymysg yr holl bethau eraill y mae’n rhaid iddynt feddwl amdanynt bob dydd. Efallai na fydd rhai yn gwybod sut i ddechrau sgwrs neu’n teimlo eu bod yn helpu eu plentyn trwy eu cysgodi weithiau rhag realiti anodd cyllid cartref. Ond gall cymryd peth amser nawr i siarad arian gyda phlant gael buddion sy’n para am oes. Er bod ein hymchwil yn dangos nad yw traean o rieni yn hyderus iawn yn rheoli arian eu hunain, y newyddion da yw, os byddwch chi’n dechrau siarad â’ch plant am arian, bydd eich lles ariannol eich hun yn elwa hefyd.

“Rydyn ni’n annog rhieni i ddefnyddio Wythnos Siarad Arian fel cyfle i ddechrau’r sgyrsiau hyn heddiw. Mae rhaglen HelpwrArian Soffa i Ffitrwydd Ariannol yn ffordd wych o gymryd y camau cyntaf i ddechrau siarad â’ch plant am arian, gyda gweithgareddau ac awgrymiadau syml i roi’r dechrau gorau iddynt wrth adeiladu eu hyder a’u gwybodaeth. Mae gan ein gwefan ehangach HelpwrArian lawer o adnoddau am siarad â phlant o wahanol oedrannau trwy ein rhaglen Siarad, Dysgu, Gwneud, yn ogystal â rhai ffyrdd hwyliog o’u cynnwys yn y pwnc. Mae yna hefyd gyfoeth o wybodaeth a chefnogaeth i rieni adeiladu eu lles ariannol eu hunain.”

Dywed Sarah Porretta, Arbenigwr Plant ac Arian yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Fel rhieni a gofalwyr, rydyn ni eisiau i’n plant fod yn barod am unrhyw beth pan maen nhw’n tyfu i fyny, ac mae meddu ar sgiliau a’r hyder i reoli eu harian yn rhan fawr o hynny. Ond ymhlith yr holl bethau eraill rydyn ni’n ceisio eu dysgu i’n plant,gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau sgwrs arian, yn enwedig os nad ydych yn teimlo’n arbennig o hyderus neu yn rheoli eich cyllid eich hun. Dyna le mae HelpwrArian a’n cynllun Soffa i Ffitrwydd Ariannol yn dod i mewn. Gallwn ddarparu llwyth o awgrymiadau a chynghorion gwych i chi ddechrau’r sgwrs. A gallwn eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth ar eich arian hefyd.

“O wneud penderfyniadau am siopa bwyd, i weithio allan pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gynilo ar gyfer tegan newydd, cit pêl-droed newydd neu ddiwrnod allan, mae cymaint o wahanol ffyrdd i ddechrau adeiladu arferion arian gwych yn gynnar. Wrth siarad o brofiad, gall fod yn her mewn cymdeithas gynyddol ddi-arian i wneud i arian ymddangos yn real. Yr hyn sy’n gweithio i mi a fy mhlant yw cael jar arian gartref fel y gallant ddal i gyfrif eu darnau arian a’u harian papur. Yna rydyn ni’n cadw nodyn o faint sydd yn y jar ac os ydyn nhw eisiau rhywbeth, byddaf yn talu gyda fy ffôn neu gerdyn pan fyddwn allan, ac maen nhw’n fy nhalu yn ôl o’r jar pan fyddwn adref eto. Rwyf wedi darganfod bod fy mhlant yn mwynhau dysgu am arian a gwneud penderfyniadau amdano, felly prin y mae’n waith tŷ ac nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau! Cyn i chi ei wybod, byddant yn defnyddio’r sgiliau hynny i weithio allan sut i wario eu cyflog cyntaf, gwneud penderfyniadau synhwyrol am gredyd, neu hyd yn oed gynilo ar gyfer car neu ar gyfer eu gwyliau cyntaf gyda ffrindiau.”

