Site icon The Money and Pensions Service

Addysg Ariannol Dysgu Proffesiynol i Athrawon yng Nghymru: gwerthusiad braenaru

Deall sut i ymgorffori a graddio dysgu proffesiynol addysg ariannol effeithiol

Mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu a phrofiadau mewn plentyndod yn dylanwadau pwysig ar allu i reoli a gwneud y mwyaf o arian mewn bywyd. Felly, mae athrawon (yn ogystal â rhieni) yn chwarae rôl allweddol mewn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a dysgu am arian, gan siapio’u lles ariannol wrth iddynt dyfu i fod yn oedolion.

Mae tystiolaeth i ddangos bod dulliau hyfforddi’r hyfforddwr, gan gynnwys darparu dysgu proffesiynol i athrawon i’w helpu darparu addysg ariannol, gyda’r potensial i wella sgiliau arian, gwybodaeth ac ymddygiad plant a phobl ifanc. Ond, ar draws y DU, mae athrawon yn nodi bod mynediad cyfyngedig i hyfforddiant addysg gyllidol neu ddysgu proffesiynol ac mae nifer yn nodi eu bod ganddynt ddiffyg gwybodaeth a hyder yn y maes hwn.

Ariannodd cynllun braenaru plant a phobl ifanc y Gwasanaeth Arian a Phensiynau bum prosiect braenaru rhwng 2019 a 2021, i brofi dulliau i ddarparu addysg ariannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Bwriad y braenaru oedd deall sut i sefydlu model cynaliadwy a all dyfu i ddarparu addysg ariannol yng Nghymru, gan ddarparu dysgu ar gyfer darpariaeth ehangach ledled Cymru a gweddill y DU. Profodd ddau ddull:

  1. Dull dysgu proffesiynol sydd wedi’i raeadru a arweinir gan hyfforddwyr, lle cymerodd athrawon a staff o ddau Gonsortia Addysg Ranbarthol ran mewn hyfforddiant addysg ariannol i ddod yn hyfforddwyr gwirfoddol ac yna rhaeadru dysgu proffesiynol addysg ariannol i athrawon eraill.
  2. Dull e-ddysgu gall athrawon gwblhau yn annibynnol ar gyflymder eu hun.

Cafodd y prosiect ei ddarparu gan Young Money (ar ran Young Enterprise) a ddau Consortia Addysg Ranbarthol yng Nghymru (GwE ac ERW). Cafodd y gwerthusiad ei gynnal gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caeredin.

Sut i ddefnyddio’r gwerthusiad hwn

Rydym yn gobeithio bydd y darganfyddiadau yn ddefnyddiol i lunwyr polisi, cyllidwyr, ysgolion, neu sefydliadau darparu sydd eisiau darparu neu raddio dysgu proffesiynol addysg ariannol i weithwyr addysg broffesiynol.

Prif ddarganfyddiadau

Goblygiadau

Exit mobile version