Site icon The Money and Pensions Service

Iechyd Meddwl ac Arian: Canllaw ar gyfer cefnogi cwsmeriaid

Gall byw gyda phroblem iechyd meddwl ei gwneud hi’n anoddach rhyngweithio ag arian a’i rheoli, gan gynnwys taliadau i ddarparwyr gwasanaethau ariannol, credydwyr y sector cyhoeddus a darparwyr cyfleustodau. Nawr, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi cynhyrchu canllaw newydd sy’n dangos i gredydwyr sut i gynnig mwy o gefnogaeth i gwsmeriaid mewn anhawster.

Sut cafodd y cynllun hwn ei greu

Cafodd Iechyd Meddwl ac Arian’ ei greu ar ôl ymgynghoriad gydag arbenigwyr lles ariannol ac iechyd meddwl.

Mae’r canllaw wedi’i gefnogi gan y Money and Mental Health Policy Institute, Mind, Rethink Mental Illness a Chyngor ar Bopeth, yn ogystal ag Adferiad Recovery yng Nghymru, MindWise yng Ngogledd Iwerddon a sefydliadau’r Alban Change Mental Health a Chyngor ar Bopeth yr Alban.

Pam mae arian yn bwysig ym maes iechyd meddwl

Mae cysylltiad cryf rhwng arian ac iechyd meddwl, gydag ymchwil o’r Money and Mental Health Institute yn dangos bod un o bob pum person (18%) sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl hefyd â phroblem dyled.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod bod yna llawer o wybodaeth am beth ddylai sefydliadau ei wneud i gefnogi’u cwsmeriaid orau, a gall bod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Beth mae’r canllaw yn ei gynnig

Mae’r canllaw’n amlinellu chwe ffordd y gall credydwyr mewn gwasanaethau ariannol, cyfleustodau a’r sector cyhoeddus wneud mwy i gefnogi’r rhai sy’n cael trafferth.

Mae’r rhain yn cynnwys arfogi staff i helpu, ystyriaeth ychwanegol wrth fynd ar drywydd taliadau a’i gwneud hi’n haws i bobl gysylltu pan fydd angen help arnyn nhw.

Mae eraill yn cynnwys caniatáu i gwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio gynnwys trydydd partïon wrth reoli eu cyfrif, mwy o oddefgarwch a’u cyfeirio’n rhagweithiol at gefnogaeth allanol.

Mae’r canllaw hefyd yn awgrymu sut y gall credydwyr roi’r technegau ar waith, yn rhestru adnoddau y gallant eu defnyddio ac yn eu hatgoffa o’r dyletswyddau FCA perthnasol a allai fod eu hangen

Lawrlwythwch Iechyd Meddwl ac Arian: Canllaw ar gyfer cefnogi cwsmeriaid

Iechyd Meddwl ac Arian: Canllaw ar gyfer cefnogi cwsmeriaid

Lawrlwythwch y canllaw

Exit mobile version