Site icon The Money and Pensions Service

Nid yw 24 miliwyn o oedolion yn y DU yn teimlo’n hyderus wrth reoli eu harian. Mae Wythnos Arian Siarad yma i helpu.

Nid yw un o bob dau oedolyn (45%) yn y DU yn teimlo’n hyderus wrth reoli eu harian o ddydd i ddydd, yn ôl ymchwil newydd yn Arolwg Lles Ariannol 2021 y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).1

Gwnaeth yr ymchwil blaenllaw ar fwy na 10,000 o oedolion yn y DU ganfod fod 19 miliwn2 o bobl (36%) yn teimlo’n bryderus wrth feddwl am eu sefyllfa ariannol. Y rhai sy’n fwyaf tebygol o deimlo’n bryderus wrth feddwl am arian yw pobl ifanc rhwng 18 a 34 oed (50%), rhieni (48%) a rhentwyr preifat (51%).

Wrth i hanner y bobl yn y DU fod yn brin o hyder i reoli eu cyllid ar hyn o bryd a llawer yn debygol o osgoi meddwl am arian oherwydd pryderon cysylltiedig, nid oes ryfedd nad yw nifer mor fawr o bobl yn teimlo eu bod yn barod i fynd i’r afael â’u pryderon ariannol yn uniongyrchol.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn ar gyfer Wythnos Siarad Arian, ymgyrch flynyddol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau sy’n annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid a’i nod o dorri tabŵ siarad am bryderon ariannol, er mwyn cynyddu hyder a lles ariannol ledled y wlad.

Dangoswyd bod siarad am gyllid yn helpu pobl i wneud dewisiadau mwy gwybodus, teimlo llai o straen neu bryder a bod ganddynt mwy o reolaeth, cael perthnasoedd personol cryfach, a helpu eu plant i ffurfio arferion ariannol da am oes.

Mae ymchwil ddiweddaraf MaPS hefyd yn taflu goleuni ar yr effaith y mae’r pandemig wedi’i gael ar hyder pobl o oedran gweithio o ran gwneud dewisiadau arian cywir. Yn 2018, canfu Arolwg Lles Ariannol MaPS fod 57% o’r rheini o oedran gweithio3 yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ wrth reoli eu cyllid personol, o’i gymharu â dim ond 48% yn 2021, gan ddangos cwymp sylweddol mewn hyder ariannol yn dilyn y pandemig.

Mae’r ymchwil yn dangos yn glir bod y rhai y mae incwm eu cartref wedi gostwng, ac sy’n dal i ennill llai nag yr oeddent cyn y pandemig, yn llai tebygol o deimlo’n ‘hyderus iawn’ ynglŷn â rheoli eu harian (38%) o gymharu â’r rhai nad ydynt wedi profi fawr ddim newid yn eu incwm (54%) neu gynnydd mewn incwm (57%) ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd Sarah Porretta, Cyfarwyddwr Cynigion, Mewnwelediadau ac Ymgysylltu Allanol yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“O ystyried bod y pandemig wedi arwain llawer o bobl i boeni am ddiogelwch swyddi neu’r hyn sy’n digwydd ar ôl ffyrlo, nid yw’n syndod bod llawer wedi colli hyder yn eu gallu eu hunain i reoli arian, yn enwedig y rhai sy’n dod i mewn i’r farchnad swyddi am y tro cyntaf.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i gynifer ac mae’r sgil-effeithiau yn eang, ond os  dyma’ch sefyllfa chi, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Rydym yn cydnabod y gallai fod angen rhywfaint o help ychwanegol ar bobl i gael yn ôl ar eu traed, a dyna le gall teclynnau ac arweiniad ar-lein rhad ac am ddim gan HelpwrArian i ystyriaethau arian bob dydd, megis cyllidebu, talu biliau, neu ddod o hyd i gredyd fforddiadwy fod o gymorth mawr.

