MaPS yn cyhoeddi Cynllun Corfforaethol 2023/24
Cyhoeddwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) ei Gynllun Corfforaethol blynyddol, heddiw.
Mae Cynllun Corfforaethol 2023/24 yn cwmpasu ail flwyddyn Strategaeth Gorfforaethol tair blynedd gyntaf erioed MaPS.
Mae’n amlinellu pum thema o flaenoriaeth a fydd yn helpu MaPS i ddarparu ei wasanaethau craidd i filiynau o bobl, fel eu bod yn cael yr arweiniad a’r cyngor sydd eu hangen arnynt ar arian, dyled a phensiynau, sut bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
Dywed Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae teimlo’n hyderus ac mewn rheolaeth o’ch sefyllfa ariannol yn hanfodol, ac mae’n bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, wrth i bobl wynebu pwysau costau byw.
“Mae ein cynllun corfforaethol yn amlinellu sut y bydd MaPS yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wella lles ariannol pobl ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Bydd darparu yn unol â’n blaenoriaethau yn sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Dywedodd Sara Weller, Cadeirydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae gan MaPS rôl allweddol i’w chwarae wrth wneud arweiniad ariannol diduedd yn hygyrch i bawb, yn enwedig gan ystyried yr heriau economaidd presennol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid niferus i helpu pobl ledled y wlad i deimlo eu bod yn fwy abl i reoli eu harian.”
DIWEDD
Am ragor o ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â Swyddfa Wasg MaPS ar 020 8132 5284 / media@maps.org.uk.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Cynllun Corfforaethol MaPS 2023/24 ar gael yma.
Ynglŷn â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Ein gweledigaeth yw “pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau.”
Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau drwy www.moneyhelper.org.uk a 0800 138 7777. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys ystod o declynnau am ddim, yn ogystal â’r cyfle i siarad ag arbenigwr trwy WhatsApp, ffôn, e-bost neu sgwrs fyw.
Rydym hefyd yn cydlynu Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i helpu pawb i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen ac adeiladu dyfodol ariannol gwell.
Rydym yn gorff hyd braich, a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a gyllidir gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu gynllun corfforaethol blynyddol a strategaeth.