Tri o ganlyniadau Covid
Pa effaith y mae Covid-19 wedi ei chael ar les ariannol? Mae ein pennaeth mewnwelediad Nick Watkins yn archwilio sut mae’r pandemig wedi effeithio ar nodau Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol ar gyfer addysg ariannol, cynilo, defnyddio credyd, cyngor ar ddyledion, a phensiynau.
Pan lansiwyd Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol ym mis Ionawr 2020, nid oedd gennym unrhyw syniad y byddai’r achosion Covid-19 cyntaf yn cael eu canfod yn y DU yn ddiweddarach yr un mis, nac y byddai’r wlad gyfan o fewn wythnosau dan glo. Bron i ddeunaw mis yn ddiweddarach, dim ond nawr rydym yn dod allan o beth rydym i gyd yn gobeithio yw’r gwaethaf o’r argyfwng iechyd. Nawr mae’n ymddangos yn foment dda i adolygu’r effaith y gallai fod ar Nodau Strategaeth y DU a lles ariannol yn gyffredinol. Er mwyn cefnogi’r dadansoddiad hwn, comisiynodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) bum adolygiad tystiolaeth cyflym ar wahân ar addysg ariannol, cynilo, defnyddio credyd, cyngor ar ddyledion, a phensiynau.
Ar yr olwg gyntaf, mae peth o’r data yn ymddangos yn baradocsaidd. Adroddwyd bod cwymp eang mewn GDP a chyflogaeth, mae’r nifer sy’n hawlio Credyd Cynhwysol wedi cynyddu’n sylweddol ynghyd â’r defnydd o fanciau bwyd. Ac eto mae arbedion cyfanredol wedi cynyddu, a rhwng Mawrth a Hydref 2020 ad-dalodd aelwydydd £15.6 biliwn o gredyd defnyddwyr. Yr hyn sy’n amlwg am y pandemig yw:
- Ei fod wedi bod yn hynod ymrannol
- Y gohiriwyd llawer o’r effaith ariannol
- Mae mynediad, sgiliau, a hyder Digidol wedi dod yn bwysicach.
Ymrannol
Nid yw’r pandemig wedi effeithio ar bawb yn yr un modd yn ariannol. Mae rhai wedi methu â gweithio ac felly wedi colli rhywfaint neu’r cyfan o’u hincwm; mae’r FCA yn amcangyfrif bod bron i draean o oedolion wedi profi gostyngiad. Mae eraill wedi parhau i weithio ar gyflog llawn ond heb gost cymudo na chymdeithasu. Gwrthodwyd seibiant i lawer o’r rhai sy’n edrych i fynd i mewn i’r farchnad swyddi, neu ailymuno â hi (roedd bron i hanner miliwn o bobl ifanc 18-24 oed yn ddi-waith yn y tri mis hyd at fis Hydref 2020).
Er bod gwariant dewisol ar wyliau a lletygarwch yn cael ei dynnu oddi wrth bawb, am ddarnau mawr o’r flwyddyn, ar yr un pryd bu cynnydd mewn gwariant hanfodol. Mae gweithio neu addysg gartref yn gofyn am ddyfeisiau digidol a mynediad at y rhyngrwyd, yn ogystal â phrydau bwyd a chartref cynnes – i’r rhan fwyaf bydd y gwres wedi bod ymlaen yn fwy na’r arfer. Bydd y gwariant hanfodol hwn yn gyfran uwch o’r cyfanswm ar gyfer y rhai ar incwm is.
Mae’r effaith wahaniaethol yn eithaf llwm. Mae’r rhai yn y grwpiau incwm uwch yn fwy tebygol o allu gweithio gartref a chynnal eu hincwm, wrth leihau eu gwariant. Y defnyddwyr hyn sydd wedi talu eu benthyca i lawr ac wedi cronni eu cynilion.
Ar ben arall y sbectrwm mae’r rhai sy’n gweithio mewn sectorau fel manwerthu neu letygarwch a’r rheiny sydd ar incwm amrywiol neu gyflogaeth ansicr wedi dioddef yn wael. Felly hefyd y rhai sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau eu horiau i ofalu am blant neu berthnasau eraill, neu wella o salwch neu brofedigaeth. Cynrychiolir y grwpiau hyn yn anghymesur ymhlith yr ifanc, y rhai o leiafrifoedd ethnig a’r rhai â phlant; yn enwedig menywod a hyd yn oed yn fwy felly rhieni sengl.
