Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian

Wrth i nifer wynebu gwasgfa na welwyd ei thebyg o’r blaen ar eu cyllidebau, mae MaPS wedi datblygu cynnwys, teclynnau ac arweiniad i roi’r wybodaeth gywir i bobl yn gyflym, gan eu cyfeirio at wybodaeth a phartneriaid dibynadwy.

Rydym yn y wasgfa fwyaf ar incwm mewn dros 50 mlynedd gan adael miliynau o bobl angen cymorth ariannol. Mae prisiau ynni uchel, chwyddiant uwch a chyfraddau llog cynyddol yn golygu bod disgwyl i economi’r DU fod mewn dirwasgiad drwy 2023.

Mae’n bwysig bod pobl yn cael mynediad at yr arweiniad sydd ar gael i sicrhau bod cymaint o effeithiau gwaethaf yn cael eu lleihau.

Mae ein hymgyrch Costau Byw â brand HelpwrArian yn gwneud pobl yn ymwybodol o’r hyn y gallwn ei gynnig ac mae’n cyfeirio pobl at yr arweniad arian diduedd am ddim sydd ar gael i bobl ledled y DU.

Nawr mae angen eich cefnogaeth arnom i wneud yn siŵr bod yr ymgyrch mor effeithiol â phosibl trwy ei integreiddio a’i chwyddo drwy eich sianeli.

Helpu eich pobl i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen

Rydym yn cynnig arweiniad arian clir, diduedd ac am ddim yn uniongyrchol i bobl drwy ein sianeli digidol, canllawiau printiedig a llinellau cymorth defnyddwyr. Gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw gynnwys rydych chi’n ei rannu gennym yn galluogi’r bobl rydych chi’n eu cefnogi i gael y cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt.

Rydym hefyd yn gwybod y gallai llawer ohonynt fod yn teimlo eu bod o dan bwysau’n ariannol ar hyn o bryd ac yn wynebu heriau ariannol newydd mewn cyfnod ansicr. Mae cael trafferth i dalu biliau mewn pryd, delio gyda llai o incwm, costau byw cynyddol neu golli swyddi yn gallu gwneud i bobl deimlo fel nad ydyn nhw’n gwybod lle i droi.

Cyfeiriwch at gynnwys costau byw HelpwrArian

Dyna pam rydym wedi creu pecynnau cynnwys gweithredol, gan gynnwys cylchlythyr a chynnwys mewnrwyd, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a thestun templed, ac asedau printiedig, i chi eu defnyddio ar eich sianeli.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg drwy’r botymau isod, bydd yr asedau hyn yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth a darparu arweiniad arian dibynadwy i’ch gweithwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr y gwasanaeth yn y ffordd maent am gael mynediad ato.

Gallwch hefyd gysylltu â neu ymgorffori ein fideos o’n sianel YouTube

Lawrlwytho cylchlythyr a thestun mewnrwyd

Lawrlwytho asedau Twitter

Lawrlwytho asedau LinkedIn

Lawrlwytho asedau Facebook ac Instagram

Lawrlwytho posteri

Rhannu llyfryn costau byw HelpwrArian

Am fwy o wybodaeth fanwl am ymdopi â chostau byw cynyddol, rydym wedi cynhyrchu llyfryn 28 tudalen y gellir ei lawrlwytho o wefan HelpwrArian neu drwy’r ddolen isod.

Lawrlwytho llyfryn yn Gymraeg

Mwy o wybodaeth

Rydym yma i helpu. Os oes gennych gwestiynau pellach rydych yn teimlo nad ydynt yn cael sylw yn yr adnoddau ar y dudalen hon, anfonwch e-bost atom ar brandandmarketing@maps.org.uk.

Dysgu mwy am Helpwr Arian

Mae HelpwrArian yma i helpu pobl i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud a sut i’w wneud. Mae yma i roi pobl mewn rheolaeth, gyda chymorth di-duedd am ddim sy’n gyflym i ddod o hyd iddo, yn hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

 
Back To Top

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Canllawiau i gefnogi'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig neu gostau byw cynyddol