Site icon The Money and Pensions Service

Nid oes gan un o bob chwech o oedolion y DU unrhyw gynilion

Does gan naw miliwn o bobl ledled y DU ddim cynilion ac mae gan bum miliwn arall lai na £100, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).   

Mae’r arolwg o 3,000 o oedolion, a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Siarad Arian (Tachwedd 7-11), yn dangos nad oes gan un o bob chwech (17%) unrhyw beth wedi’i gynilo ac mae gan un arall o bob deg (9%) £100 neu lai.  

Mae hyn yn gadael tua chwarter yr oedolion sy’n byw heb rwyd diogelwch ariannol i ymdopi â chostau byw neu filiau annisgwyl cynyddol, sy’n golygu y gallai rhai orfod defnyddio credyd.  

Dywed MaPS er bod credyd yn arf pwysig pan gaiff ei ddefnyddio a’i reoli’n dda, mae’n hanfodol bod pobl yn deall yr hyn y gallant ei fforddio a chael cynllun i’w dalu yn ôl.  

Fodd bynnag, mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu bod llawer o bobl eisoes yn ei chael hi’n anodd i wneud hyn. Ymhlith y 79% o drigolion y DU sy’n defnyddio credyd, mae dau o bob pump (43%) bellach yn bryderus am faint sy’n ddyledus ganddynt. Mae dros draean (35%) yn poeni am nifer y cynnyrch gwahanol sydd ganddynt.  

Wrth i bwysau costau byw gynyddu, mae MaPS yn dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i siarad am arian cyn i broblemau ddechrau. Ond mae’r arolwg hefyd yn datgelu bod 81% o bobl yn dal i osgoi trafod eu cyllid.  

Pan ofynnwyd pam, yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd ‘ddim am gael eu barnu’ (21%), ”ofn rhoi’r baich ar eraill’ (19%) a ‘chywilydd neu embaras’ (17%).  

Yn ystod Wythnos Siarad Arian, mae MaPS yn annog pawb i siarad yn agored am arian, cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol a chymryd cyngor dyled am ddim cyn gynted ag y maent eu hangen.  

Dywed y sefydliad y gall ei wasanaeth HelpwrArian fod yn fan cychwyn i bobl, gan gynnig arweiniad am ddim ar bynciau fel arian bob dydd, cynilion a ble i ddod o hyd i gyngor dyled  am ddim.   

Mae hefyd yn darparu ystod o wybodaeth am ddelio â materion ariannol, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i siarad â’ch credydwyr neu drafod arian gyda theulu a ffrindiau.  

Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:  

“Mae miliynau o bobl yn ei chael hi’n her i gynilo ac mae hyn yn eu gadael yn agored i niwed pan fydd eitemau gwariant sydyn yn codi. Pan fyddwch yn ychwanegu y pryder maent yn teimlo gyda’u hymrwymiadau credyd, gall pwysau’r pryder hwnnw fynd yn llethol yn gyflym.   

” Yr Wythnos Siarad Arian hon, rydym am i bawb ddechrau’r sgwrs gyda theulu neu ffrindiau a rhannu baich unrhyw bryderon ariannol. Drwy ddelio â’r broblem yn uniongyrchol, gall pobl ddarganfod pa mor ddefnyddiol y gall cyngor am ddyledion am ddim fod a gweld pwysigrwydd siarad â’u credydwyr yn gynnar. Maent hefyd yn gallu dechrau dod o hyd i ffordd ymlaen, dim ots pa mor anodd y gallai eu sefyllfa deimlo.  

“Mae holl gymorth ac arweiniad am ddim ar sut i wneud hyn ar gael trwy ein gwasanaeth HelpwrArian a byddwn yn annog pawb sydd ei angen i gysylltu heddiw.”  

 DIWEDD  

Am ragor o ymholiadau’r cyfryngau, gan gynnwys astudiaethau achos, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.     

Nodiadau i olygyddion  

Ynglŷn ag Wythnos Siarad Arian  

Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sy’n helpu pobl i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn trwy gydol y flwyddyn.  

Bydd Wythnos Siarad Arian eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘credyd’ – i helpu i symleiddio rhai o’r jargon, adeiladu dealltwriaeth pobl o gynhyrchion credyd, a beth yw eu dewisiadau, gan gynnwys mathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas. Fodd bynnag, rydym yn annog pobl i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd ar arian.  

Mae mwy o wybodaeth ar https://maps.org.uk/cy/wythnos-siarad-arian/.  

Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau  

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian, a ddaeth â’r gwasanaethau etifeddiaeth at ei gilydd y Gwasanaeth Cyngori ar Arian, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.  

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol.  

Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  

Am fwy o wybodaeth ewch i https://maps.org.uk/cy/. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/ / 0800 138 7777.   

Exit mobile version