Awgrymiadau gorau HelpwrArian ar sut i siarad â phlant am arian:

Arwain trwy esiampl. Mae yna weithgareddau y gallwch chi eu gwneud pan fyddwch chi allan i helpu i hybu sgiliau arian eich plentyn. Er enghraifft, pan ydych chi’n siopa bwyd, ewch â’ch plant a gwnewch benderfyniadau sy’n gysylltiedig ag arian ar lafar fel pam y gwnaethoch chi ddewis grawnfwyd brand y siop dros y brand mwy adnabyddus. A chymharwch brisiau eitemau ar lafar neu gofynnwch iddyn nhw ddweud wrthych chi wahanol brisiau cynhyrchion.

Dangoswch y llun cyfan iddyn nhw. Os ydych chi’n talu gyda cherdyn, yn hytrach nag arian parod, peidiwch ag anghofio dangos i’ch plentyn bod hyn yn rhan o’ch rheolaeth arian hefyd. Dangoswch falans eich cyfrif cyfredol i’ch plentyn cyn ei ddefnyddio mewn siop. Yna mae HelpwrArian yn argymell eich bod yn dangos eich balans iddyn nhw wedyn er mwyn iddyn nhw allu ei weld ei fod yn llai nag o’r blaen. Gwnewch y gweithgaredd eto cyn ac ar ôl tynnu arian parod allan neu siopa ar-lein.

Anogwch nhw i gynilo. Mae’n dda i blant ddeall o oedran ifanc bod yn rhaid i chi arbed arian weithiau am bethau rydych chi eu heisiau. Gallech ddechrau trwy ofyn iddynt a oes rhywbeth yr hoffent gynilo ar ei gyfer. Helpwch nhw i ddelweddu hyn trwy dynnu llun ohono neu greu siart cynnydd a’u helpu i gynnig syniadau i arbed arian fel diffodd goleuadau neu brynu llai o bethau. Yna, gadewch iddyn nhw ofalu am y cynilion mewn cadw mi gei a phan fydd ganddyn nhw ddigon gallwch chi fwynhau’r wobr deuluol!

Defnyddiwch bŵer gêm. Mae llawer o gemau digidol yn seiliedig ar y chwaraewr yn casglu tocynnau sy’n caniatáu iddynt symud ymlaen trwy lefelau neu gael nodweddion ychwanegol. Trowch swyddi cartref yn gêm debyg, gan roi ‘tocynnau’ iddynt y gallant gyfnewid am wobrau, fel eu hoff ddanteith neu fyrbryd.

Chwiliwch am gyfleoedd i gael sgyrsiau arian. Os oes gennych blant hŷn, efallai eich bod wedi sefydlu cyfrifon cynilo ar eu cyfer o’r blaen, neu efallai bod ganddynt Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gyda’r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant cyntaf wedi cyrraedd aeddfedrwydd yn 2020, yn dibynnu ar eu hoedran, efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at eu cyfrif a gwneud penderfyniadau am eu cronfa. Dyma gyfle da i agor sgwrs am arian.

Sicrhewch help am bryderon ariannol. Os oes gennych bryderon ariannol neu os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau pan ddaw at eich cyllid eich hun neu’n poeni am gadw ar ben biliau a thaliadau, mae gan HelpwrArian lu o offer, cyfrifianellau a chanllawiau i helpu. Os yw Coronafeirws wedi effeithio ar eich cyllid, gall y Teclyn Llywio Ariannol eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen, neu os ydych chi’n poeni am ddyled gall yr Teclyn Rheoli Cyngor ar ddyledion eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd am ddim yn agos atoch chi.

Mae HelpwrArian a gefnogir gan y Llywodraeth yn gyrchfan sengl sy’n darparu arweiniad am ddim ar arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn cyfeirio pobl at gyngor dyled arbenigol am ddim, os oes ei angen arnynt. Mae’n dwyn ynghyd y gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cyngor Arian, y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau a Pension Wise.

