Gweithwyr Rheng Flaen Yng Nghymru I Ymuno Â’r Frwydr Yn Erbyn Sgamwyr Ariannol
Hyfforddiant sgamiau yn agored i wasanaethau cymunedol fel diffoddwyr tân, staff meddygfeydd Meddygon Teulu a llyfrgellwyr
Bydd gweithwyr rheng flaen yng Nghymru fel gofalwyr a staff y gwasanaethau brys yn derbyn hyfforddiant i’w helpu i ddiogelu pobl rhag sgamwyr ariannol, fel rhan o’r cymorth a gynigir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Mae addysg gyhoeddus am sgamiau ariannol yn hanfodol, pan nad yw 50% o oedolion yng Nghymru (1.3m) yn teimlo’n hyderus am ddiogelu eu hunain rhag sgamiau ariannol 1, a dim ond 56% o oedolion yng Nghymru (1.4m) sy’n gwybod am sefydliadau a gwefannau a all cynnig cymorth di-dâl neu fforddiadwy am benderfyniadau ariannol.
Dengys ymchwil fod gan y rhai sy’n gweithio mewn proffesiynau dibynadwy 2, y sgiliau i helpu pobl sydd fwyaf mewn perygl o dwyll ariannol 2. Trwy ddarparu hyfforddiant yng Nghaerdydd a Bangor i gefnogi gweithwyr sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â phobl yn y gymuned, mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn gobeithio y gall y negeswyr dibynadwy hyn godi ymwybyddiaeth o sgamiau ariannol a helpu pobl i nodi’r rhybuddion fel y gallant osgoi sgamiau.
Cynhelir yr hyfforddiant mewn dau ddigwyddiad yng Nghaerdydd a Bangor, sydd ar agor i unrhyw un sy’n gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru neu’n eu cefnogi, o ofalwyr, yr heddlu a llyfrgellwyr i staff mewn meddygfeydd teulu.
Meddai Lee Phillips, Rheolwr Cymru o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Bob dydd, mae twyllwyr yn ceisio gwahanu’r sawl sy’n cynilo o’u harian haeddiannol gyda sgamiau cynyddol soffistigedig. Mae pobl sy’n cael eu twyllo yn colli £82,000 yr un ar gyfartaledd o’u pensiynau 3. Mae hynny’n swm o arian i’w golli sy’n newid bywyd.
“Trwy hyfforddi gweithwyr rheng flaen sydd eisoes yn adnabyddus ac wedi cael eu hymddiried yn eu cymunedau, gallwn helpu mwy o bobl i fod yn ymwybodol o sgamiau ariannol a’r camau syml y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hunain.”
Yn ogystal â chynrychiolwyr o MaPS, bydd siaradwyr yn y digwyddiadau yn cynnwys:
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau
- Grŵp Diwydiant Sgamiau Pensiynau (PSIG)
- Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
- Age Cymru a fydd yn cyflwyno eu gwaith gyda Phartneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau (WASP)
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cynnig yr awgrymiadau canlynol ar sut y gall pobl ddiogelu eu hunain rhag sgamiau pensiwn:
- Byddwch yn wyliadwrus o hysbysebion ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol sy’n addo enillion uchel o fuddsoddi. Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod!
- Byddwch yn wyliadwrus os cewch eich cysylltu ar hap a rhoddir pwysau arnoch i fuddsoddi mewn cynigion sydd ag amser cyfyngedig drwy ddefnyddio negeseuwyr i anfon dogfennau
- Dylech bob amser wirio bod y person a’r cwmni rydych yn siarad â hwy yn pwy maent yn dweud ydynt. Os ydych yn defnyddio cwmni anawdurdodedig, ni fydd gennych fynediad at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
- Mae gan yr FCA declyn i wirio’r risgiau pensiwn a chyfleoedd buddsoddi
-ENDS-
Ar gyfer ymholiadau cyfryngau cysylltwch â:
Swyddfa Wasg MaPS 020 8132 5284 / media@maps.org.uk
Mia Cochrane, uwch swyddog yr wasg 020 8132 4937 / mia.cochrane@maps.org.uk
Sarah Cordey, uwch reolwr cyfathrebu 020 8132 5251 / sarah.cordey@maps.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Arolwg Gallu Ariannol 2018, Gwasanaeth Arian a Phensiynau
- Mynegai Cywirdeb Ipsos MORI 2019
- 22 blwyddyn o gynilion pensiwn wedi’i ddiflannu o fewn 24 awr : Awdurdod Ymddygiad Ariannol 2019
Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yw: ‘pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.’
Mae MaPS yn gorff hyd braich a noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac mae ganddo ymrwymiad ar y cyd i ddarparu mynediad at y wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl ledled y DU, i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros gydol eu hoes. Mae’r sefydliad hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.
Mae MaPS yn dwyn ynghyd gwasanaethau di-dâl a ddarparwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Mae MaPS yn cynnig arweiniad ac apwyntiadau i gwsmeriaid dros y ffon, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Am wybodaeth bellach ewch i wefan y Gwasnaeth Arian a Phensiynau www.moneyandpensionsservice.org.uk
Gall defnyddwyr barhau i gael gafael ar ganllawiau di-dâl am eu harian a’u pensiynau trwy’r gwefannau a’r llinellau cymorth canlynol:
www.moneyadviceservice.org.uk / 0800 138 7777