“I’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol, gall pryderon ariannol fod yn arbennig o heriol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth nesáu at adeg y Nadolig pan fydd llawer ohonom yn gobeithio cymdeithasu’n amlach neu deimlo dan bwysau i wario mwy ar roddion, a phan gall costau cynhesu’ch cartref godi.

“Mae ein hymchwil yn dangos mai un o’r ffyrdd cyflymaf a hawsaf i deimlo’n well am arian, a hybu eich hyder, yw siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt. P’un a ydych yn estyn allan at aelod o’r teulu, ffrind, neu weithiwr proffesiynol arweiniad arian, mae siarad am arian yn ffordd gadarnhaol o leddfu’r baich. “

O’r rhai sy’n derbyn cyngor ar ddyledion am ddim, mae tri chwarter yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar ôl cael cymorth a bydd 63% yn lleihau neu’n clirio eu dyledion o fewn 3-6 mis ar ôl derbyn cyngor4.

Dywedodd y Gweinidog Pensiynau a Chynhwysiant Ariannol, Guy Opperman:

“Wrth i ni adeiladu’n ôl yn well ac yn decach o’r pandemig, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i aros mewn rheolaeth o’u cyllid a theimlo’n hyderus gydag arian.

“Y cam cyntaf tuag at lles ariannol gwell yw siarad am arian a byddwn yn annog unrhyw un sy’n poeni am eu cyllid i fanteisio ar wasanaethau rhad ac am ddim a diduedd y llywodraeth a gynigir gan HelpwrArian a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau.”

Gweithiodd Bron Davies, rheolwr prosiect 25 oed o Gaerdydd, fel cynhyrchydd theatr ond cafodd ei ddiswyddo oherwydd y pandemig. Daeth o hyd i swydd newydd, ond mae honno’n talu £5,000 yn llai y flwyddyn.

“Fe wnes i barhau i wario fel roeddwn i dal ar yr un faint. Tarodd Covid, digwyddodd y cyfnod clo, a daliais i feddwl i mi fy hun ‘Gallaf brynu hwn, gallaf drin fy hun i hynny’ ac yna cefais fy hun mewn sefyllfa lle nad oeddwn yn cynilo. Fy holl nodau yn y dyfodol o fod yn berchen ar dŷ un diwrnod efallai, mynd ar wyliau mawr, roedd y math yna o bethau yn sydyn yn mynd ymhellach ac ymhellach i ffwrdd. Cefais fy hun mewn sefyllfa a oedd yn teimlo’n eithaf anobeithiol, a chefais fy siomi ynof fy hun.

“Fe wnes i ddefnyddio teclyn Soffa i Ffitrwydd Ariannol HelpwrArian i fynd yn ôl ar y trywydd iawn, a nawr rydw i’n teimlo fel y person roeddwn i’n meddwl fy mod i gydag arian – rhywun sydd ‘ar ben bob dim’, yn eithaf synhwyrol ac yn gwybod ffyrdd o gynilo – felly nawr rydw i’n teimlo’n llawer gwell.

Er mwyn rhoi offer i fwy o bobl sydd eu hangen arnynt i adfer yn ariannol o’r pandemig, meithrin arferion cynilo cryfach, a gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau, mae HelpwrArian, gwasanaeth a ddarperir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, wedi lansio modiwl newydd fel rhan o’u rhaglen ar-lein Soffa i Ffitrwydd Ariannol.

Mae’r modiwl mwyaf newydd yn tywys pobl trwy weithgareddau ar-lein syml i’w helpu i fod yn agored am eu cyllid a chael sgyrsiau arian cadarnhaol gyda phlant. Gall defnyddwyr hefyd achub y cyfle hwn i fagu eu hyder ariannol eu hunain, trwy ddefnyddio’r rhaglen gam wrth gam i weithio trwy ddod ar ben biliau, cyllidebu, cynilo a hyd yn oed gynllunio ar gyfer ymddeol.