Am ragor o wybodaeth, ac i roi cynnig ar garreg filltir ‘Soffa i Ffitrwydd Ariannol’ ar siarad am arian gyda phlant, ewch i http://www.helpwrarian.org.uk

-ENDS-

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â:

Swyddfa Cyfryngau MaPS 0208 132 5284 / media@maps.org.uk

Mia Cochrane, uwch swyddog y wasg 020 8132 4937 / mia.cochrane@maps.org.uk

Asiantaeth Kindred 020 7010 0888 / moneyandpensions@kindredagency.com

Nodiadau i olygyddion

1. Diffiniad o riant yng nghyd-destun yr arolwg: unrhyw un sydd â phlant sy’n ddibynnol yn ariannol sy’n 17 oed neu’n iau yn y cartref, gallai hyn gynnwys gofalwyr / rhieni maeth ayyb.

2. Mae’r Arolwg Lles Ariannol yn arolwg cynrychioliadol cenedlaethol o 10,306 o oedolion sy’n byw yn y DU. Mae’n cynnwys cyfweliadau ar-lein a phost rhwng Gorffennaf a Medi 2021. Cynhaliwyd yr ymchwil ar gyfer y Gwasanaeth Arian a Phensiynau gan Critical Research. Ar gyfer Wythnos Siarad Arian mae MaPS yn rhannu mewnwelediadau cynnar o’r Arolwg a ddaeth i ben yn ddiweddar.

Mae data’n cael eu pwysoli i gynrychioli poblogaeth 18+ y DU yn ôl rhanbarth / cenedl ddatganoledig, oedran, rhyw, Mynegeion Amddifadedd Lluosog, deiliadaeth tai, trefoldeb, ethnigrwydd, statws gweithio a defnydd rhyngrwyd.

Mae’r datganiad hwn yn seiliedig ar ddata cynnar gan 3,251 o oedolion â phlant o dan 17 oed sy’n ddibynnol yn ariannol arnynt yn eu cartref

Mae ffigurau poblogaeth yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio poblogaeth oedolion y DU o oddeutu 53 miliwn, yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn SYG

3. Canran y rhieni sy’n siarad yn agored â phlant am arian yn ôl incwm cartref:

Fyny at £13,499 £13,500 i £34,999 £35,000 neu fwy
49% 44% 50%

4. Gwerthuso Siarad, Dysgu, Gwneud: ymyrraeth gallu ariannol i rieni, Gwasanaeth Arian a Phensiynau, 2018

5. Ffurfio Arferion a Dysgu mewn Plant Ifanc, Gwasanaeth Arian a Phensiynau (a gyhoeddwyd yn wreiddiol o dan y brand blaenorol Gwasanaeth Cynghori Arian), 2013

Am Wythnos Siarad Arian

Mae Wythnos Siarad Arian yn ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus flynyddol, sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, i gael y genedl i gael sgyrsiau am arian. Dangoswyd bod siarad am gyllid yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol mwy gwybodus a llai peryglus, teimlo llai o straen neu bryder a mwy o reolaeth, cael perthnasoedd personol cryfach, a helpu eu plant i ffurfio arferion oes ariannol da. Bydd Wythnos Siarad Arian yn cael ei chynnal rhwng 8-12 Tachwedd 2021.

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid trwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae’r economi’n cael budd ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy HelpwrArian, a ddaeth â hen wasanaethau ynghyd yn ddiweddar sef y Gwasanaeth Cyngor Arian, y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau a Pension Wise.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd ariannol, corfforol a meddyliol. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth Llesiant Ariannol y DU.

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth ar eu harian, wedi’i dargedu at y rhai mwyaf anghenus ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am wybodaeth bellach ewch i www.maps.org.uk. Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy: www.helpwrarian.org.uk / 0800 138 0555

Exit mobile version