Lles ariannol yn eich awdurdod lleol
- Beth yw lles ariannol?
- Sut y gall gwasanaethau'r cyngor wella lles ariannol preswylwyr
- Lles ariannol i'ch gweithwyr
- Sut y gallwn helpu cynghorau lleol
- Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan wasanaethau hanfodol eich cyngor botensial enfawr i gefnogi preswylwyr gyda’u cyllid personol – o rent a budd-daliadau mewn tai i addysg ariannol mewn ysgolion a phensiynau mewn gofal cymdeithasol Gallwn eich helpu adeiladu lles ariannol i’ch preswylwyr, am ddim.
Mae cyllid personol yn effeithio ar bob agwedd ar les eich preswylwyr – mae cysylltiad agos rhwng ein hiechyd corfforol, meddyliol ac ariannol. Mae gan awdurdodau lleol lefelau mynediad unigryw i ddarparu cefnogaeth lles ariannol yng nghyfnodau allweddol bywyd, ac i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, fel plant sy’n cael gofal, a phobl hŷn. Mae cefnogi lles ariannol yn ffordd arall y gallwch helpu pobl yn eich cymuned a gwella eu hiechyd a’u hapusrwydd, a chryfhau’r gwasanaethau rydych yn eu darparu.
Beth yw lles ariannol?
Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae’n bod yn ymwybodol y gallwch dalu’r biliau heddiw, eich bod yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach.
Yn fyr: teimlo’n hyderus ac wedi eich grymuso.
Yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel eich un chi i adeiladu lles ariannol ledled y DU, i helpu busnesau, cymunedau ac unigolion i ffynnu.
Darganfyddwch fwy am Strategaeth y DU am Les Ariannol.
Sut y gall gwasanaethau’r cyngor wella lles ariannol preswylwyr
Efallai bod ein bywydau yn cael eu dylanwadu fwyaf uniongyrchol ar y lefel leol – trwy ein cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a chymdogaethau. Ac mae ar lefel leol lle gall preswylwyr ddod i gysylltiad â gwasanaethau a mecanweithiau cymorth a all wella eu bywydau.
Mae eich awdurdod lleol mewn sefyllfa unigryw i gefnogi lles ariannol preswylwyr trwy ystod eang o’ch gwasanaethau, gan gynnwys:
- Cynnig cefnogaeth i denantiaid tai cymdeithasol gyda sgiliau fel cyllidebu, neu gynnig arweiniad ariannol iddynt ar gyfnodau bywyd allweddol fel mamolaeth/tadolaeth neu ddiswyddo.
- Cefnogi gwasanaethau ysgolion a phlant i gynnig addysg ariannol ystyrlon i blant a phobl ifanc, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am eu harian pan fyddant yn oedolion.
- Yn ymgorffori ein teclynnau a’n cynnwys am ddim ar eich gwefannau i gynorthwyo preswylwyr yn uniongyrchol i ddod o hyd i gyngor dyled lleol, cyllidebu, canllawiau arian coronafeirws a mwy.
- Adennill Treth Gyngor mewn ffordd sy’n cydweithredu ag asiantaethau cynghori ar ddyledion i gefnogi pobl mewn ôl-ddyledion.
Gallwn gynnig cefnogaeth bwrpasol am ddim i’ch gwahanol wasanaethau i’ch helpu integreiddio canllawiau arian, teclynnau a strategaethau lles ariannol am ddim. Darganfyddwch fwy am sut y gallwn eich cefnogi.
Lles ariannol i’ch gweithwyr
Mae eich cyngor hefyd yn gyflogwr mawr yn eich ardal chi, ac mae’n lle gwych am fynediad at arweiniad ariannol. Darganfyddwch fwy am sut y gallwn eich helpu adeiladu lles ariannol yn eich gweithle.
Adeiladu lles ariannol i’ch gweithwyr
Sut y gallwn helpu cynghorau lleol
Mae ein rheolwyr partneriaethau wedi’u lleoli ledled y DU mewn lleoliadau yn agos atoch chi, ac yn dod â’ch dealltwriaeth o heriau ariannol personol yn eich lleoliad, a chefnogaeth am ddim i wneud newid cadarnhaol i’ch gweithwyr a’ch cymuned.
Lles ariannol yn eich lleoliad Lles Ariannol yng Nghymru
Rydym hefyd yn cynnig awdurdodau lleol:
- Mwy o wybodaeth am eich anghenion lleol trwy ein mewnwelediad a’n hymchwil.
- Deall o’n hymchwil sut y bydd cyflwyno mentrau lles ariannol i’ch ardal o fudd i’ch preswylwyr.
- Helpu i ddylunio a gweithredu mentrau lles ariannol yn strategol ac yn effeithiol.
- Y cyfle i fod yn bartner gyda ni wrth redeg a gwerthuso cynlluniau peilot i wella lles ariannol.
- Cynnwys y canllawiau arian a phensiynau, teclynnau a llinellau cymorth y gallwch eu hymgorffori yn eich gwasanaethau.
- Wythnos Siarad Arian, ein hymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n cyrraedd miliynau o bobl bob mis Tachwedd, ac sy’n darparu llwyfan ar gyfer sgyrsiau arian yn y gwaith, gartref, ysgol, ac i bobl o bob cefndir.
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth bwrpasol am ddim i adeiladu lles ariannol yn eich awdurdod lleol.