Mae gwefan HelpwrArian hefyd yn cynnig nifer o ganllawiau ac offer hawdd eu defnyddio fel Llywiwr Arian i helpu pobl i ddelio ag effaith ariannol y pandemig ac osgoi materion ariannol rhag gwaethygu yn y dyfodol.

I’r rhai sy’n cael trafferth gyda dyled, mae arbenigwyr arian MoneyHelper yn cynnig cyngor dyled diduedd a chyfrinachol am ddim dros y ffôn, ar-lein, a thrwy WhatsApp, ac yn annog pobl i gysylltu ar unwaith i gael cefnogaeth ac arweiniad trwy ffonio 0800 138 0555.

Mae HelpwrArian a gefnogir gan y Llywodraeth yn gyrchfan sengl sy’n darparu arweiniad am ddim ar arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn cyfeirio pobl at gyngor dyled arbenigol a rhad ac am ddim, os oes ei angen arnynt. Mae’n dwyn ynghyd yr hen wasanaethau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Cyngor Arian, y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau a Pension Wise.

I gael mwy o wybodaeth, ac i roi cynnig ar ganllawiau ac offer ar-lein Couch to Financial Fitness a MoneyHelper ewch i www.moneyhelper.org.uk/cy neu i gael arweiniad wedi’i bersonoli am eich arian a’ch pensiynau, ffoniwch 0800 138 0555.

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â:

Swyddfa Cyfryngau MaPS 020 8132 5284 / media@maps.org.uk

Grace Christie, Swyddog y Wasg: 020 8132 4937 / grace.christie@maps.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae’r Arolwg Lles Ariannol yn arolwg cynrychioliadol cenedlaethol o 10,306 o oedolion sy’n byw yn y DU. Mae’n cynnwys cyfweliadau ar-lein a phost rhwng Gorffennaf a Medi 2021. Cynhaliwyd yr ymchwil ar gyfer y Gwasanaeth Arian a Phensiynau gan ‘Critical Research’. Ar gyfer Wythnos Siarad Arian mae MaPS yn rhannu mewnwelediadau cynnar o’r Arolwg, a ddaeth i ben yn ddiweddar.
    Pwysolir y data i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth 18+ y DU yn ôl rhanbarth/cenedl ddatganoledig, oedran, rhyw, Mynegeion Amddifadedd Lluosog, deiliadaeth tai, trefoldeb, ethnigrwydd, statws gweithio a defnydd o’r rhyngrwyd.
  2. Mae ffigyrau poblogaeth yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio poblogaeth oedolion y DU o oddeutu 53 miliwn, yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn SYG.
  3. Diffinnir oedran gweithio yn 2018 fel 18-64, yn 2021 diffinnir oedran gweithio fel 18-65. Diffiniadau gwahanol oherwydd newid yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (SPA).
  4. Gwerthusiad canlyniad 2018-19 o gyngor ar ddyledion a ariannwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (2019).

Am Wythnos Siarad Arian

Mae Wythnos Siarad Arian yn ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus flynyddol, sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, i gael y genedl i gael sgyrsiau am arian.

Dangoswyd bod siarad am gyllid yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol mwy gwybodus a llai peryglus, teimlo llai o straen neu bryder a mwy o reolaeth, cael perthnasoedd personol cryfach, a helpu eu plant i ffurfio arferion ariannol da am oes. Bydd Wythnos Siarad Arian yn 2021 yn cael ei chynnal rhwng 8-12 Tachwedd.

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu cyllid trwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae’r economi’n cael budd ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau rhad ac am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy HelpwrArian, a ddaeth â hen wasanaethau ynghyd yn ddiweddar sef y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd ariannol, corfforol a meddyliol. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau gyda phwrpas cyffredin cyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol.

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth ar eu harian, wedi’i dargedu at y rhai mwyaf anghenus ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am wybodaeth bellach ewch i maps.org.uk/cy/home-2/. Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau trwy: www.moneyhelper.org.uk/cy  / 0800 138 7777.

Exit mobile version