Financial education in primary and secondary schools

Addysg ariannol mewn ysgolion

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd braich Llywodraeth y DU sy’n gweithio gyda rhanddeiliaid ledled amrywiaeth o sectorau i helpu gwella darpariaeth addysg ariannol yn yr ysgol, y cartref ac yn y gymuned.

Ochr yn ochr â rieni a gofalwyr, mae ysgolion ac athrawon mewn sefyllfa unigryw i helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau arian sydd eu hangen arnynt.

I wella darpariaeth addysg ariannol, rydym yn:

  • Cefnogi datblygiad offer a gwasanaethau addysg ariannol a mynediad atynt.
  • Ariannu cyflwyno rhaglenni addysg ariannol, i brofi dulliau newydd a chynyddu argaeledd ymyriadau sy’n gweithio.
  • Ymgymryd a hyrwyddo ymchwil i wella ein dealltwriaeth o anghenion addysg ariannol plant a phobl ifanc a’u lles ariannol.
  • Rhedeg a chyfrannu at rwydweithiau sy’n cefnogi datblygiad offer addysg ariannol a rhannu arfer gorau.

Mae MaPS yn arwain y gwaith o ddarparu Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol, gan weithio tuag at weledigaeth o bawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau. Mae’r strategaeth yn cynnwys nod i sicrhau, erbyn 2030, bod dwy filiwn yn fwy o blant a phobl ifanc yn y DU yn derbyn addysg ariannol ystyrlon.

Darganfyddwch fwy am Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol

 

 

Mae ymchwil yn dangos bod addysg ariannol yn gwneud plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o:

  • cynilo arian
  • cael cyfrif banc, a
  • bod yn hyderus gyda rheoli arian.

Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod mwyafrif o blant a phobl ifanc yn dweud bod addysg ariannol yn ddefnyddiol iddynt.

Gall addysg ariannol wella’r cwricwla presennol neu gall fod yn allgyrsiol. Gall y pwnc wella amrywiaeth o bynciau hefyd. Gall ddod â’r cwricwlwm mathemateg yn fyw gan ddefnyddio enghreifftiau sy’n berthnasol i fywydau myfyrwyr, neu gellir ei ymgorffori mewn pynciau datblygiad personol, iechyd a lles a dinasyddiaeth.

Mae addysg ariannol yn gwella lles ariannol ac yn paratoi myfyrwyr i ddeall a rheoli eu hincwm fel oedolion.

Archwilio’r newyddion ac ymchwil addysg ariannol diweddaraf (yn Saesneg)

Dechrau’n gynnar. Mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod agweddau plant ynghylch arian wedi’u datblygu’n dda erbyn eu bod yn saith oed. Felly, ymgorfforwch ddysgu am fyd arian yn eich dysgu o gyn-ysgol i fyny.

Rhoi ddysgu ar waith. Dangoswyd bod darparu cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu trwy brofiad yn fwyaf effeithiol. Gallech drefnu banc cynilo ysgol, cefnogi grwpiau o fyfyrwyr i agor cyfrifon banc neu roi cyfle i blant reoli cyllideb.

Gwneud y mwyaf o ddigwyddiadau bob dydd. Gall addysg ariannol fod yn arbennig o effeithiol os yw’n cyd-fynd â chyfle i’r person ifanc ei roi ar waith. Er enghraifft, gallai dysgu manylach am fanciau ac arbed gyd-fynd â myfyrwyr sy’n agosáu at 11 oed pan allant agor cyfrif.

Cynnwys rhieni a gofalwyr. Fel mewn meysydd dysgu eraill, bydd addysg ariannol yn yr ysgol yn fwyaf llwyddiannus pan fydd rhieni’n ymgysylltu hefyd. Gwahoddwch rieni i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ariannol trwy brofiad, neu annog myfyrwyr a rhieni i ddatblygu eu dysgu gyda’i gilydd gartref.

Wythnos Siarad Arian

Dyma becyn cymorth i ysgolion sy’n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo lles ariannol eich disgyblion a’ch myfyrwyr, yn ystod Wythnos Siarad Arian a thu hwnt.

Gwerslyfr addysg ariannol Mae’ch Arian o Bwys

Wedi’u hariannu ar y cyd gyda Arbenigwr Arbed Arian Martin Lewis, mae gwerslyfr addysg ariannol level uwchradd Young Money yn cael ei deilwra i gwricwla ledled y DU. Mae hefyd yn cynnwys canllaw addysgu. Darganfyddwch fwy a lawlwythwch copïau am ddim.

Cynllunio cwricwla

Financial education planning framework 3-11 yrs - Welsh cover

Mae’r Fframweithiau Cynllunio Addysg Ariannol, a ardystiwyd gan MaPS, yn gosod yr ardaloedd allweddol o wybodaeth am arian, sgiliau ac ymddygiadau sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, helpu ysgolion i gynllunio, cyflawni a monitro cynnydd. Maent ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Dod o hyd i adnoddau effeithiol

Rydym yn ariannu’r Marc Ansawdd Addysg Ariannol (yn Saesneg) i helpu athrawon dod o hyd i adnoddau effeithiol.

Ymchwil i’r hyn sy’n gweithio ac ein mewnwelediadau

Lawrlwythwch ein hymchwiliadau diweddaraf ar addysg ariannol mewn ysgolion (yn Saesneg).

Cyflwynir cwricwlwm newydd i Gymru o 2022, ag addysg ariannol yn berthnasol i nifer o’r meysydd dysgu a phrofiad newydd, gan gynnwys mathemateg a rhifedd a iechyd a lles.

Yn y cwricwlwm presennol, mae addysg ariannol yn cael ei gynnwys mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o Ddatblygiad Mathemategol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

  • Erbyn diwedd ysgol gynradd (11 oed), dylai fod disgyblion wedi dysgu gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio arian, deall defnyddio £ a c, a gallu cyfrifo costau a chyllidebu, cynllunio ac olrhain arian a chynilion, cyfrifo elw a cholled, ac asesu gwerth am arian.
  • Erbyn 16 oed, dylent wybod am wahanol arian breiniol a chyfraddau cyfnewid, gallu gwneud cyfrifiadau mwy cymhleth (fel adlog), gwybod sut i gymharu a dewis cynhyrchion ariannol, a bod wedi ymarfer rheoli cyllidebau cartref.
  • Mewn addysg bersonol a chymdeithasol, mae myfyrwyr yn dysgu am sut caiff arian ei ennill a phwysigrwydd cynilo ac edrych ar ôl eich arian.
  • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, sy’n helpu athrawon cynnwys darllen a mathemateg ar draws pob maes yn y cwricwlwm, hefyd yn cynnwys canlyniadau dysgu sy’n berthnasol i reoli arian.

Darllenwch fwy am y cwricwlwm presennol mewn ysgolion yng Nghymru.

 
E-bostiwch y tîm yn cyp@maps.org.uk a chael y newyddion diweddaraf am addysg ariannol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol