Wythnos Siarad Arian
- Beth yw Wythnos Siarad Arian?
- Pam siarad am arian?
- Gwneud Un Peth
- Siarad am Arian yn eich sefydliad
- Siarad am arian yn yr ysgol
- Siarad am arian â ffrindiau a theulu
- Os nad yw’n ddiogel i siarad
Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian. Bob blwyddyn rydym yn cynnal Wythnos Siarad Arian er mwyn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid. Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, waeth beth yw sector neu faint eich sefydliad, a dod o hyd i arweiniad ar sut i Siarad Arian gyda’ch ffrindiau, eich teulu neu’ch plant.
Bydd Wythnos Siarad Arian yn cael ei chynnal rhwng 6 – 10 Tachwedd 2023.
Beth yw Wythnos Siarad Arian?
Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn gydol y flwyddyn.
Bydd Wythnos Siarad Arian eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘credyd’ – i helpu i symleiddio rhai o’r jargon, adeiladu dealltwriaeth pobl o gynnyrch credyd, a beth yw eu hopsiynau, gan gynnwys mathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas.
Fodd bynnag, rydym yn eich annog i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd o arian.
Pam siarad am arian?
Wrth i ni adfer o bandemig Covid-19 a gyda phwysau costau byw presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cael cefnogaeth i bryderon ariannol.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:
- yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell â llai o risg
- yn mwynhau perthnasau personol cryfach
- yn helpu eu plant i ffurfio arferion arian da gydol oes
- yn teimlo llai o straen a phryder, a’u bod â mwy o reolaeth.
Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.
Cysylltu â’n Tîm Partneriaethau
Am gymorth i ddechrau eich taith Wythnos Siarad Arian, cysylltwch â’r Rheolwr Partneriaethau yn eich rhanbarth neu’ch cenedl.
Sut allwn ni helpu?
Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, ble bynnag ydych chi neu beth bynnag yw eich sefydliad.
Siaradwch â niGwneud Un Peth
Yr Wythnos Siarad Arian yma, rydym yn gofyn i bobl ‘Gwneud Un Peth’:
Gofynnwch i’r bobl rydych yn eu cefnogi i ‘wneud un peth’ gallai helpu i wella eu lles ariannol, nawr neu yn y dyfodol.
Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll, siarad â phlentyn am arian poced neu ddefnyddio un o’r teclynnau neu’r cyfrifianellau am ddim ar wefan HelpwrArian.
- Penderfynu ar eich ‘un peth’
- Rhoi gwybod i bawb amdano
- Gofyn i eraill wneud yr un peth!
Siarad am Arian yn eich sefydliad
Defnyddiwch ein pecyn cyfranogi i’ch helpu i ddechrau sgwrs mewn unrhyw sefyllfa, gan gynnwys:
- yn eich gweithle
- gyda’ch cwsmeriaid ar draws ystod o sectorau
- mewn addysg (ynghyd â’n hadnodd arbenigol ar gyfer ysgolion), a
- gartref gyda ffrindiau a theulu.
Siarad am arian yn yr ysgol
Mae’r pecyn cymorth penodedig hwn i ysgolion yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo lles ariannol eich disgyblion a myfyrwyr, yn ystod Wythnos Siarad Arian a phellach.
Darganfyddwch fwy am sut rydym yn cefnogi addysg ariannol mewn ysgolion
Siarad am arian â ffrindiau a theulu
Os nad yw’n ddiogel i siarad
Os yw eich partner neu’ch teulu’n rheoli eich mynediad i’ch arian, neu’n mynd i ddyled yn eich enw, mae’n gamdrin ariannol. Ond nid oes angen brwydro ymlaen ar eich pen eich hun.
Dyma rai o’r pethau gallwch wneud a ble i fynd am help a chymorth.
HelpwrArian: Canllawiau arian a phensiwn diduedd am ddim
Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a'ch dewisiadau pensiwn yn gliriach. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i'w ddefnyddio.