Ein gweledigaeth: 'Pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a phensiynau'
Cyflwyno’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a sefydlwyd ar ddechrau 2019, ac mae hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.
Chwilio am help arian neu bensiynau?
Cymorth i bawb
Arweiniad arian a phensiynau diduedd, wedi’u cefnogi gan y llywodraeth ac yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. 0800 138 0555
Partnerwch gyda ni
Gweithiwch gyda ni a defnyddiwch ein cynnwys a’n gwasanaethau rhad ac am ddim i helpu’ch cwsmeriaid i wella eu lles ariannol.
Ein cenhadaeth
Rydym yn helpu pobl – yn enwedig y sawl sydd â’r angen mwyaf – i wella’u lles ariannol ac i adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan gydweithio ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gyrchu arweiniad ar arian a phensiynau a chyngor ar ddyledion o safon uchel ar hyd eu bywydau, sut a phryd y mae eu hangen arnynt.
Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol
Mae Strategaeth y DU yn fframwaith deng mlynedd a fydd yn helpu i gwrdd â’r weledigaeth o bawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a phensiynau.