Site icon The Money and Pensions Service

Sylw i’r wasg: Datganiad y Gwanwyn 2022

Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Efallai y bydd llawer o bobl sy’n gwylio Datganiad y Gwanwyn heddiw yn poeni am reoli eu harian yn y cyfnod ansicr hwn. Mae ein hymchwil yn dangos bod mwy nag un o bob tri yn cyfaddef eu bod yn poeni wrth feddwl am faterion ariannol, ac mae bron i hanner yn cyfaddef nad ydynt yn teimlo’n hyderus gyda reoli eu harian o ddydd i ddydd.

“Os yw’r pryderon hyn gennych, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae cymorth am ddim ar gael – a gall cymryd camau bach nawr wneud gwahaniaeth. Mae HelpwrArian wedi lansio canllaw newydd Byw ar incwm gwasgedig, a all helpu pobl i wneud y gorau o’r incwm sydd ar gael iddynt – o gyllidebu a ffyrdd o arbed ar filiau’r cartref, drwodd i gymorth ychwanegol i’r rhai sy’n gweithio, neu ddelio ag arian ac iechyd meddwl os yw pethau’n mynd yn ormod.

“Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw golwg ar y gwahanol daliadausydd gennych bob mis ac yn poeni efallai y byddwch yn disgyn ar ei hôl hi, gall teclyn Blaenoriaethwr Biliau newydd HelpwrArian helpu. Mae’n didoli eich biliau i daliadau â blaenoriaeth a thaliadau nad ydynt yn flaenoriaeth fel eich bod yn gwybod pa filiau i’w talu gyntaf, a pha gymorth ychwanegol a allai fod ar gael.

“Gallai hyn gynnwys cymorth penodol gan gredydwyr fel cynlluniau talu fforddiadwy neu wyliau talu, tariffau cost is, budd-daliadau a allai fod ar gael, cynlluniau sy’n cefnogi pobl ag anghenion penodol oherwydd salwch neu anabledd, a ble i chwilio am grantiau neu gymorth elusennol.

“P’un a ydych angen help i reoli biliau, gwneud y gorau o’r arian sydd gennych neu y gallech fod â hawl iddo, neu drefnu’ch pensiwn, gallwch ddarganfod sut i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen ar wefan HelpwrArian .”

-GORFFEN-   

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau   

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus, mae’r economi yn elwa, ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu canllawiau arian a phensiynau am ddim a diduedd i’r cyhoedd trwy HelpwrArian, a ddaeth â gwasanaethau blaenorol ynghyd yn ddiweddar, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.   

Mae MaPS yn gweithio i wneud yn siŵr bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol oll â chysylltiadau dwfn a’u gilydd. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau sydd â’r diben cyffredin o gyflawni’r pum nod a nodir yn y Strategaeth Llesiant Ariannol y DU .

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau: www.maps.org.uk Gall y cyhoedd gael arweiniad am ddim am eu harian a’u pensiynau: www.moneyhelper.org.uk / 0800 138 0555.

Exit mobile version