Site icon The Money and Pensions Service

Mae un o bob pump oedolyn yn y DU yn cael ei wrthod am gredyd mewn blwyddyn

Cafodd mwy na naw miliwn o oedolion ledled y DU eu gwrthod am gredyd mewn 12 mis yn unig, yn ôl ymchwil newydd.

Dangosodd arolwg o 2,236 o oedolion, a gynhaliwyd gan Ipsos ym mis Ebrill 2023 ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), fod pumed (19%) wedi gweld eu cais am gredyd yn cael ei wrthod yn ystod y 12 mis blaenorol (mis Ebrill 2022 i fis Ebrill 2023).

Dywed un o bob 20 (4%) eu bod wedi cael eu gwrthod ar dri achlysur neu fwy.

Dangosodd y canlyniadau, a oedd yn cynnwys yr holl gredyd ac eithrio morgeisi, fod rhai yn fwy tebygol o gael eu gwrthod nag eraill.

Roedd y rhai a wrthodwyd yn tueddu i fod yn iau, gyda phobl ifanc 18-24 oed (36%) a phobl 25-34 oed (35%) y rhai mwyaf tebygol. Pobl o Lundain oedd y rhai mwyaf tebygol yn ôl lleoliad (31%), gyda thrigolion Dwyrain Canolbarth Lloegr (10%) y lleiaf tebygol.

Roedd rhieni neu warcheidwaid plant o dan 18 oed (30%) hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu gwrthod na’r rheini heb blant (14%).

Pan ofynnwyd iddynt y rheswm, dywedodd ymatebwyr fod y prif resymau a roddwyd iddynt yn cynnwys “hanes credyd gwael” (38%), “ni allent fforddio’r ad-daliadau” (28%) a “bod ganddynt ormod o gredyd arall (19%). Dim ond 10% ddywedodd nad oeddent yn gwybod y rheswm.

Dywedodd dau o bob pump (42%) y byddai teclyn sy’n dangos eu cyfle o gael eu derbyn yn ddefnyddiol y tro nesaf, tra bod 38% eisiau awgrymiadau ar wella eu sgôr credyd. Byddai chwarter (26%) yn gwerthfawrogi gwybodaeth am ddod o hyd i fathau eraill o gredyd.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd MaPS y dylai pobl gymryd peth amser os ydynt wedi cael eu gwrthod am gredyd. Gall mwy nag un cais am gredyd effeithio’n ddifrifol ar eich statws credyd a’r gyfradd llog y byddwch yn cael eich cynnig yn y dyfodol.

Ar gyfer pobl sydd eisiau benthyca i ad-dalu dyledion eraill neu wario ar filiau a chostau byw hanfodol, dywedir efallai mai nawr yw’r amser i edrych yn fanwl ar eich cyllideb a chael mynediad at ganllawiau costau byw MaPS.

Ar gael drwy ei wasanaeth HelpwrArian am ddim, mae’r canllawiau’n cynnig declynnau fel Cynlluniwr Cyllideb a Blaenoriaethwr Biliau, tra hefyd yn cyfeirio at gymorth ychwanegol gan y Llywodraeth.

Dywedodd Jackie Spencer, Pennaeth Polisi Arian a Phensiynau yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae credyd yn declyn hynod ddefnyddiol a ddefnyddir gan filiynau o bobl, ond mae’n benderfyniad pwysig iawn ac yn ymrwymiad mawr. Cyn ei gymryd, gwnewch yn siŵr bod gennych y cynnyrch cywir ar eich cyfer a chynllun clir ar gyfer ei ad-dalu.

“Os ydych yn cael eich gwrthod, mae’n bryd stopio, cymryd anadl ac ailasesu cyn gwneud cais eto. Gall ymatebion tymor byr fel llawer o geisiadau achosi canlyniadau gwael tymor hir i’ch statws credyd a’r gyfradd llog y byddwch yn cael eich cynnig y tro nesaf.

Os oes angen credyd arnoch am gostau hanfodol fel bwyd neu dai, neu i ad-dalu benthyciadau eraill, efallai y bydd yn bryd gofyn am gyngor ar ddyledion am ddim. Beth bynnag fo’ch amgylchiadau, mae gennym adnoddau pwrpasol ar ein gwasanaeth HelpwrArian am ddim a byddwn yn annog pawb i edrych cyn iddynt fenthyca.”

-ENDS- 

Am fwy o ymholiadau cyfryngol, cysylltwch â Swyddfa Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.   

Nodiadau i olygyddion

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Ein gweledigaeth yw “pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau.”

Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau drwy www.moneyhelper.org.uk a 0800 138 7777. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys ystod o declynnau am ddim, yn ogystal â’r cyfle i siarad ag arbenigwr trwy WhatsApp, ffôn, e-bost neu sgwrs fyw.

Rydym hefyd yn cydlynu Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i helpu pawb i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen ac adeiladu dyfodol ariannol gwell.

Rydym yn gorff hyd braich, a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a gyllidir gan ardollau yn y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu gynllun a strategaeth corfforaethol blynyddol .

Exit mobile version