Site icon The Money and Pensions Service

Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol

Yn dilyn digwyddiadau gwrando yng Nghymru a ledled y DU, lansiodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol ar ddechrau 2020. Cynlluniwyd y Strategaeth i ddod â phartneriaid ynghyd i drawsnewid lles ariannol y wlad mewn degawd. 

Ers hynny, mae MaPS wedi bod yn cydlynu cynigion ar gyfer Cynllun Cyflawni i Gymru, gyda chyfraniad gan dros 90 o randdeiliaid.

Y canlyniad yw cynllun a gyd-gynhyrchwyd gyda Llywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â mentrau ymarferol a chyflawnadwy a all wneud gwahaniaeth i bobl sy’n gwneud y gorau o’u harian nawr ac yn y dyfodol. Mae Cynllun Cyflawni Cymru yn ystyried effaith pandemig Covid-19 a sut y gallwn gydweithio i sicrhau newid hirdymor a pharhaol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r economi yng Nghymru.  

Mae’r Adroddiad Cynnydd sy’n cyd-fynd yn rhoi rhagor o fanylion am flaenoriaethau penodol yng Nghymru ar gyfer y 24-36 mis nesaf. Mae’n rhestru’r ymrwymiadau allweddol a’r blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol a nodwyd yng Nghynllun Cyflawni Cymru gyda gweithgareddau sydd wedi’u cwblhau hyd yma, hyd at fis Hydref 2021. 

 

Bydd yr adroddiad cynnydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob chwe mis a bydd yn gweithio i gofnodi’r gweithgaredd y mae rhanddeiliaid yn ei gyflawni i gyfrannu at y gweithgareddau sy’n cael eu blaenoriaethu yng Nghymru a’r DU. 

 Mae’r cynlluniau ar eich cyfer chi os oes gennych ddiddordeb mewn ysgogi newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl, darparu rhaglenni, gwasanaethau neu gefnogi cwsmeriaid gyda’u harian, ac os ydych am ddysgu mwy am sut y gall eich sefydliad chwarae ei ran i sicrhau canlyniadau llesiant ariannol cryfach ar gyfer bobl ledled Cymru.

Lawrlwythwch eich copi

Exit mobile version