Site icon The Money and Pensions Service

Mae costau byw cynyddol yn gweld dros 11 miliwn o bobl yn gofyn am help ariannol yn ystod y tri mis diwethaf

Mae dros 11 miliwn o bobl ledled y DU wedi chwilio am gymorth ariannol yn ystod y tri mis diwethaf yn unig, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). 

Mae’r arolwg o 3,000 o oedolion, a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Siarad Arian (Tachwedd 7-11), yn dangos bod costau byw cynyddol wedi arwain at un o bob pump person (21%) yn ceisio cymorth neu arweiniad am ddim. 

Mae un o bob pedwar (24%) yn dweud eu bod wedi siarad â chwmnïau fel eu banc neu gyflenwr ynni am gefnogaeth ychwanegol, tra bod un o bob pump (18%) wedi bod yn chwilio am gyngor ar ddyledion am ddim. 

Mae problemau ariannol hefyd yn llawer mwy cyffredin ymhlith pobl ifanc o’i gymharu â phobl dros 55 oed. Mae mwy na thraean o bobl ifanc 18-24 oed wedi bod angen help ac arweiniad am ddim (37% o’i gymharu â 7%), help gan gwmnïau (37% yn erbyn 12%) a chyngor ar ddyled (34% o’i gymharu â 5%). 

Mae’r ffigyrau wedi eu rhyddhau i nodi Wythnos Siarad Arian, ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n cael ei gynnal gan MaPS sy’n annog pawb i ddechrau siarad am arian. 

Y thema eleni yw credyd, gydag ysgolion, cwmnïau gwasanaethau ariannol, elusennau a chyflogwyr hefyd yn ymuno a llawer yn cynllunio eu digwyddiadau Siarad Arian eu hunain. 

Gyda chostau byw yn codi’n sydyn, mae MaPS yn dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i bobl gael rheolaeth o’u cyllid a dod o hyd i gefnogaeth i bryderon ariannol. Fodd bynnag, mae’r arolwg barn hefyd yn datgelu nad yw un o bob pump (20%) yn gwybod ble i droi am help. 

Mewn ymateb, mae MaPS yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd i ddefnyddio ei wasanaethau HelpwrArian am arweiniad am ddim ar bynciau fel arian bob dydd, budd-daliadau, pensiynau a dyled. Mae hefyd yn cynnig sesiynau un-i-un am ddim dros y ffôn, WhatsApp ac e-bost, ynghyd â gwybodaeth am siarad â chredydwyr a chyfeirio at gyngor dyled am ddim. 

Yn ogystal, mae’n darparu teclyn Blaenoriaethwr biliau, sy’n helpu pobl â chyllidebu, blaenoriaethu eu biliau a dod o hyd i help os ydynt yn cael trafferth talu. 

Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau: 

“Mae ein hymchwil yn dangos bod aelwydydd ledled y wlad yn dechrau teimlo’r straen a ddaw yn sgil costau byw cynyddol. Gall hyn achosi llawer o straen a bod yn anodd ymdopi ag ef, felly mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag y bydd pryderon am arian yn dechrau. 

“Yr Wythnos Arian Siarad hwn, rydym am i bobl gael yr holl declynnau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gymryd rheolaeth o’u cyllid. Drwy gael eu grymuso i wneud y penderfyniadau cywir, gall pawb wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.  

“Os ydych yn cael trafferthion yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae ein neges yn glir; mae cymorth a chyngor am ddim ar gael, felly does dim rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun. Gall taclo pryderon arian yn gynnar newid bywydau ac mae’n aml yn arwain at fwy o hyder, gwell iechyd meddwl a mwy o wydnwch ariannol i’r dyfodol. 

“Mae amrywiaeth o adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar gael trwy ein teclyn HelpwrArian, felly byddwn yn cynghori unrhyw un sydd angen help i gysylltu ar unwaith.” 

-DIWEDD– 

Am fwy o ymholiadau’r cyfryngau, gan gynnwys astudiaethau achos, ffoniwch Swyddfa’r Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.    

Nodiadau i olygyddion 

Ynglŷn â’r Wythnos Siarad Arian 

Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sy’n helpu pobl i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn trwy gydol y flwyddyn. 

Bydd Wythnos Siarad Arian eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘credyd’ – i helpu i symleiddio rhai o’r jargon, adeiladu dealltwriaeth pobl o gynhyrchion credyd, a beth yw eu dewisiadau, gan gynnwys mathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas. Fodd bynnag, rydym yn annog pobl i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd ar arian. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael arhttps://maps.org.uk/cy/wythnos-siarad-arian/. 

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau 

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian, a ddaeth â’r gwasanaethau etifeddiaeth at ei gilydd y Gwasanaeth Cyngori ar Arian, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. 

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. 

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Am fwy o wybodaeth ewch i https://maps.org.uk/cy/. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/ / 0800 138 7777.  

Exit mobile version