Gohiriwyd
Ar ddechrau’r pandemig a’r ymateb economaidd iddo, roedd llawer yn tybio y byddai’r galw am gyngor ar ddyledion yn cynyddu’n ddramatig. Mewn gwirionedd gostyngodd nifer yr ymgynghoriadau cyngor ar ddyledion ar ôl y cyfnod clo cyntaf wrth i’r sector addasu i gau’r sianel wyneb yn wyneb. Er gwaethaf y diffyg gallu, roedd llawer o’r dirywiad hwn yn y galw oherwydd gweithredu dan arweiniad y llywodraeth. Rhoddodd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws 80% o’u hincwm i lawer wrth i ohirio taliadau am forgeisiau, benthyciadau a chredyd prif ffrwd arall leihau costau gwasanaethu benthyca dros dro. I’r rheiny oedd â mwy o straen ariannol, roedd ‘forbearance’ yn golygu na allai beilïaid adennill dyledion oedd heb eu talu neu landlordiaid droi allan tenantiaid oedd mewn ôl-ddyledion.
Er bod y gefnogaeth hon, heb os, wedi helpu defnyddwyr i oroesi canlyniadau economaidd uniongyrchol y pandemig, mae hyn wedi gohirio yn hytrach na gwadu’r problemau. Bydd ad-daliadau cardiau credyd a benthyciad yn uwch, disgwylir i renti di-dâl cael eu talu, a bydd angen gwneud iawn am gyfraniadau pensiwn a gollwyd neu a ostyngwyd.
Digidol
Gwnaeth y cyfnod clo, cadw pellter cymdeithasol, a mesurau ataliol eraill rhoi stop ar unwaith i lawer o weithgareddau. Am ran helaeth o’r flwyddyn roedd yn amhosibl mynychu gwersi, darlithoedd, swyddfeydd, gwyliau neu ddigwyddiadau, heb sôn am fynd i lawr y ffordd am bryd o fwyd neu feddwl am wyliau dramor. Gorfodwyd busnesau a sefydliadau eraill i chwilio am ddewisiadau amgen digidol. Mewn llawer o achosion cyflymodd hyn y tueddiadau presennol. Cynyddodd siopa ar-lein a defnydd taliadau digyswllt hyd yn oed ymhlith defnyddwyr hŷn a oedd wedi bod yn arafach i’w mabwysiadu. Roedd gwerthiannau ar-lein ar gyfer 2020 yn ei gyfanrwydd 46% yn uwch nag ar gyfer 2019 ac ym mis Mehefin 2020 roedd siopa ar-lein yn cyrraedd uchafbwynt ar 33% o’r holl wariant manwerthu. Daeth cyfarfodydd Zoom neu Teams yn beth cyffredin nid yn unig i weithwyr swyddfa ond i blant ysgol, myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol.
Ond unwaith eto mae hyn wedi bod yn ymrannol. Yn ôl yr Edge Foundation, roedd 12% o ddysgwyr ysgolion y wladwriaeth yn y DU yn cael mwy na phum awr o addysg y dydd trwy blatfform digidol, o’i gymharu â 39% o ddysgwyr ysgolion preifat. I’r rhai ar incwm isel, gall cost caledwedd addas a mynediad at y rhyngrwyd i ddau neu dri o blant gartref fod yn afresymol. Mae’r un ffynhonnell yn amcangyfrif nad oes gan filiwn o blant oedran ysgol fynediad at y rhyngrwyd. Mae gwaharddiad digidol hyd yn oed yn fwy ymrannol nawr na chyn y pandemig.
Effaith ar Nodau Cenedlaethol
Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol: Nodau Cenedlaethol
• 2 filiwn yn fwy o blant a phobl ifanc yn cael addysg ariannol ystyrlon
• 2 filiwn yn fwy o bobl oedran gwaith yn ei chael yn anodd a’u gwasgu yn cynilio’n rheolaidd
• 2 filiwn yn llai o bobl yn defnyddio credyd yn aml i brynu bwyd neu dalu biliau
• 2 filiwn yn fwy o bobl yn defyddio cyngor am ddyled
• 5 miliwn yn fwy o bobl yn deall digon i gynllunio am, ac mewn, bwydy hwyrach.
