- Mae ymchwil newydd yn datgelu bod y rhai sydd â lles ariannol uwch yn llawer mwy tebygol o fod yn fodlon â’u bywydau na’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf
- Mae lles ariannol yn golygu teimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth, gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd a delio â’r annisgwyl
- Mae gan 16 miliwn o oedolion yn y DU1 les ariannol is, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn llai bodlon â bywyd
- Trechwch y felan mis Ionawr i wella lles ariannol gyda rhaglen HelpwrArian ‘O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol’
Ar Ddydd Llun y Felan – diwrnod mwyaf diflas y flwyddyn – mae ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn datgelu nad yr hyn y mae pobl yn ei ennill, ond eu perthynas ag arian sy’n fwy tebygol o’u helpu i ddod o hyd i hapusrwydd.
Yn ôl Arolwg Llesiant Ariannol diweddaraf MaPS 1 o fwy na 10,000 o oedolion yn y DU, mae pobl sydd â ‘lles ariannol uchel’ (teimlo’n ddiogel a bod ganddynt reolaeth dros eu harian)2 ymhlith y mwyaf bodlon mewn cymdeithas. Mewn gwirionedd, roedd pobl sydd â lles ariannol uchel yn fwy bodlon â bywyd na’r rhai mewn cartrefi ag incwm o fwy na £50,000 y flwyddyn (61% yn erbyn 48%); prawf nad yw arian yn unig o reidrwydd yn prynu hapusrwydd i chi.3
Canfu’r arolwg fod gan 16 miliwn o oedolion (31%) ledled y DU les ariannol isel, a bod mwy na thraean (36%) yn cyfaddef eu bod yn poeni wrth feddwl am faterion ariannol.1 I helpu pobl i gael 2022 hapusach, mae MaPS yn annog pobl i ddechrau’r flwyddyn newydd gyda hwb iechyd ariannol a rhoi cynnig i try ‘O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol’ – rhaglen ar-lein am ddim a hyblyg i wella lles ariannol o wythnos i wythnos – ar ei HelpwrArian website.
Dywed Sarah Porretta, Arbenigwr Lles Ariannol yn y Gwasanaeth and Pensions Arian a Phensiynau, sy’n darparu’r gwasanaeth HelpwrArian:
“Nid yw lles ariannol yn ymwneud â faint o arian sydd gennym yn unig; mae’n ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth; gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd; gallu delio â’r annisgwyl a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach.
“Rydym eisiau grymuso pobl i gymryd rheolaeth o’u harian a chychwyn ar eu taith i ffitrwydd ariannol, iechyd a hapusrwydd. Mae ‘O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol’, sydd ar gael ar wefan HelpwrArian, yn lle gwych i gychwyn y daith hon. Mae’n hyfforddi pobl i wella eu lles ariannol o un wythnos i’r llall, p’un a ydynt yn ddechreuwyr llwyr neu’n dychwelyd ar y trywydd iawn, yn yr un ffordd ag y byddent yn eu hiechyd corfforol neu feddyliol.
“ Mae ‘O’r Soffa I Ffitrwydd Ariannol’ yn arwain pobl trwy dri gweithgaredd syml yr wythnos dros bedair wythnos, i’w helpu i feistroli’r hanfodion ariannol, ac yna estyniad pum wythnos i gryfhau arferion ariannol. I gael gwybod mwy ewch i https://couchtofinancialfitness.moneyhelper.org.uk/cy/or-soffa-i-ffitrwydd-ariannol-gan-helpwrarian/.”
Ychwanegodd Nancy Hey, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Llesiant What Works, adds:
“Rydym yn gwybod bod teimlo’n ddiogel a bod gennych reolaeth dros eich arian, gallu talu’r biliau a delio â’r annisgwyl yn a allweddol am les yn y gweithle . Gall gweithwyr Iach a hapus helpu sefydliadau i berfformio’n well, bod yn fwy creadigol, a chael llai o drosiant, salwch ac absenoldebau.
“Mae’n wych gweld O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol fel un o ystod o raglenni sydd bellach yn cael eu cynnig i gefnogi lles ariannol. Mae’n wirioneddol bwysig bod y rhain yn cael eu gwerthuso’n dda, er mwyn eu helpu i wella’n barhaus, a hefyd llenwi y bylchau yn ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio ac yn cyfrannu at ddysgu ehangach am effaith y rhaglenni hyn.”
Meddai’r Athro Sharon Collard, cadeirydd cyllid personol ym Mhrifysgol Bryste:
“Gall mis Ionawr fod yn gyfnod anodd o’r flwyddyn os ydych yn poeni am filiau’n pentyrru ar ôl y Nadolig. Eleni mae llawer o bobl yn wynebu pwysau ariannol ychwanegol wrth iddynt fynd i’r afael ag effaith ariannol barhaus y pandemig a chostau byw cynyddol.
