Site icon The Money and Pensions Service

Sefydliadau arian ac iechyd meddwl yn cyfuno i gefnogi mwy o gymorth i bobl sydd mewn trafferth

Mae sefydliadau arian ac iechyd meddwl ledled y DU yn cefnogi canllaw newydd sy’n dangos i gredydwyr sut i gynnig mwy o gymorth i gwsmeriaid sydd mewn trafferthion.

Crëwyd ‘Iechyd Meddwl ac Arian’, a ryddhawyd heddiw gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS), ar ôl ymgynghori’n fanwl ag arbenigwyr yn y ddau faes.

Mae’n cael ei gefnogi gan Money and Mental Health Policy Institute, Mind, Rethink Mental Illness a Chyngor ar Bopeth, yn ogystal ag Adferiad Recovery yng Nghymru, MindWise yng Ngogledd Iwerddon a Change Mental Health yn Yr Alban.

Mae cysylltiad cryf rhwng arian ac iechyd meddwl, gydag ymchwil o’r Money and Mental Health Policy Institute yn dangos bod un o bump o bobl (18%) sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl hefyd mewn dyled.

Mae’r canllaw’n amlinellu chwe ffordd y gall credydwyr mewn gwasanaethau ariannol, cyfleustodau a’r sector cyhoeddus wneud mwy i gefnogi’r rhai sy’n cael trafferth.

Mae’r rhain yn cynnwys galluogi staff i helpu, ystyriaeth ychwanegol wrth fynd ar ôl taliadau a’i gwneud hi’n haws i bobl gysylltu pan fydd angen help arnynt.

Mae eraill yn cynnwys galluogi cwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio i gynnwys trydydd parti wrth reoli eu cyfrif, mwy o oddefgarwch a’u cyfeirio’n rhagweithiol at gefnogaeth allanol.

Mae’r canllaw hefyd yn awgrymu sut y gall credydwyr ddefnyddio’r technegau’n ymarferol, yn rhestri adnoddau gallant eu defnyddio ac yn eu hatgoffa o ddyletswyddau FCA perthnasol a allai fod yn ofynnol.

Mae ymchwil gan MaPS, a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, hefyd yn dangos bod pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl tua un a hanner gwaith yn fwy tebygol o gael trafferth gyda biliau ac ymrwymiadau credyd (74% o’i gymharu â 50% o holl oedolion y DU).

Darganfyddod MaPS hefyd fod gan hanner y bobl sydd â phroblem iechyd meddwl lai na £100 o gynilion, tra bod dros draean heb unrhyw gynilion o gwbl, gan eu gadael heb rwyd ddiogelwch hanfodol os ydynt yn mynd i drafferth ariannol.

Yn ôl MaPS, dylai pobl sy’n cael eu hunain mewn trafferth ariannol geisio’r help a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl. Nod y canllaw yw dangos i gredydwyr sut y gallant gynorthwyo eu cwsmeriaid ar y daith honno.

Dywedodd Sarah Murphy, Arweinydd Polisi Iechyd Meddwl yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

“Mae cysylltiad agos rhwng problemau arian ac iechyd meddwl a gall un arwain yn gyflym at y llall. Gall delio â’r ddau ar wahân bod yn ddigon anodd, ond gall gorfod ymdopi â’r ddau ar yr un pryd ddod yn llethol.

“Nod y canllaw hwn yw dangos i wasanaethau ariannol, cyfleustodau a sefydliadau’r sector cyhoeddus yr hyn y gallant ei wneud i helpu cwsmeriaid sy’n cael trafferth, oherwydd gall y cymorth cywir ar yr adeg gywir newid bywydau.

“Trwy gyd-weithio â chredydwyr, gallwn eu helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt i sicrhau nad yw unrhyw un yn mynd trwy’r sefyllfa anodd hwn ar eu pen eu hunain.”

Dywedodd Conor D’Arcy, Pennaeth Ymchwil a Pholisi yn y Money and Mental Health Policy Institute:

“Gall y cylch dieflig o broblemau arian ac iechyd meddwl gael canlyniadau dinistriol. A gyda chostau byw cynyddol, mae mwy o bobl nag erioed yn cael trafferth gyda’r realiti brawychus hwnnw. Mae gan gredydwyr rôl hanfodol wrth leddfu rhywfaint o’r strain hynny, a lleihau’r pryder a gofid a all ddod ynghyd â thrafferthion ariannol.

“Trwy gymryd y camau a nodir yn y canllaw, megis gwneud eu cyfathrebiadau ynghylch dyled yn fwy cefnogol a sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant cywir, gall credydwyr wneud gwahaniaeth mawr drwy sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael yr help sydd ei angen arnynt. Bydd hyn yn mynd ymhell i wella cefnogaeth i gwsmeriaid sy’n cael trafferth yn ystod yr amseroedd anodd hyn a thu hwnt.

DIWEDD

Am ymholiadau cyfryngau pellach, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk

Nodiadau i olygwyr

Am y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pob person yn teimlo mewn mwy o reolaeth o’u cyllid trwy gydol eu bywyd: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, bydd cymunedau’n iachach, busnesau’n fwy llewyrchus, bydd yr economi’n buddio a bydd unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu cyngor arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd trwy HelpwrArian sydd yn ddiweddar wedi dod â gwasanaethau etifeddol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Pensions Advisory Service a Pension Wise at ei gilydd.

Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU cyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol yn gysylltiedig. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau gyda’r pwrpas o gyflawni’r pum nod a osodir yn Strategaeth am Les Ariannol y DU.

Mae MaPS yn cefnogi arloesi fel bod pawb yn gallu defnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl teimlo fel eu bod mewn mwy o reolaeth dros eu harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf a chynhwysol o bobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Am fwy o wybodaeth ewch i www.maps.org.uk. Gall aelodau’r cyhoedd cael cyngor am ddim am eu harian a phensiynau trwy: www.helpwrarian.org.uk / 0800 138 7777

Exit mobile version