Cynllun corfforaethol
Mae cynllun corfforaethol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda’r llywodraeth i gefnogi pobl dros y flwyddyn ariannol 2021/22; tra’n parhau â’n gweledigaeth ddegawd o hyd am fwy o les ariannol, fel y gall pawb yn y dyfodol wneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau.
Mae’r cynllun wedi’i adeiladu o amgylch cylch gwaith statudol ‘MaPS’: canolbwyntio ar helpu’r bregus a’r rhai mwyaf anghenus trwy ei wasanaethau cwsmeriaid mewn cynghori ar ddyledion, arian ac arweiniad pensiynau. Mae’n tynnu ysbrydoliaeth o swyddogaeth newydd ffres, a amlinellir yn y cynllun corfforaethol am y tro cyntaf:
‘Rydym yn helpu pobl – yn enwedig y rhai mwyaf anghenus – i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan weithio ar y cyd ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gael gafael ar arweiniad arian a phensiynau o ansawdd uchel a chyngor ar ddyledion trwy gydol eu hoes, sut bynnag a phryd bynnag maent ei angen.’
Sir Hector Sants
Cadeirydd
“Mae llawer o aelwydydd, oedd eisoes mewn sefyllfa ariannol ansicr cyn yr argyfwng presennol, bellach yn brwydro i gadw dau pen llinyn ynghyd. Mae gan MaPS gylch gwaith statudol i ganolbwyntio ar helpu’r rhai mwyaf anghenus ac sydd mewn amgylchiadau bregus. Rydym yn gwneud hyn trwy gefnogi pobl o ddydd i ddydd i adeiladu gwytnwch ariannol trwy gydol eu bywydau, yn ogystal ag yn ystod dau o’r amgylchiadau ariannol pwysicaf y gallent fyth eu profi: bod mewn argyfwng ariannol a chynllunio ar gyfer eu dyfodol.
“Pan fydd pobl yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid, mae unigolion a chymunedau yn iachach, mae busnesau’n fwy llewyrchus ac mae’r economi’n elwa.”
Caroline Siarkiewicz
Prifweithredwr
“Mae ein cynllun corfforaethol yn amlinellu sut y bydd MaPS yn gweithio gyda’r llywodraeth i gefnogi cyllid pobl a helpu i wella eu bywydau o heddiw ymlaen, fel y gallwn ni i gyd adeiladu ar gyfer gwell yfory ariannol. Rydym yn canolbwyntio’n llawn ar helpu pobl i atgyweirio eu cyllid a pharatoi am eu dyfodol.
“Trwy ein harweiniad arbenigol, cyngor ar ddyledion o ansawdd uchel, teclynnau a gwasanaethau digidol a thrwy gydweithio ag eraill, byddwn yn helpu pobl i adeiladu lles ariannol nawr fel y gall pawb yn y dyfodol wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.”