Mae costau byw cynyddol yn gweld dros 11 miliwn o bobl yn gofyn am help ariannol yn ystod y tri mis diwethaf
- Mae un o bump o oedolion y DU wedi gofyn am gymorth, arweiniad arian neu gyngor ar ddyledion am ddim.
- Mae un o bob pedwar wedi siarad gyda chwmnïau am gymorth ychwanegol, e.e. cyflenwyr ynni.
- Pobl ifanc yw’r rhai mwyaf tebygol o fod angen help.
- Mae arweiniad arian am ddim a chyngor ar ddyledion ar gael, ond nid yw un o bob pump yn gwybod lle i ddod o hyd iddo.
Mae dros 11 miliwn o bobl ledled y DU wedi chwilio am gymorth ariannol yn ystod y tri mis diwethaf yn unig, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Mae’r arolwg o 3,000 o oedolion, a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Siarad Arian (Tachwedd 7-11), yn dangos bod costau byw cynyddol wedi arwain at un o bob pump person (21%) yn ceisio cymorth neu arweiniad am ddim.
Mae un o bob pedwar (24%) yn dweud eu bod wedi siarad â chwmnïau fel eu banc neu gyflenwr ynni am gefnogaeth ychwanegol, tra bod un o bob pump (18%) wedi bod yn chwilio am gyngor ar ddyledion am ddim.
Mae problemau ariannol hefyd yn llawer mwy cyffredin ymhlith pobl ifanc o’i gymharu â phobl dros 55 oed. Mae mwy na thraean o bobl ifanc 18-24 oed wedi bod angen help ac arweiniad am ddim (37% o’i gymharu â 7%), help gan gwmnïau (37% yn erbyn 12%) a chyngor ar ddyled (34% o’i gymharu â 5%).
Mae’r ffigyrau wedi eu rhyddhau i nodi Wythnos Siarad Arian, ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n cael ei gynnal gan MaPS sy’n annog pawb i ddechrau siarad am arian.
Y thema eleni yw credyd, gydag ysgolion, cwmnïau gwasanaethau ariannol, elusennau a chyflogwyr hefyd yn ymuno a llawer yn cynllunio eu digwyddiadau Siarad Arian eu hunain.
Gyda chostau byw yn codi’n sydyn, mae MaPS yn dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i bobl gael rheolaeth o’u cyllid a dod o hyd i gefnogaeth i bryderon ariannol. Fodd bynnag, mae’r arolwg barn hefyd yn datgelu nad yw un o bob pump (20%) yn gwybod ble i droi am help.
Mewn ymateb, mae MaPS yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd i ddefnyddio ei wasanaethau HelpwrArian am arweiniad am ddim ar bynciau fel arian bob dydd, budd-daliadau, pensiynau a dyled. Mae hefyd yn cynnig sesiynau un-i-un am ddim dros y ffôn, WhatsApp ac e-bost, ynghyd â gwybodaeth am siarad â chredydwyr a chyfeirio at gyngor dyled am ddim.
Yn ogystal, mae’n darparu teclyn Blaenoriaethwr biliau, sy’n helpu pobl â chyllidebu, blaenoriaethu eu biliau a dod o hyd i help os ydynt yn cael trafferth talu.
Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae ein hymchwil yn dangos bod aelwydydd ledled y wlad yn dechrau teimlo’r straen a ddaw yn sgil costau byw cynyddol. Gall hyn achosi llawer o straen a bod yn anodd ymdopi ag ef, felly mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag y bydd pryderon am arian yn dechrau.
“Yr Wythnos Arian Siarad hwn, rydym am i bobl gael yr holl declynnau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gymryd rheolaeth o’u cyllid. Drwy gael eu grymuso i wneud y penderfyniadau cywir, gall pawb wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.
“Os ydych yn cael trafferthion yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae ein neges yn glir; mae cymorth a chyngor am ddim ar gael, felly does dim rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun. Gall taclo pryderon arian yn gynnar newid bywydau ac mae’n aml yn arwain at fwy o hyder, gwell iechyd meddwl a mwy o wydnwch ariannol i’r dyfodol.
“Mae amrywiaeth o adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar gael trwy ein teclyn HelpwrArian, felly byddwn yn cynghori unrhyw un sydd angen help i gysylltu ar unwaith.”
-DIWEDD–
Am fwy o ymholiadau’r cyfryngau, gan gynnwys astudiaethau achos, ffoniwch Swyddfa’r Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.
Nodiadau i olygyddion
- Cynhaliwyd yr arolwg ymhlith 3,000 o bobl oed 18+ ym mis Medi 2022. Mae’n gynrychioliadol yn genedlaethol.
- Pan ofynnwyd a oeddent wedi gofyn am gymorth neu arweiniad am ddim yn ystod y tri mis diwethaf, cytunodd 21%, nid oedd 15% yn cytuno nac yn anghytuno ac roedd 64% yn anghytuno.
- Pan ofynnwyd a oeddent wedi gofyn am gyngor ar ddyledion yn ystod y tri mis diwethaf, roedd 18% yn cytuno, nid oedd 15% yn cytuno nac yn anghytuno, roedd 67% yn anghytuno.
- Pan ofynnwyd a oeddent wedi siarad â chwmnïau fel eu cyflenwr ynni neu fanc am gefnogaeth ychwanegol y gallent ei ddarparu, roedd 24% yn cytuno, nid oedd 17% yn cytuno nac yn anghytuno ac roedd 58% yn anghytuno.
- Yn ôl yr ONS, mae tua 52.9 miliwn o bobl 18 oed neu’n hŷn yn y DU.
Ynglŷn â’r Wythnos Siarad Arian
Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sy’n helpu pobl i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn trwy gydol y flwyddyn.
Bydd Wythnos Siarad Arian eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘credyd’ – i helpu i symleiddio rhai o’r jargon, adeiladu dealltwriaeth pobl o gynhyrchion credyd, a beth yw eu dewisiadau, gan gynnwys mathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas. Fodd bynnag, rydym yn annog pobl i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd ar arian.
Mae mwy o wybodaeth ar gael arhttps://maps.org.uk/cy/wythnos-siarad-arian/.
Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yma i sicrhau bod pawb yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu harian drwy gydol eu hoes: o arian poced i bensiynau. Pan fyddant, mae cymunedau’n iachach, mae busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r economi yn elwa ac mae unigolion yn teimlo’n well eu byd. Mae MaPS yn darparu arweiniad arian a phensiynau diduedd am ddim i’r cyhoedd drwy HelpwrArian, a ddaeth â’r gwasanaethau etifeddiaeth at ei gilydd y Gwasanaeth Cyngori ar Arian, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
Mae MaPS yn gweithio i sicrhau bod y DU gyfan yn deall bod iechyd ariannol, corfforol a meddyliol i gyd wedi’u cysylltu’n ddwfn. Rôl MaPS yw cysylltu sefydliadau â’r diben a rennir o gyflawni’r pum nod a nodir yn Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol.
Mae MaPS yn cefnogi arloesedd fel y gall pawb ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol i helpu pobl i deimlo mwy o reolaeth o’u harian, wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf ac yn cynnwys pobl o bob cefndir. Mae MaPS yn gorff hyd-braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Am fwy o wybodaeth ewch i https://maps.org.uk/cy/. Gall aelodau’r cyhoedd gael canllawiau am ddim am eu harian a’u pensiynau drwy: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/ / 0800 138 7777.