Deall sut i ymgorffori a graddio dysgu proffesiynol addysg ariannol effeithiol
Mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu a phrofiadau mewn plentyndod yn dylanwadau pwysig ar allu i reoli a gwneud y mwyaf o arian mewn bywyd. Felly, mae athrawon (yn ogystal â rhieni) yn chwarae rôl allweddol mewn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a dysgu am arian, gan siapio’u lles ariannol wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion.
Mae tystiolaeth i ddangos bod dulliau hyfforddi’r hyfforddwr, gan gynnwys darparu dysgu proffesiynol i athrawon i’w helpu darparu addysg ariannol, gyda’r potensial i wella sgiliau arian, gwybodaeth ac ymddygiad plant a phobl ifanc. Ond, ar draws y DU, mae athrawon yn nodi bod mynediad cyfyngedig i hyfforddiant addysg gyllidol neu ddysgu proffesiynol ac mae nifer yn nodi eu bod ganddynt ddiffyg gwybodaeth a hyder yn y maes hwn.
Ariannodd cynllun braenaru plant a phobl ifanc y Gwasanaeth Arian a Phensiynau bum prosiect braenaru rhwng 2019 a 2021, i brofi dulliau i ddarparu addysg ariannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Bwriad y braenaru oedd deall sut i sefydlu model cynaliadwy a all dyfu i ddarparu addysg ariannol yng Nghymru, gan ddarparu dysgu ar gyfer darpariaeth ehangach ledled Cymru a gweddill y DU. Profodd ddau ddull:
- Dull dysgu proffesiynol sydd wedi’i raeadru a arweinir gan hyfforddwyr, lle cymerodd athrawon a staff o ddau Gonsortia Addysg Ranbarthol ran mewn hyfforddiant addysg ariannol i ddod yn hyfforddwyr gwirfoddol ac yna rhaeadru dysgu proffesiynol addysg ariannol i athrawon eraill.
- Dull e-ddysgu gall athrawon gwblhau yn annibynnol ar gyflymder eu hun.
Cafodd y prosiect ei ddarparu gan Young Money (ar ran Young Enterprise) a ddau Consortia Addysg Ranbarthol yng Nghymru (GwE ac ERW). Cafodd y gwerthusiad ei gynnal gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caeredin.
Sut i ddefnyddio’r gwerthusiad hwn
Rydym yn gobeithio bydd y darganfyddiadau yn ddefnyddiol i lunwyr polisi, cyllidwyr, ysgolion, neu sefydliadau darparu sydd eisiau darparu neu raddio dysgu proffesiynol addysg ariannol i weithwyr addysg broffesiynol.
Prif ddarganfyddiadau
- Yn gyffredinol, darganfyddodd y gwerthusiad bod newidiadau positif i wybodaeth, sgiliau a hyder hyfforddwyr gwirfoddol i raeadru dysgu proffesiynol i’w cyfoedion. Yn benodol, gwnaeth pobl nad oedd yn teimlo bod ganddynt y wybodaeth, sgiliau, na’r hyder cyn hyfforddi elwa.
- Gwnaeth yr athrawon a wnaeth derbyn un ai’r hyfforddiant rhaeadru neu’r opsiwn e-ddysgu hefyd brofi cynnydd positif sylweddol yn eu gwybodaeth, sgiliau, a hyder i ddarparu addysg ariannol i’w disgyblion.
- Tra bod y canlyniadau yn debyg rhwng yr e-ddysgu a’r hyfforddiant rhaeadru, roedd y hyfforddiant rhaeadru wedi darparu fanteision ychwanegol o ran cyfathrebu ac esbonio’r deunydd a defnyddio’r adnoddau effeithiol a oedd yn fwy addas i’r ffordd mae athrawon yn hoff o ddysgu.
- Roedd lefelau cyfranogiad ymysg athrawon yn uwch lle’r roedd cefnogaeth ac anogaeth gan y Consortia Addysg Ranbarthol (RECs) yn gryfach.
- Roedd cydnabyddiaeth o’r rhanddeiliaid bod dysgu proffesiynol ac adnoddau yn llenwi bwlch mewn dysgu proffesiynol athrawon yng Nghymru, ac mae awydd i’r adnoddau digidol fod ar gael a’u cynnal yn dilyn y prosiect.
Goblygiadau
- Mae gan y dull e-ddysgu a’r dull rhaeadru a arweinir gan hyfforddwyr y potensial i gefnogi graddio dysgu proffesiynol addysg ariannol, ond gyda chost a chyrhaeddiad gwahanol.
- Gall hyfforddi athrawon i raeadru dysgu proffesiynol mewn addysg ariannol i’w cyfoedion fod yn effeithiol pan gaiff ei gefnogi. Mae angen ymchwiliad pellach i ddeall sut y gall yr ymagwedd hon tuag at ddysgu proffesiynol gael ei ymgorffori i mewn i strwythurau eraill sy’n bodoli eisoes yn y DU.
- Rhaid annog pobl i gymryd ran mewn dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau y gellir elwa ar y manteision. Efallai hefyd y byddai’n werth targedu athrawon ar ddechrau eu gyrfaoedd yn ogystal ag athrawon sydd â, neu sydd ar fin dechrau, rôl arweiniol sy’n cynnwys addysg ariannol.
- Mae’n rhaid bod yr adnoddau dysgu proffesiynol ar gael i athrawon mewn lle y byddant yn ei disgwyl darganfod gwybodaeth ar ddysgu proffesiynol ac adnoddau dysgu (e.e. Hwb yng Nghymru), rhaid eu bod yn cael eu hyrwyddo a’u cadw yn gymwys yn Gymraeg a Saesneg.
- Mae cynaliadwyedd a raddadwyedd y dysgu proffesiynol yn dibynnu ar ymagwedd gyfannol a chydgysylltiedig tuag at ddysgu proffesiynol addysg ariannol ar raddfa genedlaethol a rhanbarthol. Mae’r gwerthusiad yn awgrymu bod hwn, ar lefel cenedlaethol, angen ffocws clir a phwyslais ar ddysgu proffesiynol addysg ariannol, adnoddau hygyrch wedi’i hyrwyddo, gyda chefnogaeth ranbarthol leol. Gall y cynllun gweithredu dysgu proffesiynol strategol, a gafodd ei ddatblygu am y Cwricwlwm Newydd i Gymru, gynnig llwybr i adnabod sefydliadau sydd â gwybodaeth arbenigol ar y pwnc a all ddarparu dysgu proffesiynol addysg ariannol ar raddfa genedlaethol.