Diffiniwyd Nodau Cenedlaethol Strategaeth y DU cyn i neb bron â bod glywed am Covid, cyfnodau clo, neu gadw pellter cymdeithasol. Er nad yw’r holl oblygiadau i’w gweld eto, ac nad yw ein harolwg mawr wedi adrodd tan yr hydref, mae rhai casgliadau y gallwn eu tynnu.
Addysg ariannol
Yn gyffredinol, mae addysg wedi cael ei heffeithio’n ddifrifol ac mae’r anghydraddoldebau presennol yn cael eu hamlygu a’u chwyddo. Mae risg i addysg ariannol gael ei gwasgu allan trwy ganolbwyntio ar ddiffygion mewn pynciau craidd, ymddygiad ac iechyd meddwl. Er y gallai’r pandemig fod wedi newid agweddau rhieni tuag at arian a’u gwneud yn fwy parod i dderbyn addysg ariannol eu plant, gallant hwythau hefyd ganolbwyntio ar ailadeiladu eu bywydau eu hunain ar ôl y pandemig.
Cynilo
Mae ein nod cynilo yn seiliedig ar y rhai yn ein segmentau Ei Chael yn Anodd a Gwasgu sydd o oedran gweithio. Mae’r segmentau hyn yn llawer mwy tebygol na’r rheiny sydd wedi eu clustogi o fod wedi colli incwm ac wedi tynnu cynilion i lawr yn ystod y pandemig. Wedi dweud hynny, mae rhai defnyddwyr incwm is wedi gallu cynilo ac mae newid datganedig mewn agweddau tuag at gynilo sy’n arbennig o amlwg yn y garfan oedran ieuengaf. Fodd bynnag, gall yr oedi mewn ad-dalu credyd ac ôl-ddyledion, ynghyd ag unrhyw gynnydd mewn diswyddiadau, rwystro’r bwriadau hyn eto.
Defnydd o Gredyd
Er bod benthyciadau cyfanredol defnyddwyr wedi gostwng yn ystod y pandemig, roedd hyn yn bennaf oherwydd ad-daliadau gan ddefnyddwyr incwm uwch y gostyngodd eu gwariant, yn aml yn anwirfoddol. Cymharol ychydig o’r defnyddwyr hyn sydd yn y dalgylch ar gyfer ein nod defnyddio credyd. Yn hytrach, y rhai ar incwm isel a/neu amrywiol sy’n defnyddio credyd am hanfodion a dyma’r un bobl sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y pandemig – y gweithwyr allweddol, rhentwyr, rhieni yn enwedig rhieni sengl, y rheiny sydd ag anableddau neu iechyd meddwl gwael, y sawl o leiafrifoedd ethnig a’r gweithwyr hunangyflogedig neu gweithwyr yr economi gìg.
Cyngor ar ddyledion
Mae’n amlwg y bydd y galw am gyngor ar ddyledion yn cynyddu dros y 12 mis nesaf. Gobeithio y bydd y buddsoddiad sylweddol mewn sianeli digidol a sianeli anghysbell eraill yn helpu’r sector i ddiwallu’r angen hwn. Heriau penodol fydd diwallu anghenion y rhai sydd wedi eu gwahardd yn ddigidol a’r rheiny nad ydynt erioed wedi bod angen cyngor ar ddyledion ac a allai felly fod yn llai abl i lywio’r system.
Pensiynau
Efallai bod Covid wedi lleihau lefel hyder ariannol cyffredinol pobl. Yn bendant mae wedi effeithio ar iechyd meddwl llawer o bobl a gall hyn yn ei dro effeithio ar eu gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd y pandemig yn sicr wedi effeithio ar y swm y mae pobl yn ei gynilo i’w pensiynau – p’un ai ar ffyrlo neu’n fwy difrifol trwy golli swydd neu anallu i hawlio unrhyw fath o incwm. Mae rhaid bod pryder mawr arall yn ynghylch y cynnydd mewn sgamiau wrth i fwy o gwmnïau fynd i ansolfedd a’r angen am fwy fyth o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar ran defnyddwyr.
Darganfyddwch fwy: Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol