Site icon The Money and Pensions Service

Mae dwy ran o dair o bobl yn dal i roi arian i mewn i gynilion

Mae mwy na 30 miliwn o oedolion ledled y DU yn dal i gynilo er gwaethaf costau byw cynyddol, yn ôl ymchwil newydd.

Dangosodd arolwg o 2,236 o oedolion, a gynhaliwyd gan Ipsos ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) fod dwy ran o dair (65%) wedi dweud eu bod wedi bod yn rhoi arian mewn cynilion yn ystod y chwe mis diwethaf.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent wedi bod yn rhoi arian o’r neilltu i gynilion am unrhyw un o bedwar rheswm gwahanol. Dywedodd dros draean (36%) mai ar gyfer treuliau annisgwyl oedd y cynilion a dywedodd tri o bob deg (30%) mai gwyliau a theithiau dydd oedd y rheswm. Dywedodd un o bob pump (19%) eu bod yn cynilo ar gyfer achlysuron arbennig, tra bod 16% yn dweud “rhywbeth arall”.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod pobl ifanc 18-24 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi bod yn rhoi arian o’r neilltu nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda phedwar o bob pump (80%) yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn ystod y chwe mis diwethaf.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd MaPS bod cael byffer cynilo yn helpu rhywun i baratoi ar gyfer treuliau annisgwyl.

Mae cynilo symiau bach, rheolaidd a fforddiadwy yn aml yn fwy effeithiol na chynilo symiau mwy nawr ac yn y man gan ei fod yn helpu pobl i fynd i mewn i’r arfer â chynilo.

Mae MaPS yn argymell bod pobl yn edrych ar y ffyrdd gorau i gynilo ar gyfer eu sefyllfa, gan ddechrau gyda’i wasanaeth HelpwrArian. Mae’n cynnig ystod o gymorth ac arweiniad, gan gynnwys teclynnau ac arweiniad ar-lein am ddim sy’n ymdrin â hanfodion cynilo, megis sut i ddechrau arni a mynd i’r arfer.

Gall mentrau arbed y llywodraeth megis Cymorth i Gynilo hefyd helpu pobl sydd ar rai budd-daliadau i fynd i’r arfer trwy roi bonws o 50c am bob £1 a arbedir hyd at £50 y mis, gyda hyd at £1,200 ar gael dros bedair blynedd.

Fodd bynnag, mae MaPS yn cydnabod nad yw pawb mewn sefyllfa i gynilo, gydag ymchwil flaenorol yn datgelu nad oes gan un o bob chwech o oedolion y DU unrhyw gynilion o gwbl. Mae’n annog pobl i ddefnyddio ei wasanaethau am gymorth ac arweiniad os ydynt yn ei chael hi’n anodd rheoli eu harian neu’n teimlo y gallent ei chael hi’n anodd yn fuan. 

Mae MaPS hefyd yn argymell y dylai’r rhai sydd wedi troi’n 18 oed ers mis Medi 2020 ac nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes olrhain eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, a fydd yn rhoi pot cynilo parod iddynt.

Dywed Jackie Spencer, Uwch Reolwr Polisi yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Gall cael byffer cynilo eich helpu i ddelio â chostau annisgwyl, felly mae’n wych gweld cymaint o bobl yn dal i lwyddo i roi arian o’r neilltu. Gall mynd i mewn i’r arfer â chynilo ymddangos yn frawychus, ond gall ein cynllunydd cyllideb a’n canllawiau eich helpu i fynd ar y trywydd iawn.

“Fodd bynnag, nid yw pawb yn gallu rhoi arian gadw ac mae miliynau yn byw heb rwyd diogelwch ariannol. Gall hyn eu gadael yn agored i dreuliau sydyn, fel boeler yn torri i lawr neu broblemau gyda’u car, gydag effaith a allai fod yn ddinistriol os yw eu cyllideb eisoes yn dynn.

“Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd yn ariannol, neu os yw pethau’n mynd y ffordd honno, gallwch droi atom yn rhydd ac yn hyderus ar unrhyw adeg. Rwy’n eich annog i gysylltu am gymorth ac arweiniad cyn gynted ag y byddwch chi’n meddwl bod ei angen arnoch.”

DIWEDD 

Am ymholiadau pellach gan y cyfryngau, gan gynnwys astudiaethau achos, cysylltwch â swyddfa wasg MaPS ar 020 8132 5284 neu media@maps.org.uk.    

Nodiadau i olygyddions 

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Ein gweledigaeth yw “pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.”

Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau drwy www.moneyhelper.org.uk a 0800 138 7777. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys ystod o offer am ddim, yn ogystal â’r cyfle i siarad ag arbenigwr trwy WhatsApp, ffôn, e-bost neu sgwrs fyw. Rydym hefyd yn cydlynu Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i helpu pawb i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen ac adeiladu dyfodol ariannol gwell.

Rydym yn gorff hyd braich, a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a gyllidir gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu ein cynllun corfforaethol blynyddol a strategaeth

Exit mobile version