Site icon The Money and Pensions Service

Mae un o bob pump o bobl nawr yn benthyg i dalu am fwyd a biliau hanfodol eraill, gyda hanner yn ei wneud am y tro cyntaf

Mae dros 12 miliwn o bobl nawr yn benthyg arian am fwyd neu filiau hanfodol ac mae hanner ohonynt yn gwneud hynny am y tro cyntaf yn eu bywydau, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r arolwg o 2,180 oedolyn y DU, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn dangos bod 23% wedi dibynnu ar gredyd neu arian o deulu a ffrindiau i brynu bwyd yn y tri mis diwethaf. Mae’r un nifer (23%) wedi gwneud hynny am ynni a nwy.

Mae tua hanner ohonynt (43% am fwyd, 53% am gyfleustodau) yn dweud nad ydynt wedi gorfod gwneud hyn o’r blaen.

Mae niferoedd tebyg yn dweud eu bod yn dibynnu ar fenthyg i gwrdd â chost eu rhent neu forgais (17%, 52% am y tro cyntaf), costau gofal iechyd fel presgripsiynau a thriniaethau deintyddol (17%, 51%) ac ad-dalu mathau eraill o gredyd (21%, 41%).

Mae’r pôl hefyd yn datgelu bod un o bob pump o bobl (21%) yn meddwl bydd angen credyd arnynt i ddod drwy’r tri mis nesaf, gyda 4% yn dweud y byddent yn bendant. 

Ymhlith y gweddill, dywedodd 7% eu bod yn “debygol iawn” ac roedd 10% yn teimlo eu bod yn “weddol debygol”.

Ni allai 15% ychwanegol o ymatebwyr ei ddiystyru, sy’n golygu y gallai hyd at 36% o oedolion y DU fod yn dibynnu ar gredyd cyn bo hir i gael dau ben llinyn ynghyd.

Mae’r canlyniadau’n dod wrth i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau lansio ymgyrch newydd i gyrraedd pobl sy’n cael trafferth gyda phwysau costau byw, a fydd yn rhedeg ynghyd â Help for Households y Llywodraeth.

Nod ‘Ymgyrch Costau Byw HelpwrArian’, sy’n dechrau heddiw a bydd yn cynnwys hysbysfyrddau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, yw codi ymwybyddiaeth o’r cyngor a’r arweiniad sydd ar gael a galluogi pobl i gwneud penderfyniadau ariannol mwy gwybodus.

Mae’n canolbwyntio ar gwasanaeth HelpwrArian MaPS, sy’n darparu arweiniad ariannol am ddim gan arbenigwr mewn ystod o fformatau gwahanol, fel gwesgwrs, WhatsApp, ffôn a ffurflen we.

Mae HelpwrArian hefyd yn cynnig adnoddau am ddim ar ystod o bynciau arian, ynghyd â theclynnau defnyddiol i helpu gyda thasgau hanfodol fel blaenoriaethau biliau, siarad â’ch credydwyr a chynllunio eich cyllideb. Yn ychwanegol, mae’n darparu dolenni i gymorth pellach, gan gynnwys sefydliadau sy’n darparu cyngor ar ddyledion am ddim.

Dywedodd Caroline Siarkiewics, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Gall dibynnu ar gredyd neu haelioni teulu a ffrindiau i roi bwyd ar y bwrdd, cynhesu’ch cartref a chadw to dros eich pen fod yn ffynhonnell gyson o straen. I filiynau o gartrefi’r DU, mae hefyd yn realiti dyddiol.

“Nod Ymgyrch Costau Byw HelpwrArian yw cyrraedd pawb sy’n poeni am arian, fel y gallwn ddangos bod cyngor annibynnol, am ddim ar gael pryd bynnag maent eu hangen.

“Os ydych eisoes yn ei chael hi’n anodd, neu’n poeni bod pethau’n mynd y ffordd honno, gall deimlo fel nad oes ffordd ymlaen. Fodd bynnag, y cam cyntaf i ddatrys problemau arian yw gwybod ble i droi.

“Gallwch droi atom ni, am ddim, yn gyfrinachol ar unrhyw bryd, felly byddwn yn eich annog i gysylltu â ni am arweiniad arian cyn gynted ag y credwch fod ei angen arnoch.”

DIWEDD

Am ymholiadau pellach, gan gynnwys astudiaethau achos, cysylltwch â swyddfa wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.

Nodiadau i olygyddion

Am yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pob person yn teimlo mewn mwy o reolaeth o’u cyllid trwy gydol eu bywyd: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, bydd cymunedau’n iachach, busnesau’n fwy llewyrchus, bydd yr economi’n buddio a bydd unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu cyngor arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd trwy HelpwrArian sydd yn ddiweddar wedi dod â gwasanaethau etifeddol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Pensions Advisory Service a Pension Wise at ei gilydd.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU cyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol yn gysylltiedig. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas o gyflawni’r pum nod a osodir yn Strategaeth am Les Ariannol y DU.

Mae MaPS yn cefnogi arloesi fel bod pawb yn gallu defnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl teimlo fel eu bod mewn mwy o reolaeth dros eu harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf a chynhwysol o bobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk. Gall aelodau’r cyhoedd cael cyngor am ddim am eu harian a phensiynau trwy: www.helpwrarian.org.uk / 0800 138 7777

Exit mobile version