“Mae materion ariannol weithiau’n gallu teimlo’n llethol, ond mae ymchwil yn dangos os ydym yn gallu meithrin ymddygiad ac arferion cadarnhaol – fel cynilo’n rheolaidd (hyd yn oed symiau bach), aros ar ben credyd, a chymryd camau i gynllunio ar gyfer ymddeoliad – gall hyn helpu. Rydym yn teimlo bod gennym fwy o reolaeth ac mae gennym fwy o foddhad bywyd o ganlyniad.”
Mae gwefan HelpwrArian hefyd yn cynnig a nifer o ganllawiau a theclynnau hawdd eu defnyddio fel such as Teclyn Llywio Ariannol i helpu pobl i ddelio ag effaith ariannol y pandemig ac i osgoi gwaethygu materion ariannol yn y dyfodol.
I’r rhai sy’n cael trafferth gyda dyled, mae arbenigwyr arian HelpwrArian yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol am ddim ar ddyledion dros y ffôn, ar-lein a thrwy WhatsApp, ac yn annog pobl i gysylltu ar unwaith i gael cymorth ac arweiniad drwy ffonio 0800 138 0555.
-ENDS-
Am ymholiadau gan y cyfryngau cysylltwch:
Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 / media@maps.org.uk
Kindred Agency 020 7010 0888 / moneyandpensions@kindredagency.com
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Arolwg Lles Ariannol yn arolwg cynrychiadol cenedlaethol o 10,306 o oedolion sy’n byw yn y DU. Mae’n cynnwys cyfweliadau ar-lein a thrwy’r post rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021. Cynhaliwyd yr ymchwil ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan Critical Research.
Pwysolir data i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth 18+ y DU yn ôl rhanbarth/cenedl ddatganoledig, oedran, rhyw, Mynegeion Amddifadedd Lluosog, deiliadaeth tai, ardal byw, ethnigrwydd, statws gwaith a defnydd o’r rhyngrwyd. - Mae MaPS wedi datblygu set o naw cwestiwn amlddewis i ganfod lles ariannol person. Mae’r rhain wedi’u hadeiladu ar sail y pum nod cenedlaethol yn Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol . Rhannodd MaPS boblogaeth y DU yn fras yn dri grŵp cyfartal o les ariannol: isel (31%), canolig (35%) ac uchel (34%). Cyfrifwyd y rhaniadau hyn trwy raddio holl ymatebwyr ein harolwg llesiant ariannol allan o 100, yn seiliedig ar feini prawf yn yr arolwg.
- Boddhad bywyd – yn Arolwg Lles Ariannol 2021 fe wnaethom ofyn: “Ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi gyda’ch bywyd heddiw? Atebwch ar raddfa o 0 i 10, lle mae 0 ‘ddim yn fodlon o gwbl’ a 10 yn ‘hollol fodlon’”
Ynglŷn â HelpwrArian
Mae HelpwrArian yn gyrchfan sengl i wneud dewisiadau arian a phensiynau pobl yn gliriach a’u rhoi nhw mewn rheolaeth. Gyda chefnogaeth y llywodraeth, mae’n darparu arweiniad am ddim ar arian a phensiynau dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Fe’i lansiwyd yr haf hwn gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bydd HelpwrArian yn grymuso pobl ledled y DU i reoli eu lles ariannol gyda mwy o hyder ac eglurder drwy gydol eu hoes drwy ddod â’r gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise ynghyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.moneyhelper.org.uk/cy
Ynglŷn â O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol
Lansiwyd yn Haf 2021, mae O’r Soffa i Ffitrwydd Ariannol yn arf ar-lein newydd a gyflwynwyd i ddefnyddwyr gan HelpwrArian. Mae’r rhaglen ar-lein yn cynnig cynllun deg wythnos hyblyg am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu harian yn well, fel y gallant ddod i ffwrdd gan deimlo’n fwy gwydn, hyderus, ac wedi’u grymuso i reoli eu harian.
Ymhlith y pynciau y bydd defnyddwyr yn ymdrin â nhw fel hanfodion arian mae torri costau, aros ar ben biliau a chryfhau arbedion, ac yna pum wythnos ychwanegol o weithgareddau i baratoi ar gyfer cerrig milltir arian bywyd gan gynnwys dechrau teulu, prynu cartref neu gynilo ar gyfer ymddeoliad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://couchtofinancialfitness.moneyhelper.org.uk
Ynglŷn â‘r Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae’r economi’n elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i’r cyhoedd drwy HelpwrArian, a ddaeth â gwasanaethau etifeddiaeth y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise ynghyd yn ddiweddar.
Mae MaPS MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd yn gysylltiedig iawn. Rôl’ MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben cyffredin o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth Llesiant Ariannol y DU.
Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk/cy/home-2/. Gall aelodau’r cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: www.moneyhelper.org.uk/cy / 0800 138 0555.